Canlyniadau TGAU Gwynedd 2023

Dyddiad: 24/08/2023

Mae Cyngor Gwynedd wedi llongyfarch yn wresog ddisgyblion y sir ar lwyddiant eu canlyniadau TGAU eleni.

Dywedodd y Cynghorydd Beca Brown, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Addysg:

“Mae’r rhain yn ganlyniadau cadarnhaol iawn ac mae’r disgyblion i’w llongyfarch yn fawr. Rydym yn awyddus i weld pob un o’n pobl ifanc yn llwyddo ac yn ffynnu. Hoffwn ddiolch i athrawon a staff yr ysgolion am eu gwaith caled a chyson trwy gydol y flwyddyn.”

Wrth longyfarch y disgyblion ar eu llwyddiant, dywedodd Garem Jackson, Pennaeth Addysg Cyngor Gwynedd:

“Mae’r canlyniadau TGAU yn dda iawn eleni ac yn dysteb i ymroddiad ein pobl ifanc. Llongyfarchiadau mawr iddynt am eu gwaith caled a’u llwyddiant.

“Mae’r canlyniadau ardderchog hyn yn adlewyrchu’r pwyslais a roddir yn ysgolion Gwynedd ar gynhwysiad, llesiant, cyfle cyfartal a llwyddiant y disgyblion fel unigolion.”

Cyfeiriodd Garem Jackson ymhellach at lwyddiannau amlwg mewn rhai pynciau unigol.

Meddai: “Mae’r canlyniadau yn dda mewn nifer o bynciau ond yn arbennig yn y pynciau canlynol: Bioleg, Cemeg, Ffiseg, Cymraeg, Astudiaethau Crefyddol, Addysg Gorfforol, Cerddoriaeth a Ffrangeg.”