Enwebiad am wobr genedlaethol i un o gynlluniau Cyngor Gwynedd i atal digartrefedd

Dyddiad: 07/09/2023
Pods

Mae podiau arloesol  sy’n rhoi llety i bobl digartref wedi cyrraedd rhestr fer am wobr yng nghategori ‘Datblygiad Tai â Chymorth Gorau – Gwledig/Maestrefol’ yn rhan o Wobrau Datblygu Inside Housing 2023. 

Mae Cyngor Gwynedd wedi datblygu pedwar pod yng Nghaernarfon i ddarparu llety â chymorth dros dro i bobl sy'n ddigartref yn yr ardal. Mae’r podiau wedi’i ddodrefnu’n llawn ac yn hunan-gynhaliol, gydag ardal gegin a byw mewn un, ystafell wely ac ystafell ymolchi.  

Roedd y podiau i’r digartref hyn yn fenter arloesol yng Nghymru pan ddyluniwyd y modelau yn wreiddiol gan staff Adran Tai ac Eiddo’r Cyngor, gan adlewyrchu ymrwymiad Cyngor Gwynedd i archwilio dulliau newydd ac uchelgeisiol o fynd i’r afael â’r argyfwng tai yn y sir. 

Dyluniwyd y podiau gan ddilyn egwyddorion ‘Passivhaus’, sy’n golygu bod yr unedau hyn wedi'u hinswleiddio'n dda iawn a’u bod nhw’n ynni effeithlon. Mae'r dyluniad hefyd yn galluogi'r podiau i gynhyrchu eu hynni eu hunain, gan leihau eu hôl troed carbon a'r costau ynni i breswylwyr.    

Ar ben hynny, mae tîm digartrefedd Cyngor Gwynedd yn darparu cefnogaeth i helpu tenantiaid y podiau i ddatblygu'r sgiliau angenrheidiol i fyw'n annibynnol, cyn symud ymlaen i’w tenantiaethau eu hunain.  

Mae hyn yn rhan o gynlluniau ehangach gan y Cyngor trwy’r Cynllun Gweithredu Tai i ddarparu mwy o gefnogaeth i bobl ddigartref, codi mwy o dai cymdeithasol i bobl leol a dod â thai gwag yn ôl i ddefnydd.   

Dywedodd un o breswylwyr y podiau:  

“Mae aros yn y pod yma wedi bod yn brofiad grêt ar y cyfan, dw i’n teimlo’n saff yma, ac wedi setlo, yn gwybod bod ‘na rhywun ar ben arall y ffôn o’r tîm digartrefedd pe bai angen. 

“Mae’r biliau ynni isel hefyd yn golygu mod i ddim yn gorfod poeni am gostau uchel o gynhesu’r lle. Fydda i prin yn rhoi’r ‘radiators’ ymlaen yma a dw i wedi bod yn byw yma ers ychydig fisoedd rŵan. Mae mwy neu lai pob dim dw i angen yma, ac o gymharu efo’r profiad o fod mewn hotel ynghynt, mae’n braf gallu coginio yn iawn yma a chael pob dim wrth law. 

“Mae’r gefnogaeth gan y tîm digartrefedd wedi gwneud byd o wahaniaeth i fi, a dw i’n disgwyl rŵan i gymryd y camau nesaf a chael hyd i gartref fy hun yn yr ardal leol.’’ 

Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd:  

“Mae’n wych gweld y prosiect hwn yn cael cydnabyddiaeth eang. Mae’r eco-podiau yma yng Nghaernarfon yn ddatblygiad newydd a chyffrous i ni, yn tanlinellu ein hawydd i sicrhau ystod o dai fforddiadwy ac ecogyfeillgar sy’n gost-isel i’w cynnal i denantiaid.  

 “Mae hefyd angen difrifol am fwy o lety dros dro yn y sir. Mae digartrefedd yng Ngwynedd wedi cynyddu yn syfrdanol dros y blynyddoedd diwethaf, wedi’i waethygu gan y pandemig a’r argyfwng tai parhaus. Ar hyn o bryd, mae’r opsiynau sydd gennym i ddarparu llety i bobl yn gyfyngedig iawn.  

 “Mae’r datblygiad hwn wedi ein helpu nid yn unig i gynnig llety i unigolion allu symud ymlaen o lety argyfwng, ond hefyd yn lleddfu ein dibyniaeth ar lety dros dro anaddas fel gwestai gwely a brecwast, ac yn sgil hynny yn lleihau’r costau sy’n cyd-fynd â hynny.” 

Mae hwn yn un o nifer o gynlluniau sydd gan y Cyngor i leihau ei ddibyniaeth ar lety argyfwng anaddas. Gellir gweld mwy o fanylion yn y Cynllun Gweithredu Tai.