Cyngor Gwynedd yn cymryd cam ymlaen ar y daith i fod yn sero net

Dyddiad: 13/03/2024
Bydd Cyngor Gwynedd yn buddsoddi £1.6 miliwn mewn cynlluniau eco-gyfeillgar fydd yn helpu’r awdurdod i gyrraedd ei nod o fod yn carbon sero net erbyn y flwyddyn 2030.

 

Yn ei gyfarfod heddiw (12 Mawrth), cytunodd Cabinet y Cyngor i’r argymhelliad i flaenoriaethu mwy na £1,640,000 o’r gronfa hinsawdd ar gyfer tri prosiect cyffrous fydd yn galluogi’r Cyngor i fuddsoddi yn isadeiledd a fflyd yr awdurdod.

 

Bydd hyn yn lleihau faint o danwydd ffosil sy’n cael ei ddefnyddio wrth ddarparu gwasanaethau allweddol i deuluoedd y sir, yn lleihau’r allyriadau carbon fydd yn cael eu rhyddhau i’r amgylchedd a chyn bwysiced yn arbed arian i’r coffrau cyhoeddus.

 

Cerbydau Trydan – Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd y Cyngor yn gwario ychydig mwy na £1 miliwn yn ychwanegol er mwyn prynu 67 cerbyd trydan.

 

Bydd y ceir a faniau bychan trydan hyn yn cymryd lle cerbydau petrol neu ddisel presennol, fel mae rheini yn dod i ddiwedd eu hoes, ac yn arbed 64 tunnell o allyriadau CO2.

 

Uwchraddio Goleuadau – Bydd Cyngor Gwynedd yn buddsoddi mwy na £400,000 mewn cynllun peilot er mwyn treialu’r defnydd o oleuadau LED newydd yn lle tiwbiau fflwroleuol traddodiadol mewn gwahanol fath o adeiladau ac mewn gwahanol amgylchiadau.

 

Mae chwech adeilad wedi eu hadnabod ar gyfer y cynllun, sef un cartref preswyl, dwy ganolfan hamdden a thair ysgol.

 

Bydd swyddogion y Cyngor yn cadw golwg fanwl ar effeithlonrwydd y goleuadau dros gyfnod y cynllun peilot er mwyn penderfynu os yw’n briodol i’r Cyngor fuddsoddi mewn goleuadau tebyg ar gyfer yr adeiladau eraill mae’r Cyngor yn eu cynnal.

 

Pympiau gwresogi – Bydd Cyngor Gwynedd yn buddsoddi £175,000 ac yn derbyn o £1.75 miliwn gan Lywodraeth Cymru i gynnal cynllun peilot arall gyda technoleg gwresogi eco-gyfeillgar. Eto, cynhelir yr arbrawf mewn gwahanol fath o adeiladau ac mawn gwahanol amgylchiadau – sef dwy ysgol ac un canolfan hamdden – er mwyn mesur effeithlonrwydd y cynllun.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor Gwynedd:

 

“Mae Cyngor Gwynedd wedi gosod uchelgais o fod yn garbon sero net ac yn ecolegol gadarnhaol erbyn 2030. Rydym yn gweithredu mewn nifer o ffyrdd gwahanol i gyrraedd y nod hwn, er budd cenedlaethau i ddod a cheisio lliniaru effeithiau’r argyfwng hinsawdd.

 

“Drwy losgi tanwydd ffosil, er enghraifft olew neu betrol, rydym yn cynhyrchu carbon sy’n cael effaith andwyol ar ansawdd yr aer rydym yn ei anadlu ac yn cyfrannu at newid hinsawdd. Fel awdurdod lleol mae gennym gyfrifoldeb i wneud popeth o fewn ein gallu i droi’r rhod a newid ein ffyrdd. 

 

“Ers mabwysiadu ein Cynllun Argyfwng Hinsawdd, rydym wedi bod yn cynllunio’n ofalus sut gallwn fuddsoddi i arbed a pa gamau gallwn eu cymryd fydd yn cael y dylanwad fwyaf ar ein allyriadau carbon heb gael effaith andwyol ar y gwasanaethau rydym yn eu darparu i bobl a busnesau’r sir.

 

“Rydw i’n falch iawn o benderfyniad y Cabinet a’n bod mewn sefyllfa i fwrw mlaen efo’r  prosiectau cyffrous hyn, fydd yn mynd law-yn-llaw a’n gwaith parhaus i fod yn fwy darbodus â’n defnydd o ynni ac i arbed costau.

 

“Mae sir ddaearyddol eang a gwledig fel Gwynedd, ni all ein swyddogion wneud heb gerbydau ac mae ein stoc adeiladau yn fawr. Felly mae’n newyddion da ein bod yn gallu buddsoddi yn y tri prosiect yma, gyda lle i dyfu ac addasu fel rydym yn gweld canlyniadau ein mentergarwch.”