Cyngor Gwynedd yn gofyn am farn y cyhoedd ar gynllun diogelwch cymunedol newydd

Dyddiad: 14/03/2024

Mae Cyngor Gwynedd yn gofyn i bobl roi eu barn ar y bwriad i gyflwyno mesurau newydd mewn tair tref benodol o fewn y sir er mwyn mynd i’r afael ag ymddygiad gwrth gymdeithasol.

 

Mae cyfle i bobl sydd â chysylltiad â Chaernarfon, Cricieth a Phwllheli – er enghraifft pobl sy’n byw, gweithio neu’n ymweld â’r trefi hyn yn rheolaidd – i ddweud eu dweud ar gynlluniau i gyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (GDMC) yn y tair tref.

 

Os bydd y Cyngor yn bwrw ymlaen efo’r gorchmynion, bydd gan yr awdurdodau bwerau ychwanegol o fewn yr ardaloedd hyn i fynd i'r afael â niwsans neu broblemau penodol, gyda'r nod o wella bywyd trigolion ac ymwelwyr yn yr ardal.

 

Er enghraifft, byddai’r cyfyngiadau sydd dan ystyriaeth gan y Cyngor ar gyfer Pwllheli, Criccieth a Chaernarfon yn ei gwneud yn haws i’r awdurdodau atal pobl rhag yfed alcohol mewn man cyhoeddus a rhag loetran pan yn feddw neu o dan ddylanwad cyffuriau. Bydd hefyd yn rhoi grymoedd newydd i’w awdurdodau i atal pobl rhag ymddwyn mewn ffordd fyddai’n achosi aflonyddwch, braw, niwsans, neu drallod i eraill.  

 

Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sydd â chyfrifoldeb dros Ddiogelwch Cymunedol:

 

“Mae Gwynedd yn le braf i fyw a gweithio ac rydym yn ymfalchïo yn ein cymunedau croesawgar. Ond yn anffodus – fel mewn trefi a phentrefi ym mhob rhan o’r wlad – o dro i dro rydym yn gweld ymddygiad annerbyniol sy’n gallu codi braw ar weddill y gymuned.

 

“Er mwyn ymateb i sefyllfaoedd penodol rydym yn ystyried cyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus hyn yn nhrefi Criccieth, Caernarfon a Phwllheli.

 

“Bwriad y grymoedd ychwanegol hyn yw galluogi’r Heddlu i ddelio mewn ffordd llawer mwy effeithiol â’r lleiafrif bychan o bobl sy’n cael effaith negyddol ar ein cymunedau. Rydym yn hyderus y bydd hyn yn amddiffyn trwch y boblogaeth sydd eisiau byw bywydau heddychlon heb ofn am eu diogelwch personol na diogelwch eu heiddo. 

 

“Byddwn yn annog pobl sy’n â chysylltiadau â’r ardaloedd hyn i fynd i wefan Cyngor Gwynedd er mwyn gweld y mapiau o’r ardaloedd arfaethedig, ac i rannu eu barn ar y cynlluniau.”

 

Dywedodd y Prif Arolygydd Lisa Jones: “Mae’r ymgynghoriadau Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus er mwyn gweithredu gorchmynion ym Mhwllheli, Cricieth a Chaernarfon yn gam hanfodol wrth daclo pryderon a godwyd gan drigolyn ac aelodau o’r gymuned ehangach. 

“Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gallu cael effaith niweidiol ar y bobl hynny sy’n byw, gweithio ac yn ymweld â’r ardal.

 

“Os ceir caniatâd, byddai’r gorchmynion yn helpu Timau Plismona Lleol wrth ddelio hefo lleiafrif o unigolion sy’n daer ar ymddwyn yn wrthgymdeithasol, gan helpu blaenoriaeth Heddlu Gogledd Cymru sef trechu, atal a lleihau trosedd.”

 

I ddarllen mwy ac i ddweud eich dweud ar y cynlluniau GDMC ar gyfer ardaloedd Caernarfon, Cricieth a Pwllheli, ewch i wefan Cyngor Gwynedd: www.gwynedd.llyw.cymru/DewudEichDweud a chlicio ar ‘Ymgynghoriadau Byw’.

 

Mae’r ymgynghoriad hwn ar agor hyd nes 7 Ebrill 2024. Yna bydd yr adborth yn cael ei ystyried gan gynghorwyr a swyddogion er mwyn llunio cynigion ar y GDMC terfynol, i'w hystyried gan holl Aelodau Cyngor Gwynedd.

 

I dderbyn yr arolwg hwn mewn fformat, dull neu iaith arall cysylltwch â Chyngor Gwynedd ar 01286 679708 neu cydraddoldeb@gwynedd.llyw.cymru. Mae copïau papur o’r holiadur hefyd ar gael o lyfrgelloedd Pwllheli, Cricieth a Chaernarfon ac o Siop Gwynedd Pwllheli a Chaernarfon. 

 

Nodiadau

 Mae Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus yn un o'r pwerau a gyflwynwyd gan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trosedd a Heddlu 2014

 Cyflwynwyd Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus ym Mangor yn 2019.