MOROEDD BYW gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru

Dyddiad: 26/10/2023
21 Hydref – 3 Chwefror   

Darganfyddwch ryfeddodau amgylchedd morol Gogledd Cymru. O’n rhywogaethau rhyfeddol o siarcod a phyllau glan môr, i fywyd o dan y tonnau mewn dôl o forwellt, bydd arddangosfa Moroedd Byw yn mynd â chi ar daith i’n moroedd, ar draws ein traethau ac ar hyd ein harfordir. Byddwn yn ymchwilio i’r effaith a gawn ar ein hamgylchedd naturiol ac yn chwilio am y trysorau morol sy’n gallu golchi i’n glannau.

 

Gwelir enghreifftiau o gregyn, pyrsiau morforynion (wyau siarcod) a darganfyddiadau diddorol y glannau, dulliau plannu a thyfu morwellt, a ‘thrysorau’ morol megis ffa môr a darnau coll o Lego. Ar ddiwrnodiau penodol bydd aelodau o’r tîm Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ar gael i’ch arwain o amgylch yr arddangosfa ac i sgwrsio am eu gwaith yn amgylchedd morol gogledd Cymru.

 

Os hoffech drefnu ymweliad grŵp i’r arddangosfa yna cysylltwch gyda Reece Halstead,

Swyddog Ymgysylltu Moroedd Byw (Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru), ar reece.halstead@northwaleswildlifetrust.org.uk, neu ar 07375 995023

 

 

Mwy…

Yn ychwanegol i drefnu ymweliad grŵp cewch gwrdd â thîm Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn Storiel ar yr adegau isod…

In addition to arranging a group visit you can meet the North Wales Wildlife Trust team in Storiel on…

 

Dydd Mawrth 14 Tachwedd– 1-4pm Cwrdd â’r Tîm

Dydd Mercher 6 Rhagfyr– 1-4pm Cwrdd â’r Tîm

Dydd Sadwrn 13 Ionawr– 1-4pm Cwrdd â’r Tîm

 

Dydd Sadwrn 27 Ionawr yn fyw ar-lein o Storiel

 

Teithiau Bywyd Môr   

 

Yn ategu’r arddangosfa ‘Moroedd Byw’ gwelir mewn cas arddangos arbennig yn nerbynfa Storiel, detholiad o sbesimenau morwrol o Amgueddfa Brambell, Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol, Prifysgol Bangor. Mae’r cyflwyniad yma ‘Teithiau Bywyd Môr’ yn cynnwys morlo bach a phengwin, penglogau morfil a dolffin, asgwrn gên siarc a dant megalodon, sbesimenau wedi’i gadw, cregyn a chwrel.

 

 

‘Teithiau Bywyd Môr’ - Y cefnfor yw ble cychwynnodd bywyd ar y Ddaear o leiaf 3.5 biliwn o flynyddoedd yn ôl. Nid tan y ffrwydrad Cambriaidd rhwng 541 a 530 miliwn o flynyddoedd yn ôl yr ymddangosodd yr anifeiliaid amlgellog cymhleth cyntaf, gan gynnwys anifeiliaid asgwrn cefn, mewn cofnodion ffosil. Ers hynny, mae’r llinachau hyn, gan gynnwys anifeiliaid di-asgwrn cefn, mamaliaid, adar ac, wrth gwrs, pysgod, wedi parhau i esblygu a ffynnu o gwmpas ac yng nghefnforoedd y Ddaear.