Llwybr Arfordir Cymru yn agor trwy dir Ystâd Penrhyn ger Bangor

Dyddiad: 31/07/2023

Mae cam allweddol arall wedi ei gymryd ar y gwaith o greu Llwybr Arfordir Cymru yn agosach at y arfordir wrth i’r rhan newydd agor trwy dir Ystâd Penrhyn ger Bangor.

 

Mae’r llwybr newydd yn mynd â cherddwyr trwy goedlan hynafol ar hyd yr arfordir sydd ym mherchnogaeth breifat Ystâd y Penrhyn, gan gysylltu ardal Porth Penrhyn gyda’r llwybr presennol ger gwarchodfa natur Aberogwen

 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd, Cyngor Gwynedd:

 

“Rydw i’n hynod falch i weld y llwybr cyhoeddus unigryw yma yn agor trwy Parc  Penrhyn, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi chware rhan yn y gwaith. Mae’n wych gweld Gwynedd yn arwain y ffordd yn natblygiad Llwybr Arfordir Cymru.

 

“Bydd y llwybr yn adnodd heb ei ail i drigolion lleol a thu hwnt, gan gynnig golygfeydd godidog o Draeth Lafan a’r arfordir ehangach.”

 

Mae’r llwybr newydd yn 3.2km trwy gyrion Ystâd Penrhyn.

 

Dywedodd Rhys Roberts, Swyddog Llwybr Arfordir Cymru ar gyfer y rhanbarth:

 

“Fe ddechreuodd y gwaith yn ôl ym mis Ionawr. Er gwaetha’r gwanwyn gwlyb iawn, a oedodd y gwaith ychydig fisoedd, ond mae’n braf gweld penllanw yr holl waith caled a gallu croesawu cerddwyr i’r ardal brydferth hon. Bydd mân waith yn parhau dros yr wythnosau nesaf, ond gyda chymaint o ddiddordeb yn y llwybr penderfynwyd ei agor cyn gynted â phosib.

 

“Mae hon yn garreg filltir arall i ni yng Ngwynedd wrthi i’r gytundeb cyfreithiol yma fynd â ni dros 20 milltir o lwybrau cyhoeddus wedi eu creu ers 2010.”

 

Golyga sefydlu’r llwybr waith wynebu; dymchwel dwy ran o wal derfyn Ystâd y Penrhyn; gosod giât ar gyfer mynediad; gwaith diogelwch coed; a ffensio.

 

Dywedodd Mr Richard Douglas Pennant ar ran ymddiriedolwyr Penrhyn Settled Estates, perchnogion Parc Penrhyn: “Mae wedi bod yn bleser i mi, fy nheulu ac ymddiriedolwyr yr ystâd allu gweithio gyda Cyngor Gwynedd i sefydlu’r rhan yma o Lwybr Arfordir Cymru ym Mharc Penrhyn.

 

“Rydym yn gobeithio bydd y llwybr newydd yn rhoi pleser mawr i gerddwyr a gaiff fwynhau golygfeydd ysblennydd o Safle Treftadaeth y Byd UNESCO, y Fenai a Sir Fôn.

 

“Mae fy nheulu a’n ymddiriedolwyr yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda’r Cyngor i sicrhau bod cymuned Bangor a thu hwnt, a’r wlad gyfan, yn parhau i elwa o’r llwybr.”

 

Dywedodd Martin Cox Pennaeth, Pennaeth Gweithrediadau Gogledd Cymru i Cyfoeth Naturiol Cymru: “Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gweithio’n agos gyda thîm mynediad arfordirol Gwynedd i gynghori a chefnogi’r prosiect hwn.

“Bydd cerddwyr bellach yn gallu gweld golygfeydd o Ynys Môn, dociau Penrhyn a’r Fenai nad oedd i’w gweld yn y gorffennol.

 

“Mae’r llwybr newydd yn mynd drwy goetir a pharcdir ac mae’n nes at yr arfordir er mwyn gwella’r profiad. Mae’r llwybr wedi cael ei ddatblygu mewn modd sensitif i sicrhau bod cynefin rhynglanwol y Fenai yn cael ei ddiogelu.”

 

Ychwanegodd Rhys Roberts: “Mae hwn wedi bod yn gynllun unigryw gan fod angen taro cydbwysedd rhwng creu mynediad cyhoeddus a natur a’n bod wedi llwyddo i wneud hyn.

 

“Mae’r goedlan ei hun wedi ei dynodi yn goedwig hynafol ac o ganlyniad rhaid i ni osod meinwe pwrpasol i warchod gwreiddiau’r coed. Mewn rhannau eraill mae’r Llwybr wedi ei ffensio’n ddwbl i sicrhau nad yw cerddwyr yn amharu ar yr adar sy’n nythu ar flaendraeth Traeth Lafan.

 

“Bydd gwaith adfer amgylcheddol yn parhau i’r gaeaf. Mae nifer o flychau nythu adar ac ystlumod eisoes wedi’u gosod, a bydd nifer helaeth o goed yn cael eu plannu.”

 

Ariannwyd y cynllun gan Lywodraeth Cymru ac fe’i reolwyd a’i weithredu gan Gyngor Gwynedd.

 

Mae mwy o wybodaeth am Lwybr Arfordir Cymru ar y wefan:  www.walescoastpath.gov.uk  neu ar gyfryngau cymdeithasol: Facebook, Twitter ac Instagram.

 

Nid oes modd cael mynediad o’r llwybr i Gastell Penrhyn, sydd ym Mherchnogaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae mwy o wybodaeth am ymweld â Chastell Penrhyn ar y wefan: www.nationaltrust.org.uk