Cyngor Gwynedd yn dathlu ail-agor Gwarchodfa Parc Dudley yn Waunfawr

Dyddiad: 20/10/2023

Cynhelir prynhawn o hwyl amgylcheddol i nodi ail-agor gwarchodfa natur Parc Dudley yn Waunfawr yn dilyn gwelliannau sylweddol i fynediad y parc a phlannu mwy na 500 o goed cynhennid.

Dros y 18-mis diwethaf mae Cyngor Gwynedd wedi uwchraddio a gwella’r adnoddau a’r cyfleusterau yn y warchodfa natur ar gyrion pentref Waunfawr.

Gyda’r gwelliannau bellach wedi eu cwblhau, mae prynhawn o hwyl amgylcheddol yn cael ei gynnal ym Mharc Dudley o 1pm ar ddydd Sul, 29 Hydref, gan roi cyfle i deuluoedd o bob oed i fynd draw i fwynhau’r hyn sydd gan y warchodfa i’w gynnig.

Fel rhan o’r prynhawn agored, bydd yna weithgareddau i ddarganfod natur gydag arbenigwyr lleol; crefftau a gweithgareddau natur addysgiadol gydag ‘Elfennau Gwyllt’; peintio wynebau; a chyfle i ddysgu am y Bartneriaeth Natur Leol a sut all y cyhoedd gyfrannu’n lleol. Bydd smwddis ffrwythau hefyd ar gael gan gwmni lleol, Swig – am ddim i’r 100 cyntaf i ymweld â Pharc Dudley ar brynhawn Sul.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Amgylchedd:

“Mae gwaith sylweddol wedi digwydd dros y misoedd diwethaf i wella’r profiad i bobl sy’n ymweld â gwarchodfa natur Parc Dudley yn Waunfawr.

“Wedi ei lleoli ar safle hen chwarel, mae’r parc yn dwyn enw’r cwmni Dudley oedd yn berchen y safle nôl yng nghanol y 19eg ganrif.

“Ond erbyn heddiw, mae’n warchodfa natur lle gallwch fynd am dro hamddenol i fwynhau bywyd gwyllt ac mae’n wych gweld fod Parc Dudley wedi gweld gwelliannau i’r llwybrau a fod yna gannoedd o goed cynhennid wedi eu plannu yno.

“Bydd y prynhawn o hwyl yn gyfle gwych i fwynhau yn yr awyr agored ac i drafod efo swyddogion Bioamrywiaeth y Cyngor sydd wedi bod ynghlwm â’r gwelliannau diweddar.”

Gyda chefnogaeth ariannol o gronfa ‘Coedwigoedd Gwych Gwynedd’, mae gwelliannau sylweddol wedi eu cwblhau ym Mharc Dudley, gan gynnwys:

  • Ail-adeiladu ac ail-wynebu nifer o’r llwybrau troed er mwyn sicrhau mynediad addas a diogel drwy’r safle;
  • Creu cylchdaith ar gyfer ymwelwyr mewn cadair olwyn;
  • Plannu mwy na 500 o goed cynhenid ar y safle mewn cydweithrediad gyda gwirfoddolwyr o Brifysgol Bangor;
  • Gwaith dehongli ac arwyddion newydd drwy’r safle;
  • Sefydlu teithiau ‘darganfod natur’ ar gyfer ymwelwyr ifanc;
  • Gwella mynediad i’r maes parcio.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Edgar Wyn Owen, sy’n cynrychioli Waunfawr ar Gyngor Gwynedd:

“Rydw i’n falch iawn o weld y gwaith diweddar sydd wedi bod ar y safle, gan gynnwys gwelliannau i’r llwybrau a chreu cylchdaith ar gyfer ymwelwyr mewn cadair olwyn neu rieni a phramiau.

“Mae Parc Dudley wedi bod yn leoliad poblogaidd iawn dros y blynyddoedd, a dwi’n gobeithio y bydd y buddsoddiad yma yn annog mwy o bobl i fynd draw i fwynhau’r warchodfa natur.

“Mi fyddwn i’n annog teuluoedd yr ardal i ddod draw ar gyfer y prynhawn o weithgareddau i nodi ail-agor Parc Dudley, mae’n argoeli i fod yn ddiwrnod hwyliog iawn.

Mae croeso i unrhyw un ddod draw i’r brynhawn hwyl amgylcheddol ym Mharc Dudley ar ddydd Sul, 29 Hydref. Bydd y gweithgareddau yn dechrau o 1pm. Mae Parc Dudley wedi ei lleoli ar gyrion pentref Waunfawr, ar ochr yr A4085 i’r de o’r pentref.