Dod a hud y Nadolig i Nefyn

Dyddiad: 08/12/2023
Mae criw o bobl ifanc o ardal Nefyn ym Mhen Llŷn wedi bod yn brysur dros yr wythnosau diwethaf yn trefnu a hyrwyddo noson arbennig yn Neuadd Gymunedol Nefyn pryd bydd cwmni theatr Gymraeg, Mewn Cymeriad, yn perfformio eu sioe “Nadolig Ddoe a Heddiw”.

 

Bydd y sioe yn mynd â'r gynulleidfa ar daith rithiol hudolus gyda Celyn a'r dylwythen dêg Hen Ben i chwilio am y Nadolig. Bydd y sioe yn apelio at yr hen a'r ifanc fel ei gilydd.

 

Mae'r bobl ifanc wedi bod yn gweithio gyda Andrew Owen, Gethin Jones ac Carys Evans o Wasanaeth Ieuenctid Gwynedd a Rhian Cadwaladr o gynllun Hyrwyddwyr Ifanc Noson Allan Cyngor Celfyddydau Cymru.

 

"Rydym wedi bod yn mesur a thynnu lluniau o'r Ganolfan ac wedi bod yn siarad gyda'r cwmni," meddai Olivia Roberts, sy'n 12 oed.

 

"Byddwn yn croesawu'r gynulleidfa, yn eu dangos i'w seddi ac yn gwerthu tocynnau. Fe benderfynon ni ar y prisiau ac maen nhw'n £4 i blentyn a £6 i oedolion," meddai Kara Murtha, 11 oed.

 

"Dwi'n gyffrous am hyn achos does dim byd fel hyn yn digwydd yn Nefyn fel arfer a dwi'n gobeithio y daw 'na lot o bobl i'n cefnogi ni," meddai Olivia.

 

Mae’r sioe yn Ganolfan Gymunedol Nefyn ar 11/12/2023 ac yn cychwyn am 18:30

 

Mae tocynnau ar gael o wefan Mewn Cymeriad www.mewncymeriad.cymru