Cyngor Gwynedd yn ymgynghori ar Strategaeth Cyfranogiad Cyhoeddus

Dyddiad: 10/01/2023
Mae cyfle i bobl leol gymryd rhan mewn ymgynghoriad gan Gyngor Gwynedd er mwyn helpu i sicrhau fod trigolion a busnesau’r sir, ynghyd â phartneriaid a mudiadau, yn cael cyfle i fod yn rhan o benderfyniadau am wasanaethau cyhoeddus.

Mae’r Cyngor wedi llunio Strategaeth Cyfranogiad Cyhoeddus sy’n cynnwys gwybodaeth am:

  • sut mae’r Cyngor yn codi ymwybyddiaeth pobl leol o’i waith;
  • sut mae dod yn Gynghorydd a gwaith aelodau etholedig;
  • sut y gall pobl ffeindio allan am benderfyniadau’r Cyngor.

Cyn mabwysiadu’r Strategaeth, mae’r Cyngor eisiau clywed barn y cyhoedd am y pwyntiau hyn.

Bydd yr holl sylwadau fydd yn cael eu cyflwyno drwy’r holiadur yn derbyn ystyriaeth lawn ac yn rhan o’r adroddiad fydd gerbron y Cabinet ar 14 Chwefror 2023 a’r Cyngor Llawn ar 2 Mawrth 2023.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn: “Nod y Strategaeth ydi annog pobl i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau ac amlygu’r trefniadau y mae’r Cyngor yn bwriadu eu rhoi ar waith er mwyn sicrhau diwylliant o bartneriaeth gyda’r cyhoedd.

“Drwy gymryd rhan yn yr ymgynghoriad bydd pobl yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r ffordd mae’r Cyngor yn ymgysylltu â thrigolion, busnesau a chymunedau Gwynedd. Dyma pam rydw i’n annog pobl i gymryd ‘chydig funudau i ddarllen y strategaeth a llenwi’r holiadur byr yma.

“Dim ond cychwyn y daith ydi hyn – dyma ein strategaeth gyntaf, rydym yn disgwyl iddo esblygu a gwella dros amser wrth i arferion da ddod i’r amlwg ac wrth i dechnoleg ddatblygu ymhellach.”

Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y Strategaeth Cyfranogiad Cyhoeddus Gwynedd ar agor rhwng 6-23 Ionawr 2023 ac ar gael ar-lein ar : Ymgynghoriad Strategaeth Cyfranogiad (llyw.cymru)

Bydd copïau papur hefyd ar gael yn eich llyfrgell a Siop Gwynedd leol. Os am gopi papur trwy’r post, cysylltwch gyda’r Cyngor ar e-bost GwasanaethDemocratiaeth@gwynedd.llyw.cymru neu ffonio 01766 771000.