Penodi Aelod Cabinet Cyllid newydd i Gyngor Gwynedd

Dyddiad: 12/04/2024
Bydd aelod Cabinet newydd yn arwain ar bortffolio Cyllid Cyngor Gwynedd wrth i’r cyn-aelod sefyll i lawr wedi blynyddoedd o wasanaeth.

A hithau’n ddechrau blwyddyn ariannol newydd, bydd y Cynghorydd Paul Rowlinson – yr aelod lleol dros ward Rachub – yn cymryd yr awenau, ac yn arwain ar faterion refeniw, cyfrifeg, pensiynau a thechnoleg gwybodaeth yr awdurdod.

Daw hyn wedi i’r Cynghorydd Ioan Thomas benderfynu camu o’r neilltu wedi cyfanswm o 12 mlynedd o wasanaeth ar Gabinet Cyngor Gwynedd, ac wedi bod yn Aelod Cabinet Cyllid ers pum mlynedd. Bydd y Cynghorydd Thomas yn parhau fel aelod lleol dros ward Menai (Caernarfon).

Mae Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, wedi croesawu’r Cynghorydd Paul Rowlinson i’w swydd newydd ac wedi talu teyrnged i’r Cynghorydd Ioan Thomas am ei waith.

Dywedodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn: “Hoffwn groesawu’r Cynghorydd Paul Rowlinson i’r Cabinet. Mae’n gynghorydd brwdfrydig a chydwybodol sydd eisoes yn gwneud gwahaniaeth dros drigolion Gwynedd a dwi’n sicr y bydd yn gwneud cyfraniad pwysig fel aelod Cabinet.

“Bydd yn dod â thoreth o brofiad a gwybodaeth i’r swydd allweddol hon ac yntau wedi bod yn aelod o Gyngor Gwynedd ers saith mlynedd, yn gadeirydd Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi y Cyngor ac yn aelod o nifer o bwyllgorau a fforymau eraill o fewn a thu hwnt i’r Cyngor.

“Dymunaf y gorau iddo yn ei rôl newydd ac edrychaf ymlaen i weithio’n agos gydag o i’r dyfodol.

Meddai’r Cynghorydd Paul Rowlinson: “Mae’n fraint cael fy mhenodi i’r Cabinet ac ymgymryd â’r maes allweddol hwn.

“Diolch i arweinyddiaeth fy rhagflaenydd a gwaith caled y swyddogion medrus yn yr Adran Gyllid, rydw i’n hyderus y gallwn barhau i wneud popeth posib i amddiffyn gwasanaethau lleol yma yng Ngwynedd er gwaetha’r sefyllfa ariannol argyfyngus sy’n ein hwynebu.

“Rydw i’n edrych ymlaen at fwrw iddi efo’r gwaith pwysig yma.”

Talodd Arweinydd Cyngor Gwynedd deyrnged i’r Cynghorydd Ioan Thomas wrth iddo sefyll i lawr.

Meddai’r Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Arweinydd y Cyngor: “Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i’r Cynghorydd Ioan Thomas am ei waith diflino a’i ymroddiad i’r maes dros flynyddoedd lawer.

“Y mae wedi bod wrth y llyw dros gyfnod heriol iawn pan mae cyllidebau’r cyngor wedi bod o dan fwy o bwysau nag a welwyd erioed o’r blaen. Mae’r Cynghorydd Thomas wedi bod yn llais cadarn dros amddiffyn gwasanaethau i bobl fregus wrth osod cyllidebau’r Cyngor ac wedi pwyso’n ddiflino ar y llywodraeth i sicrhau cyllid teg i gynghorau gwledig fel Gwynedd.

“Rwy’n gwybod y bydd yn parhau i fod yn aelod gweithgar o’r Cyngor wrth gynrychioli ward Menai yng Nghaernarfon.”

Nodiadau

Ar Gyngor Gwynedd, mae’r Cynghorydd Paul Rowlinson yn aelod o:

 

Mae’r Cynghorydd Paul Rowlinson hefyd yn gadeirydd bwrdd llywodraethu Ysgol Dyffryn Ogwen ac yn aelod o:

  • Cyngor Llyfrau Cymru
  • Mantell Gwynedd
  • Pwyllgor Rheoli Lôn Abaty.