Cyngor Gwynedd yn erlyn achos lles anifeiliaid yn llwyddiannus

Dyddiad: 15/06/2023

Mae ffermwr o Rydymain wedi cael gorchymyn i dalu mwy na £2,500 mewn dirwyon a chostau ac i gyflawni 150 awr o wasanaeth cymunedol, ar ôl ei gael yn euog o naw trosedd yn ymwneud â lles anifeiliaid a methiant i waredu carcasau anifeiliaid yn briodol.

Yn Llys Ynadon Caernarfon ar 19 Mai 2023 cafwyd Mr Liam Hughes, sy’n ffermio ar dir ym Mron Einion, Rhydymain ger Dolgellau yn euog o achosi dioddefaint diangen i rai o’i ddefaid, methu â chael gwared ar garcasau anifeiliaid, a methu â chydymffurfio gyda hysbysiadau swyddogol Cyngor Gwynedd (yr Awdurdod Gorfodi) mewn perthynas â chlafr defaid.

Fe ddaru Mr Hughes bledio'n ddieuog i'r cyhuddiadau a ddygwyd gan Gyngor Gwynedd.

Cyflwynwyd tystiolaeth mewn perthynas â lles defaid, a oedd wedi dioddef yn ddiangen, gyda’u hanghenion i’w hamddiffyn rhag poen, dioddefaint, anaf, ac afiechyd yn cael ei wrthod.

Cyflwynwyd tystiolaeth hefyd mewn perthynas â methiant i waredu carcasau defaid; i hysbysu'r Awdurdod Lleol am y driniaeth a roddir i ddefaid sydd wedi'u heintio â'r clafr; ac mewn perthynas â symud defaid o'r daliad a oedd yn destun Hysbysiad Ynysu, gan redeg y risg o ledaenu'r clefyd hwnnw.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Amgylchedd:

“Mae ein swyddogion Safonau Masnach yn gweithio’n agos gyda’r gymuned amaethyddol, trwy gyngor ac ymyrraeth, i sicrhau bod safonau uchel o ran iechyd a lles anifeiliaid yn cael eu cynnal.

“Hoffwn bwysleisio bod mwyafrif helaeth ffermydd Gwynedd yn darparu’r safonau disgwyliedig hyn, a bod y rhan fwyaf o ffermwyr yn mynd yr ail filltir i sicrhau lles eu hanifeiliaid.

“Fodd bynnag, lle mae diffyg cydymffurfio – fel yn yr achos penodol hwn – nid oes gan y Cyngor unrhyw ddewis ond cymryd y camau gorfodi angenrheidiol.

“Hoffwn ddiolch i’r swyddogion am eu gwaith ar yr hyn a all fod yn amgylchiadau trist a thrallodus, ac i’r Ynadon am eu proffesiynoldeb wrth ymdrin â’r achos hwn.”

Cyhoeddodd yr ynadon ddyfarniadau euog yn erbyn Liam Hughes mewn perthynas â phedwar cyhuddiad o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006, gyda dedfryd o 150 awr o wasanaeth cymunedol yn cael ei roi am hynny. Mae’r gwasanaeth cymunedol i’w gwblhau o fewn 12 mis, a gallai methiant i wneud hynny arwain at ddedfryd o garchar.

Penderfynwyd ar dri dyfarniad euog mewn perthynas â charcasau o dan Reoliadau isgynnyrch Anifeiliaid (Cymru) 2014, gyda phob cyhuddiad yn cael dirwy o £100.

Penderfynwyd ar ddau ddyfarniad euog ychwanegol o dan Gorchymun Clafr Defaid 1997, yn deillio o rhan 73 o’r Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981, gyda phob cyhuddiad yn derbyn dirwy o £100.

Dyfarnodd y llys hefyd gyfraniad o £2,000 i'r Awdurdod Lleol tuag at gostau cyfreithiol, ynghyd a tal ychwanegol dioddefwr o £95, gyda chyfanswm y taliad o £2,595 i'w dalu o fewn 56 diwrnod.

Os am gyngor yn ymwneud ag iechyd a lles neu ar gadw anifeiliaid fferm neu i adrodd am broblem lles anifeiliaid, dylai trigolion Gwynedd ffonio llinell iechyd anifeiliaid Safonau Masnach ar 01766 771000, neu e-bostio safmas@gwynedd.llyw.cymru