Tai ar Daith: digwyddiad tai Cyngor Gwynedd yn ymweld â Chaernarfon

Dyddiad: 28/03/2024
Mae Cyngor Gwynedd yn gwahodd trigolion Gwynedd i’r cyntaf o gyfres o ddigwyddiadau galw-i-mewn ‘Tai ar Daith’ trwy’r Sir yng Nghaernarfon ar 18 Ebrill. Pwrpas y digwyddiad hwn yw codi ymwybyddiaeth o'r cynlluniau tai amrywiol sydd ar gael er mwyn sicrhau bod gan bobl y Sir fynediad at gartrefi addas o safon, sy’n fforddiadwy ac sy’n gwella eu hansawdd bywyd.

Bydd y sesiwn cyntaf yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Byw’n Iach Arfon rhwng 3-6.30pm ac yna bydd y gyfres o ddigwyddiadau yn ymweld â Phwllheli a Dolgellau dros y wythnosau nesaf.

 Yn ystod y digwyddiadau, bydd cynrychiolwyr y Cyngor a phartneriaid allweddol wrth law i ddarparu gwybodaeth a chymorth hanfodol am brosiectau sy'n ymwneud â thai, ac annog sgyrsiau agored ac adeiladol ynghylch sefyllfa dai unigolion. Bydd hyn yn cynnwys manylion am grantiau a benthyciadau sydd ar gael i helpu trigolion Gwynedd i brynu cartref, prosiectau i gynyddu’r cyflenwad tai ledled Gwynedd a phrosiectau’r i fynd i’r afael â digartrefedd yn y Sir, ymysg llawer mwy.

Yn ogystal ag adnoddau i rannu gwybodaeth, bydd mynychwyr yn cael mynediad at gyngor arbenigol ar faterion megis tai cymdeithasol, ynni a chymorth costau byw. Bydd staff ar gael i helpu ar unrhyw fater sy’n ymwneud â thai, o lenwi ffurflenni i drafod materion cyffredinol, gan sicrhau bod pob mynychwr yn derbyn cefnogaeth sy’n addas i’w hanghenion personol.

Bydd amrywiaeth eang o wasanaethau’r Cyngor yn cael eu cynrychioli yn y digwyddiad, gan gynnwys: 

  • Cymorth Costau Byw
  • Cynllunio
  • Datblygu tai
  • Digartrefedd
  • Gwybodaeth i Deuluoedd
  • Opsiynau Tai
  • Rhannu Cartref
  • Tai gwag
  • Ynni

 

Bydd partneriaid tai megis Cymdeithasau Tai ac Arfor hefyd yn bresennol, ochr yn ochr â phartneriaid sy'n ymwneud â phrosiectau tai mewn ardaloedd penodol.  

Daw’r digwyddiadau hyn o dan faner Cynllun Gweithredu Tai gwerth £140 miliwn y Cyngor i fynd i’r afael â phrinder tai’r Sir a sicrhau bod trigolion Gwynedd yn cael mynediad at dai fforddiadwy o safon uchel yn eu cymunedau eu hunain.

Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd:

 “Wrth i ni barhau i frwydro yn erbyn yr argyfwng tai, mae’n hanfodol bwysig fod pobl Gwynedd yn gwybod pa gefnogaeth sydd ar gael iddynt. Ers y cyfnod clo, mae’r gwaith ymgysylltu am gynlluniau tai’r Cyngor wedi digwydd gan fwyaf o bell ond mae’r amser wedi cyrraedd i ni fynd y filltir ychwanegol a dod allan at bobl i gymunedau trwy Wynedd.

“Bwriad y digwyddiadau yma ydi caniatáu i swyddogion profiadol siarad yn uniongyrchol efo pobl y Sir. Mae'r Cyngor yma i’ch cefnogi chi –  trwy fynychu’r digwyddiad hwn, cewch gyfle i drafod yn agored unrhyw bryderon neu gwestiynau sydd gennych ynglŷn â thai, waeth beth fo’u maint.”

Dywedodd Carys Fôn Williams, Pennaeth Adran Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd:

 “Mae’r digwyddiadau Tai ar Daith yma wedi cael eu trefnu i sicrhau nad oes neb yn colli allan ar gyfleoedd tai hollbwysig. Mae llawer iawn o waith wedi bod yn digwydd dros y blynyddoedd diwethaf i fynd i’r afael â phrinder tai’r Sir a dyma gyfle i chi weld sut allwn ni eich helpu chi.

  “Dewch i siarad efo ni am ddigartrefedd, am ddod â thai gwag yn ôl i ddefnydd, am adeiladu cartrefi newydd, am fenthyciadau, a gadewch i ni wybod am eich anghenion a’ch pryderon chi. Mae'n bosib iawn bod mwy o help ar gael gan y Cyngor a’i bartneriaid nag ydych chi'n ei feddwl.”

Am fwy o wybodaeth am y digwyddiadau Tai ar Daith, ewch i: Tai ar Daith: Digwyddiadau Galw-i-mewn Tai (llyw.cymru)

Nodiadau 

Manylion digwyddiadau Tai ar Daith:

Caernarfon
Dyddiad: 18 Ebrill 2024  
Amser: 3pm – 6.30pm  
Lleoliad: Byw’n Iach Arfon, Ffordd Bethel, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1DU    

Pwllheli  
Dyddiad: 2 Mai 2024  
Amser: 4.30pm – 7pm   
Lleoliad: Neuadd Ysgol Glan y Môr, Ffordd Caerdydd, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5NU    

Dolgellau   
Dyddiad: 16 Mai 2024  
Amser: 3pm – 6.30pm  
Lleoliad: Tŷ Siamas, Sgwâr Eldon, Dolgellau, LL40 1PY