Cyngor Gwynedd yn agor safle Arosfan cyntaf dros-nos i gartrefi modur

Dyddiad: 21/03/2024

Mae’r safle Arosfan cyntaf sy’n cynnig man aros dros-nos i gartrefi modur wedi agor gan Gyngor Gwynedd yng Nghricieth.

 

Y safle ym maes parcio’r Maes yng Nghricieth ydi’r cyntaf o bedwar safle peilot mae Cyngor Gwynedd yn eu datblygu er mwyn cael gwell rheolaeth o gartrefi modur yn y sir. Mae gwaith hefyd yn cael ei gwblhau ar safle Arosfan y Glyn, Llanberis ar hyn o bryd, gyda gwaith yn bwrw ymlaen ar safleoedd Cei’r Gogledd, Pwllheli a maes parcio Doc Fictoria (hen safle Shell), Caernarfon.

 

I gyd-fynd gyda’r safleoedd Arosfan, mae’r Cyngor hefyd wedi cyflwyno gorchmynion sy’n atal hawl cartrefi modur i barcio dros nos mewn cilfannau ar yr A496 ar y ffordd i mewn i’r Bermo, ar yr A497 ger Cricieth ac ardal Y Foryd ger Caernarfon. Daw hyn yn dilyn enghreifftiau o barcio a gwersylla anghyfrifol dros y blynyddoedd diwethaf.

 

Meddai’r Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd:

 

“Mae agor y safle Arosfan cyntaf yn benllanw llawer o waith paratoi. Rydym wedi gweld twf sylweddol o bobl yn ymweld â Gwynedd mewn cartrefi modur dros y blynyddoedd diweddar, ac roedd yn glir fod angen cymryd camau i geisio rheoli’r sefyllfa.

 

“Mae’r mannau Arosfan yn cynnig safleoedd penodol i berchnogion cartrefi modur allu aros am gyfnodau o hyd at 48-awr, ac yn dilyn trefniadau tebyg i’r hyn a welir yn rheolaidd ar y cyfandir gyda safleoedd ‘Aires’.

 

“Ein bwriad ydi annog ymwelwyr mewn cerbydau modur i aros mewn tref neu bentref gan gynnig elfen o fudd economaidd i’r gymuned leol a chael rheolaeth well dros y sector.

 

“Yn ogystal a’r safleoedd Arosfan, mae’n dda gweld fod gorchmynion penodol newydd yn cael eu cyflwyno fel rhan o ymdrech ehangach i fynd i’r afael â gwersylla anghyfreithlon dros nos mewn mannau problemus penodol.”

 

Mae’r Cyngor hefyd yn bwriadu datblygu cyfleusterau toiledau cyhoeddus ger rhai safleoedd Arosfan a fydd ar gael i drigolion lleol ac ymwelwyr i’r ardal. Mae’r Cyngor wedi cyflwyno ceisiadau grant a fyddai’n galluogi gwella’r ddarpariaeth mewn toiledau ger safleoedd Cricieth a Phwllheli.

 

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Economi a Chymuned y Cyngor:

 

“Mae’r diwydiant ymwelwyr yn rhan hanfodol o’n heconomi leol ac rydan ni’n falch fod pobl o bedwar ban byd yn dod i ymweld â Gwynedd, ond ni ddylai hyn fod ar draul pobl a chymunedau lleol.

 

“Trwy ddatblygu Cynllun Economi Ymweld Cynaliadwy rydym am weld ein cymunedau lleol yn elwa o’r diwydiant ymwelwyr, gyda mesurau rhagweithiol i ddiogelu ein cymunedau, iaith, diwylliant, treftadaeth a’r amgylchedd lleol rhag effeithiau negyddol y diwydiant.

 

“Mae’r prosiect ‘Arosfan’ yn enghraifft ymarferol o hynny ar waith. Yn dilyn galwadau am well rheolaeth o’r defnydd o gartrefi modur, a thrafodaethau gyda defnyddwyr a pherchnogion safleoedd gwersylla, bydd y safleoedd yn cynnig lleoliad delfrydol i’w defnyddio gan bobl ar wyliau teithio sy’n chwilio am le diogel a chyfrifol i aros dros nos.

 

“Mae’r holl safleoedd wedi eu lleoli o fewn pellter cerdded i drefi a chyrchfannau allweddol, ac rydym yn annog defnyddwyr i wneud y mwyaf o siopau a thai bwyta gerllaw, ac ar gysylltiadau trafnidiaeth.”

 

Bydd y safleoedd Arosfan yn cynnig lle i hyd at naw o gartrefi modur a fydd yn talu ffi i barcio am uchafswm o 48-awr. Mae Arosfan Cricieth yn cynnwys cyfleusterau ar gyfer dŵr ffres, dŵr gwastraff cemegol, ailgylchu a sbwriel cyffredinol. Nid yw gweithgareddau fel tanau a barbeciws yn cael eu caniatáu.

 

Mae rhagor o fanylion am y safleoedd Arosfan ar gael ar www.gwynedd.llyw.cymru/CartrefiModur

 

Mae Cyngor Gwynedd wedi sicrhau cyllid drwy raglen Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru i dreialu’r lleoliadau Arosfan.