Diwrnod Agored yn Amgueddfa Hanes Natur Brambell, Prifysgol Bangor

Dyddiad: 24/10/2023
Bydd Amgueddfa Hanes Natur Brambell, Prifysgol Bangor ar agor ar y Dydd Sadwrn, 4 o Dachwedd rhwng 11yb i 3yp.

 

Dyma gyfle i weld Amgueddfa Hanes Natur y Brifysgol, sydd ddim ar agor i’r cyhoedd yn arferol, er mwyn dysgu mwy am y sbesimenau sydd i’w gweld yna. Bydd cyfle i ofyn cwestiynau i’r myfyrwyr fydd ar gael, a bydd yna hefyd cornel gweithgareddau i blant o bob oedran.

 

Bydd Prifysgol Bangor yn ymuno ag amgueddfeydd ar draws y wlad ar gyfer Gŵyl Amgueddfeydd Cymru a gaiff ei chynnal rhwng 28 Hydref i 5 Tachwedd. Mae Gŵyl Amgueddfeydd Cymru yn ddigwyddiad blynyddol a gyflwynir gan Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru, sef y corff strategol ar gyfer gweithwyr proffesiynol amgueddfeydd ac orielau celf yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae'n cynrychioli dros 100 o amgueddfeydd unigryw Cymru a gyda’i gilydd, mae’r casgliadau amhrisiadwy hyn yn adrodd stori Cymru, ac yn adnodd gwerthfawr ar gyfer archwilio a dysgu am ein hunaniaeth leol a chenedlaethol.

 

Mae’r Brifysgol yn gweithio tuag at achredu amgueddfaol a, sef y safon cenedlaethol ar gyfer amgueddfeydd. Bwriedir gwella mynediad i gasgliadau’r Brifysgol ac mae hyn yn rhan o’r gwaith a wneir mewn partneriaeth rhwng Prifysgol Bangor â Storiel. Atgoffwyd ni gan Oliver Turnbull, Dirprwy Is-Ganghellor bod gan Bangor amgueddfa fendigedig, gydag eitemau prin a diddorol o bob rhan o’r blaned. Mae’n bleser gallu agor y casgliad i’r gymuned ehangach, a dangos ein hymrwymiad i addysg a’r byd natur.

 

Lleolir Adeilad Brambell dros ffordd i ASDA ac mae cyfeiriadau ar gael ar y gwefan http://www.bangor.ac.uk/tour/MapLleoliad.pdf

 

Cefnogir Gŵyl Amgueddfeydd Cymru gan Lywodraeth Cymru. Mae manylion llawn y gweithgareddau yn ystod Gŵyl Amgueddfeydd Cymru ar wefan yr Ŵyl: www.museums.wales