Gwledd o weithgareddau yn stondin Cyngor Gwynedd ar Faes yr Eisteddfod

Dyddiad: 31/07/2023
Bydd croeso cynnes i bobl o bob cwr o Gymru a thu hwnt i Gaban a Thipi Gwynedd, sef stondinau Cyngor Gwynedd ar Faes Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd (5-12 Awst, 2023). Bydd y Caban a’r Tipi wedi eu lleoli ger y brif fynedfa i’r Maes. 

  

Cynhelir arddangosfeydd a gweithgareddau o bob math yng Nghaban a Thipi Gwynedd drwy gydol yr ŵyl gyda un prif thema yn cael ei hamlygu bob dydd. Bydd yr arlwy yn ddathliad o Wynedd ar ei orau ac yn ffenestr siop i nifer o’r gwasanaethau mae Cyngor Gwynedd yn eu darparu i holl drigolion ac ymwelwyr i'r sir.  

 

Dywedodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor Gwynedd: “Mae’r Eisteddfod yn gyfle perffaith inni amlygu a dathlu’r hyn sydd gan Wynedd i’w gynnig a chyfarfod trigolion ac ymwelwyr am sgwrs.  

 

“Rydw i’n annog Eisteddfodwyr i alw heibio Caban Gwynedd a’r Tipi i ddweud helo a mwynhau’r bwrlwm o weithgareddau fydd ar gael.”  

 

Isod mae rhaglen fras o’r arddangosfeydd a gweithgareddau a gynhelir yng Nghaban a Thipi Gwynedd. Mae’r rhaglen lawn ar gyfer gweithgareddau pob dydd i’w weld ar wefan Cyngor Gwynedd www.gwynedd.llyw.cymru/Eisteddfod a cofiwch gadw golwg am ddiweddariadau ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y Cyngor: www.twitter.com/CyngorGwynedd / www.facebook.com/CyngorGwyneddCouncil  

 

Dydd Sadwrn, 5 Awst 2023 

 

  • 11.30am-12.30pm Gofalwyr Ifanc: Cyfle i rannu gwybodaeth, cael sgwrs a hyrwyddo’r ap AIDI gyda Gofalwyr Ifanc.   
  • 2.30-3.30pm   Atgofion Chwaraeon: Sesiwn dan arweiniad tîm Dementia Actif Gwynedd. 

 

Dydd Sul, 6 Awst 2023 – Diwrnod Gwynedd Werdd 

 

Cyfle i ddarganfod mwy am sut mae’r Cyngor yn gwarchod harddwch naturiol y sir ac ymateb yn gadarnhaol i’r argyfwng newid hinsawdd. Rhai o uchafbwyntiau’r diwrnod fydd: 

 

  • 11.30am-12.30pm – Sesiwn Coginio: Sut i wneud y mwyaf o’r bwyd sydd gennych, gyda’r gogyddes Rhian Cadwaladr a Gwenllian Roberts o Wasanaeth Ailgylchu a Gwastraff y Cyngor.  
  • 2pm – Sesiwn drafod Erthygl 4: Sgwrs banel yn trafod newidiadau i ddeddfwriaeth gynllunio i reoli effaith ail gartrefi a llety gwyliau tymor-byr ar gymunedau. 
  • 3-4pm – Blodau gwyllt a darganfod y peillwyr: Gweithgareddau ar gyfer y teulu oll a hadau blodau gwyllt i fynd gartref gyda chi i'w plannu.  
  • Cystadlaethau: Bydd cystadleuaeth i ddylunio logo ar gyfer cerbydau trydan y Cyngor, a chwis bwyd lle bydd cyfle i ennill popty linc-di-lonc ac ‘air fryer’ 

 

Dydd Llun, 7 Awst 2023 – Diwrnod Gwynedd Glyd  

 

Cyfle i ddarganfod mwy am sut mae’r Cyngor yn cefnogi pobl Gwynedd i fyw mewn cartrefi addas a fforddiadwy yn eu cymunedau. Rhai o uchafbwyntiau’r diwrnod fydd: 

 

  • 10-11am – Cymorth Costau Byw: Sesiwn galw heibio am gymorth gyda chostau ynni cartref. 
  • 11.30am Cyflwyniad - Sut mae Cyngor Gwynedd yn mynd i’r afael â’r argyfwng tai? Bydd cyfle i holi cwestiynau i’r panel, fydd yn cynnwys y Cynghorydd Craig ab Iago a rhai o swyddogion Adran Tai ac Eiddo’r Cyngor.  
  • 1pm Lansiad - Cynllun Grantiau Tai Gwag ar ei newydd wedd. Bydd y newid yn golygu bod cyn ail gartrefi bellach yn gymwys ar gyfer y grant.  
  • 5-6pm – Cymorth anghenion tai – Sesiwn galw heibio i bobl Gwynedd i gael gwybod am y cynlluniau sydd ar gael gan y Cyngor 

 

Dydd Mawrth, 8 Awst 2023 – Diwrnod Gwynedd Yfory  

 

Cyfle i ddarganfod mwy am sut mae’r Cyngor yn rhoi’r cychwyn gorau posib mewn bywyd i blant a phobl ifanc y sir. Rhai o uchafbwyntiau’r diwrnod fydd: 

 

  • 11-11.30am – Sioe Steddfod: Sioe llawn hwyl gan Anni Llŷn a Tudur Phillips  
  • 2-2.45pm Lansiad – Sesiwn anffurfiol yng nghwmni Julie Morgan AS, Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru i lansio ymestyn Cynllun Gofal Plant 2oed Gwynedd 
  • 4.30pm-5pm - Prosiect Ffilm ac Animeiddio Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd: Cyfle i wylio ffilmiau grëwyd gan blant bro’r eisteddfod 

 

 

Dydd Mercher, 9 Awst – Diwrnod Gwynedd Lewyrchus  

 

Cyfle i ddarganfod mwy am sut mae’r Cyngor yn cryfhau’r economi a chefnogi trigolion Gwynedd i ennill cyflogau teilwng. Rhai o uchafbwyntiau’r diwrnod fydd: 

 

  • 10-11:30am - Busnes@Gwynedd: Cynhyrchwyr Gwynedd - Daloni Metcalfe a Lesley Griffiths AS, Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, yn sgwrsio gyda rhai o fusnesau Gwynedd am eu cynnyrch, gwasanaethau a’u perthynas â’r iaith Gymraeg.   
  • 11.30am-12.30pm - Rhaglen ARFOR: Lansiad gydag arweinyddion cynghorau Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gâr ynghyd â Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi a Cefin Cambell AS. Yna, trafodaeth wedi ei hwyluso gan Llyr Roberts, Prif Weithredwr Menter a Busnes, i sôn am yr heriau sy’n wynebu cymunedau Rhanbarth ARFOR a sut gall y rhaglen ymateb.  
  • 12.30-1pm: Gwaith Gwynedd - Gweithgaredd hwyliog a sesiwn galw heibio ar gyfer pobl ifanc Gwynedd (16-24).  
  • 3-4pm - Twristiaeth Cynaliadwy: Trafodaeth wedi ei hwyluso gan yr Arglwydd Dafydd Wigley, yng nghwmni Y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru, ar beth yw Twristiaeth Cynaliadwy. Sut gallwn sicrhau fod budd i gymunedau lleol a beth ydi pwysigrwydd ein diwylliant a threftadaeth i’r economi ymweld? 

 

Dydd Iau, 10 Awst – Diwrnod Gwynedd Gymraeg 

 

Cyfle i ddarganfod mwy am sut mae’r Cyngor yn rhoi pob cyfle posib i’n trigolion ddefnyddio’r Gymraeg yn y gymuned. Rhai o uchafbwyntiau’r diwrnod fydd: 

 

  • 11am-12pm - Enwau Lleoedd Cymraeg: Panel Trafod am sut y gellir gwarchod enwau lleoedd Cymraeg.  
  • 3-4pm – Prosiect 15: Sgwrs Arddull ‘TED’, ‘Merched sy’n Ysbrydoli’  (ynghyd ag amrywiol weithgareddau trwy’r wythnos, er enghraifft cystadleuaeth jôc) 
  • 4-4.30pm – Menter Iaith Gwynedd: Lansio’r fenter iaith newydd. 

 

Dydd Gwener, 11 Awst – Diwrnod Gwynedd Ofalgar 

 

Cyfle i ddarganfod mwy am sut mae’r Cyngor yn cefnogi trigolion Gwynedd i fyw bywydau llawn a diogel yn eu cymunedau. Rhai o uchafbwyntiau’r diwrnod fydd: 

 

  • 11am-12pm - Sgwrs o’r Galon: Gofalwyr maeth o bob rhan o Wynedd yn sgwrsio am eu profiadau o faethu a’r rhesymau a’u harweiniodd i ddod yn ofalwyr maeth. 
  • 12-1pm – Cyfleoedd Gwaith: Sesiwn am gyfleoedd gwaith yn y maes gofal plant. 
  • 4.45-5.45pm – Côr Lleisiau Llawen: Cyfle i weld a chlywed y côr Makaton yn perfformio rhai o’u hoff ganeuon. 

 

Dydd Sadwrn, 12 Awst  

 

  • 11.30am-12.30pm “Dementia yn fy Nwylo i” Sesiwn dan arweiniad tîm Dementia Actif Gwynedd i godi ymwybyddiaeth am effeithiau Dementia. 
  • 1-2pm - Canfod y Gân Sesiwn gerdd a chreadigrwydd dan arweiniad Canolfan Gerdd William Mathias gyda chriw o bobl sydd ag anableddau dysgu. 

 

Mae’r Cyngor yn nodi y gall amseroedd a gweithgareddau newid.