Cinio ysgol am ddim dros yr haf

Dyddiad: 20/07/2023
Bydd teuluoedd plant ysgol yng Ngwynedd sy’n gymwys am ginio ysgol am ddim ar sail incwm isel yn derbyn taliadau tuag at brydau bwyd dros gyfnod gwyliau’r haf eleni, wedi i Gabinet Cyngor Gwynedd dderbyn argymhelliad brys i ariannu’r costau.

Bydd rhieni neu warcheidwaid oddeutu 2,700 o ddisgyblion ysgol cynradd ac uwchradd yng Ngwynedd sy’n gymwys am y cymorth yn derbyn £3.90 y diwrnod dros y gwyliau, sy’n ymestyn rhwng 21 Gorffennaf a 31 Awst.

Mae’r Cyngor yn rhagweld bydd y cynllun yn costio oddeutu £316,000 a cyflwynwyd yr argymhelliad i’r Cabinet yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio ymestyn cynllun ‘Darpariaeth Prydau Ysgol am ddim yn ystod y Gwyliau’ cenedlaethol i wyliau’r haf 2023. Cyflwynwyd y cynllun hwn gyntaf gan Lywodraeth Cymru yn ystod cyfnod y pandemig Covid-19.

Dywedodd y Cynghorydd Beca Brown, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Addysg:

“Gyda’r argyfwng costau byw yn parhau i roi pwysau ar deuluoedd ym mhob cwr o Wynedd, rydym yn gwybod mai’r plant fydd yn dioddef fwy na neb. Dylai’r gwyliau haf fod yn gyfle i deuluoedd ymlacio a chael hwyl gyda’i gilydd, nid treulio eu hamser yn poeni am sut maent am dalu am hanfodion bywyd.

“O gofio hyn, roedd yn siom cael ar ddeall yn hwyr yn y dydd am benderfyniad y Llywodraeth i ddod a’r trefniant i ddarparu prydau ysgol am ddim dros y gwyliau i deuluoedd incwm isel i ben.

“Fel Cyngor, roeddem yn hynod bryderus y byddai’n anodd iawn i deuluoedd bregus ail-flaenoriaethu eu harian ar gyfer cyfnod yr haf gyda chyn lleied o rybudd. Ers derbyn cadarnhad ffurfiol gan y Llywodraeth ar 28 Mehefin, rydym felly wedi bod yn ystyried pa fesurau y gallwn eu rhoi mewn lle i gefnogi teuluoedd yng Ngwynedd i bontio’r bwlch.

“Yn dilyn penderfyniad Cabinet y Cyngor i gefnogi’r argymhelliad, rydw i’n annog pob teulu sy’n gymwys am y cymorth ychwanegol hwn i sicrhau eu bod yn gwneud cais am yr arian drwy fynd i www.gwynedd.llyw.cymru/cinioysgol neu gysylltu efo’r Adran Addysg ar 01286 685 047.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor Gwynedd: “Rydw i’n falch iawn ein bod wedi gallu rhoi’r mesur brys hwn mewn lle a fydd yn rhoi cefnogaeth angenrheidiol i deuluoedd mwyaf bregus y sir.

“Un mesur yn unig yw hwn wrth gwrs ac mae gan Gyngor Gwynedd eisoes ystod eang o gynlluniau i gefnogi teuluoedd lleol i ymdopi ag effeithiau’r argyfwng costau byw. Mae y rhain yn cynnwys cymorth i hawlio budd-daliadau, cefnogaeth i bobl sy’n ei chael yn anodd fforddio bwyd er enghraifft siop fwyd symudol a pantris bwyd, a chymorth i gael gwell rheolaeth ar gostau ynni cartref.

“Byddwn yn annog unrhyw un sy’n ei chael yn anodd cael dau ben llinyn ynghyd i edrych ar y cymorth a gwybodaeth sydd ar gael i deuluoedd ar ein gwefan: www.gwynedd.llyw.cymru/CymorthCostauByw.”

 

Nodiadau

Mae’r penderfyniad hwn i ddarparu prydau bwyd i blant cymwys yn berthnasol i wyliau’r haf 2023 yn unig.

Ers cyflwyno’r cynllun ‘Darpariaeth Prydau Ysgol am ddim yn ystod y Gwyliau’ yn Ebrill 2020, mae Cyngor Gwynedd wedi gweinyddu oddeutu £3.32m o daliadau i deuluoedd difreintiedig y sir.