Gwaith wedi dechrau ar gae 3G maint llawn newydd yng Nghaernarfon

Dyddiad: 26/10/2023
YSHO

Mae gwaith wedi dechrau i adeiladu cae 3G maint llawn yng Nghaernarfon gyda'r nod o ddarparu cyfleuster modern ar gyfer ysgolion lleol, clybiau chwaraeon a'r gymuned ehangach.

Bydd y cae 3G newydd yn disodli'r cae hanner maint presennol sydd wedi'i leoli ar gampws Ysgol Syr Hugh Owen, ger canolfan hamdden Byw'n Iach Arfon.

Mae'r prosiect yn dilyn gwaith tîm ymroddgar ac effeithiol gan nifer o bartneriaid lleol a chenedlaethol, gyda dros £1 miliwn o gyllid ar ei gyfer yn cael ei sicrhau drwy cyfraniadau Cyngor Gwynedd, Chwaraeon Cymru, Cymru Football Foundation, Pêl-droed yn y Gymuned Tref Caernarfon a’r Football Foundation (sydd yn cynnwys Llywodraeth y DU, yr EPL a’r FA fel partneriaid cyllido).

Disgwylir i'r gwaith gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Ionawr 2024.

 

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd ac Aelod Cabinet dros Economi a Chymuned:

"Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r prosiect yma, o ysgolion a chlybiau pêl-droed lleol i sefydliadau cenedlaethol, mae'n wych sut mae pawb wedi dod at ei gilydd i wneud hyn yn bosib.

"Mae gan Wynedd treftadaeth bêl-droed cyfoethog. Ond mae heriau yn wynebu pêl-droed yn y Sir gydag angen am gyfleusterau sy'n ateb gofynion addysgiadol, chwaraeon a chymunedol ar draws Gwynedd.

"Ar hyn o bryd nid oes caeau maint llawn o’r math yma yng Nghaernarfon, felly bydd y cae 3G maint llawn yn codi proffil ac yn gwella profiad clybiau pêl-droed a chwaraeon lleol yn yr ardal, yn ogystal â thref Caernarfon gyfan.

"Dwi’n gobeithio bydd y cae newydd nid yn unig yn cynnal y cyfranogiad presennol ond bydd hefyd yn galluogi'r gêm i ffynnu ar lawr gwlad ac ennyn diddordeb ar draws ein cymdeithas - gan gynnwys annog mwy o fenywod a merched i gymryd rhan mewn pêl-droed. Mae dyheadau mewn cymunedau yn Nwyfor a Meirionnydd i ddatblygu cyfleusterau newydd ac mae trafodaethau ar y gweill.

“Diolch i Chwaraeon Cymru, Cymru Football Foundation, Football Foundation a Phêl-droed yn y Gymuned Tref Caernarfon am gyfrannu’n ariannol gyda’r Cyngor tuag at y prosiect gwych yma, ac i Glwb Pêl-droed Caernarfon am eu rôl allweddol yn y prosiect.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Beca Brown, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Addysg:

"Adeiladwyd y cae hanner maint presennol yn Ysgol Syr Hugh Owen tua 20 mlynedd yn ôl, ac mae o wedi cael cryn dipyn o ddefnydd gan ddisgyblion dros y blynyddoedd hynny. Fodd bynnag, mae ei gyflwr a'i faint yn golygu nad yw'n cwrdd â gofynion modern sy'n cael eu cynnig gan gae 3G maint llawn.

“Bydd y cae 3G maint llawn newydd, a fydd yn disodli’r hen gae ar gampws Ysgol Syr Hugh Owen, yn trawsnewid cyfleusterau’r ysgol ac yn ysbrydoli plant a phobl ifanc i fod yn gorfforol weithgar, yn ogystal â gwella'r ddarpariaeth dysgu.

"Diolch i bawb am eu gwaith caled er mwyn sicrhau y bydd gan ardal Caernarfon ased fel hyn a fydd nid yn unig o fudd enfawr i ysgolion lleol, ond i'r gymuned ehangach hefyd."

 

Dywedodd Clive Thomas, Pennaeth Ysgol Syr Hugh Owen:                  

“Mae Ysgol Syr Hugh Owen yn falch iawn bod y gwaith o adeiladu’r cae 3G newydd wedi dechrau. Wedi blynyddoedd o gydweithio gyda’n partneriaid - Adran Addysg, Byw’n Iach, Chwaraeon Cymru, Cymdeithas Pêl Droed Cymru, Football Foundation, Clwb Pêl Droed Caernarfon a chydweithrediad Clwb Rygbi Caernarfon a Chlwb Hoci Caernarfon, rydym yn teimlo bod y freuddwyd o’r diwedd wedi’i wireddu.

“Bydd yr adnodd anhygoel hwn yn rhoi safle cyfoes fydd yn ychwanegu at brofiadau a safonau ein disgyblion yn yr ysgol ac yn adnodd i’w rhannu gyda’r gymuned yn ehangach. Edrychwn ymlaen at weld yr Adran Addysg Gorfforol yn ymestyn ymhellach ar y safonau uchel sydd eisoes yn bodoli."

 

Dywedodd Amanda Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr Byw'n Iach:

"Rydym yn gyffrous iawn i glywed bod y buddsoddiad sydd ei angen bellach ar waith, a bod y gwaith o adeiladu'r cae wedi dechrau. Mae galw gwirioneddol am gae synthetig maint llawn yn yr ardal ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gydweithio gyda'r ysgolion a'r clybiau lleol i reoli'r maes dros y blynyddoedd nesaf.

“Mae'r prosiect yn enghraifft wych o waith tîm, a'r hyn sy'n bosib pan mae gwahanol sefydliadau lleol yn cyd-weithio."

 

Dywedodd Aled Lewis, Pennaeth Buddsoddiad Cyfleusterau a Gweithrediadau Sefydliad Pêl-droed Cymru:

“Mae Cymru Football Foundation yn falch ein bod wedi gallu cefnogi prosiect mor bwysig i annog cyfranogiad yn yr ardal leol. Bydd y 3G newydd yma’n ganolbwynt i gymaint o bobl ifanc a chlybiau lleol ac rydym yn gyffrous i weld yr effaith gadarnhaol y bydd yn ei gael ar gymuned Gwynedd.

“Rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn cyfleusterau ysbrydoledig ac addas ar gyfer y dyfodol ledled Cymru, gan arwain at fwy o chwaraewyr a phrofiadau gwell a fydd yn gwella iechyd a lles y genedl.”

 

Dywedodd Dave Cavanagh ar ran Academi Clwb Pêl-droed Tref Caernarfon:

"Newyddion gwych i'r gymuned gyfan. Rydym yn falch ein bod wedi gweithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid y prosiect, a sefydliadau sy'n rhannu ein hamcanion cyffredin a'n gwerthoedd i sicrhau'r canlyniadau gorau i'n chwaraewyr a'r gymuned leol.

"Wrth lunio ein Cynllun Strategol Academi Tref Caernarfon, roeddem bob amser yn anelu at gael safle Academi yng Nghaernarfon a oedd yn cynnig amgylchedd datblygol safon uchel Academi Trwyddedig FAW ar gyfer datblygu chwaraewyr.

"Bydd y cyfleuster hwn yn ein galluogi i adeiladu ar hynny a pharhau i ddarparu mwy o gyfleoedd proffesiynol i chwaraewyr ein hacademi yn y dyfodol."

 

Dywedodd Darren Billinghurst, ar ran Clwb Pêl-droed Tref Caernarfon:

"Mae'n newyddion da i'r dref a'r gymuned gyfan, mae wedi bod yn amser hir yn dod  ac rydym  yn edrych ymlaen at helpu i feithrin talent y dyfodol yn yr ardal leol.

"Diolch yn arbennig i bawb a oedd ynghlwm er mwyn ei gael dros y llinell.”