Dod at ein gilydd i ddysgu mwy am ddementia

Dyddiad: 19/06/2023
Bydd digwyddiad arbennig yn cael ei gynnal gan Dementia Gwynedd yng Ngaleri Caernarfon dydd Mercher 28 Mehefin i godi ymwybyddiaeth, dysgu mwy am ddementia a chymryd rhan mewn gweithdai rhyngweithiol.

Bydd croeso cynnes i unrhyw un sydd eisiau gwybod mwy am ddementia i ymuno gyda rhaglen o ddigwyddiadau am ddim sydd ar gael.

Bydd rhaglen y diwrnod fel a ganlyn:

10:00-16:00 - Arddangosfa ffotograffiaeth Perthnasau

10:30-11:30 - Sesiwn Ffrindiau Dementia & Profiad VR

 12:00-13:00 - Gweithdy Dawns i Bawb – Cymru Ni

14:00-16:00 - Ffilm “The World Turned Upside Down”

 

Dywedodd Emma Quaeck, Cydlynydd Dementia Gwynedd:

“Pwrpas y diwrnod yw gwahodd pobl i ddod draw i ddarganfod sut gallwn ni helpu i gefnogi pobl sydd wedi’u heffeithio gan ddementia yn ein cymunedau – mae hynny’n cynnwys y person sydd â diagnosis ac aelodau o’r teulu.

“Mae’r rhan fwyaf ohonom yn adnabod rhywun sydd wedi’i effeithio gan ddementia, felly mae hwn yn gyfle gwych i ddarganfod mwy.

“Mae'r diwrnod yn cynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau rhyngweithiol ac mae'n rhad ac am ddim.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan:

“Rwyf yn hynod falch o’r digwyddiad sydd yn gyfle gwych i godi ymwybyddiaeth a dod i ddysgu mwy am ddementia ar cymorth sydd ar gael yma yng Ngwynedd. Bydd y digwyddiad yma yn llawn hwyl ac yn rhoi gwen ar wyneb pawb ac rwyf yn sicr yn annog unrhyw un i ddod draw.” 

I archebu lle ar gyfer y gweithgareddau ewch i :-Diwrnod Dementia - Codi Ymwybyddiaeth : Dementia Day- Raising Awareness Tickets, Wed 28 Jun 2023 at 10:00 | Eventbrite

Neu i archebu eich lle dros y ffôn neu ar gyfer fwy o wybodaeth cysylltwch â Emma Quaeck, Cydlynydd Dementia Gwynedd ar 07768 988095/ emmajaynequaeck@gwynedd.llyw.cymru