Dweud eich dweud ar Strategaeth Llifogydd Cyngor Gwynedd

Dyddiad: 25/03/2024
Mae Cyngor Gwynedd yn holi barn y cyhoedd ar ddrafft o Strategaeth Llifogydd Gwynedd, er mwyn helpu i sicrhau fod y sir mewn sefyllfa gref i ddelio â sefyllfaoedd o lifogydd sy’n debygol o godi yn y dyfodol.

 

Bydd y Cyngor yn ystyried yr ymatebion gan y cyhoedd a gan bartneriaid allweddol cyn cytuno ar Strategaeth Llifogydd derfynol, fydd wedyn yn cael ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Mae Gwynedd – fel ardaloedd eraill o Gymru – yn debygol o weld mwy o achosion o lifogydd dros y blynyddoedd nesaf wrth i newid hinsawdd achosi mwy o dywydd eithafol, lefelau’r môr yn codi ac erydiad ar hyd ein harfordiroedd.

 

Amcanion y strategaeth ydi:

  • lleihau lefel y perygl o lifogydd ac erydu arfordirol i drigolion Gwynedd
  • datblygu dealltwriaeth bellach o'r perygl llifogydd i Wynedd ac effeithiau newid hinsawdd
  • gweithio gyda phartneriaid i sicrhau datblygiad priodol a chynaliadwy yng Ngwynedd
  • codi ymwybyddiaeth o berygl llifogydd ac erydu arfordirol lleol
  • gweithio gyda’n partneriaid i ymateb gyda’n gilydd i lifogydd ac erydu arfordirol.

Dywedodd y Cynghorydd Berwyn Parry Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Wasanaeth Ymgynghoriaeth Gwynedd: “Yn anffodus, rydym yn gweld mwy o achosion o lifogydd ym mhob rhan o’r wlad a dwi’n siŵr bydd pawb yn cytuno ei fod yn dorcalonnus gweld eiddo a bywoliaethau pobl yn cael eu dinistrio. Er na allwn ni fel awdurdod lleol atal cyfnodau hir o dywydd gwlyb nac atal y môr rhag codi, gallwn baratoi ein cymunedau i ddelio gyda’r effeithiau.

 

“Mae rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yn golygu llawer mwy nag adeiladu amddiffynfeydd. Mae’n angenrheidiol ein bod yn annog gwydnwch ehangach, yn gwneud gwaith atal ac yn codi ymwybyddiaeth o risg.

 

“Dyna pam mae’n bwysig fod pobl, cymunedau a sefydliadau lleol yn cael y cyfle i roi eu barn ar ein strategaeth ddrafft drwy ddarllen yr adroddiad a llenwi’r holiadur.

 

“Nid problem i ardaloedd arfordirol neu ar lannau afon yn unig yw hyn, ond rhywbeth i’r sir gyfan. Er enghraifft, gall llifogydd gau ffyrdd allweddol gan atal pobl rhag cael mynediad i wasanaethau hanfodol neu eu hatal rhag teithio.”

 

Mae modd cymryd rhan yn yr ymgynghoriad drwy fynd i wefan Cyngor Gwynedd: www.gwynedd.llyw.cymru/DweudEichDweud a dewis ‘Ymgynghoriadau ac Arolygon’. Bydd copïau papur ar gael yn fuan mewn llyfrgelloedd lleol Gwynedd (lleoliadau ac oriau agor ar gael yma: www.gwynedd.llyw.cymru/llyfrgell) ac yn Siop Gwynedd Caernarfon, Dolgellau a Phwllheli (ar agor 9am - 5pm, Llun–Gwener, ac eithrio Gŵyl y Banc). I dderbyn copi drwy’r post, neu mewn iaith neu fformat arall, cysylltwch os gwelwch yn dda â ygc@gwynedd.llyw.cymru neu ffonio 01286 679426.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Berwyn Parry Jones: “Rydw i’n nodi mai ymgynghoriad ar strategaeth sirol yw hon, nid drwy’r holiadur yma mae rhoi gwybod am broblemau llifogydd mewn ardaloedd penodol o’r sir.

 

“I roi gwybod am broblem llifogydd sy’n effeithio eich eiddo neu gymuned, cysylltwch â ni drwy’r wefan www.gwynedd.llyw.cymru/llifogydd fel bo’r mater yn cael ei ddwyn i sylw’r swyddogion perthnasol.”

 

Nodiadau

 

Mae Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol yn un o ofynion y Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 ac mae’n rhaid iddynt fod yn gyson â'r Strategaeth Genedlaethol a gyhoeddwyd yn 2022.

 

Mae gofyn i Gyngor Gwynedd adolygu Strategaethau Rheoli Perygl Llifogydd Lleol yng Nghymru er mwyn cyd-fynd ag amcanion, mesurau a pholisïau a deddfwriaeth gysylltiedig y Strategaeth Genedlaethol newydd.