Gwraig o Wynedd yn ceisio ysbrydoli darpar ofalwyr maeth gyda'i stori bersonol

Dyddiad: 08/04/2024
Mae gwraig ifanc wedi siarad am sut y gwnaeth teulu maeth newid ei bywyd yn ei harddegau ac wedi iddi ddod yn oedolyn, gan annog eraill i ystyried rhoi eu henwau ymlaen fel darpar ofalwyr maeth.

Mae Jenna – sydd bellach yn astudio am ei gradd a newydd ddod yn fam ei hun – wedi siarad fel rhan o ymgyrch Maethu Cymru Gwynedd i fynd i'r afael â rhai o'r camsyniadau am faethu, yn enwedig maethu pobl ifanc yn eu harddegau.


Mae angen brys yng Nghymru am fwy o ofalwyr maeth i edrych ar ôl plant o bob oed ond mae'r galw am deuluoedd sy'n gallu cynnig cartref diogel a chariadus i bobl ifanc yn eu harddegau yn fwy difrifol.


Aeth Jenna i fyw gyda'i theulu maeth yng Ngwynedd pan oedd yn 15 oed ar ôl treulio’r rhan fwyaf o’i phlentyndod mewn gofal. Erbyn hyn, mae hi yn 23 oed ac yn parhau i fod yn agos gyda'i theulu maeth ac mae eisiau rhannu'r effaith bositif a gafodd ei theulu maeth ar ei bywyd yn y gobaith y gall hyn ysbrydoli eraill i ystyried dod yn ofalwyr maeth.


“Roedd fy nheulu maeth yn golygu popeth i mi, ac maent yn dal i fod," meddai Jenna, sydd wedi llunio perthynas oes gyda'r teulu. "Roedd yna ymdeimlad o berthyn a'u bod wir fy eisiau, doeddwn i erioed wedi profi hynny o'r blaen. Dewisodd fy ngofalwyr maeth fy nghroesawu i'w cartref ac i mi fod yn rhan o'u teulu.


“Am y tro cyntaf erioed, roeddwn yn teimlo yn rhan o ddeinameg y teulu, roedd hyn yn rhywbeth yr oeddwn wedi bod ei eisiau ar hyd fy mywyd. Cael rhieni oedd yn fy nhrin fel eu merch. Cael perthnasau gyda brodyr a chwiorydd am y tro cyntaf – er na fu hi fawr o dro nes i ni ddechrau ffraeo fel brodyr a chwiorydd! ⁠ ⁠ ⁠


"Ond roedd yn teimlo'n normal ac yn naturiol. ‘Roeddwn i wir yn hapus. Yn hapusach nag yr oeddwn erioed wedi bod o'r blaen. ⁠ ⁠


"Fel plentyn a dyfodd i fyny mewn gofal, roeddwn i wastad wedi meddwl unwaith y byddwn yn ddeunaw oed, mai dyna fyddai diwedd y gwasanaeth. Mi fyddwn i wedyn ar ben fy hun. Dyna’r syniad oedd gen i o sut roedd pethau'n gweithio. ⁠ ⁠


"Ond fe wnaeth fy rhieni maeth fy sicrhau y byddent wastad yno i mi. Roeddwn yn fwy na dim ond yn rhan o'r system ac roedd hynny yn deimlad mor braf a chynnes." ⁠
Bu Jenna yn byw gyda'i nain a'i thaid o pan roedd yn saith oed. Roedd dod o hyd i deulu maeth lleol yn bwysig iawn iddi fel ei bod yn gallu aros yn agos atynt a pharhau yn ei hysgol i gwblhau ei harholiadau TGAU. ⁠


"Mae fy mherthynas gyda Taid a Nain wedi gwella ers i mi fynd i fyw at fy nheulu maeth," ychwanegodd Jenna. "Mae gennym y lle a'r cyfnod i fod ar wahân, ond rydym yn ddigon agos i fynd i weld ein gilydd a chyfarfod yn rheolaidd. Mae gen i berthynas hyfryd efo Taid a Nain rŵan, a dyna sut y dylai pethau fod. ⁠ ⁠ ⁠


"Pan dwi'n edrych yn ôl ar yr amser pan ddois i fyw am y tro cyntaf at fy rhieni maeth, dwi'n sylweddoli cymaint yr ydw i wedi newid. Doedd gen i ddim hyder ac roeddwn yn ansicr iawn. Doedd bod yn 15 oed ddim yn hwyl, i mi na fy ngofalwyr maeth, a tydi pethau ddim wastad wedi bod yn hawdd. Ond roeddent yn credu ynof i gan wneud i mi gredu y gallwn gyflawni unrhyw beth yn fy mywyd.⁠ ⁠ ⁠ ⁠


“Wnes i erioed feddwl y gallai rhywun fel fi fynd i'r Brifysgol, ond fe wnaeth cael teulu cadarn a chefnogaeth yn gefn i mi roi'r hyder i mi wneud hynny.


"Mi faswn i'n deud wrth unrhyw un sy'n ystyried maethu, ond ddim yn sicr, i o leiaf roi tro arni. Bydd unrhyw beth y gallwch ei gynnig yn gwneud gwahaniaeth i fywyd person ifanc, pa bynnag mor fach y gallai hynny fod. Dydw i ddim hyd yn oed eisiau meddwl sut fath o berson faswn i rŵan taswn i heb gael gofal maeth. Dwi'n fythol ddiolchgar i fy nheulu maeth." ⁠ ⁠ ⁠


⁠Yng Ngwynedd mae mwy na 280 o blant yng ngofal yr awdurdod lleol, gyda 13 o blant ar hyn o bryd yn aros am gartref maeth ac mae wyth ohonynt yn 11 oed neu'n hŷn.


Mae Maethu Cymru Gwynedd yn awyddus i ddod o hyd i fwy o deuluoedd a fedrai helpu'r bobl ifanc fregus yma – yn cynnwys plant gydag anghenion mwy cymhleth, fel Cyflwr y Sbectrwm Awtistiaeth (ASC) – drwy gynnig cartref iddynt lle y gallant ddatblygu a chael y cyfle gorau i gael dyfodol llwyddiannus.


Wrth faethu drwy Gyngor Gwynedd, mae plant a phobl ifanc lleol yn fwy tebygol o aros yn eu cymuned, yn agos at ffrindiau ac aelodau o'r teulu maent yn cadw mewn cysylltiad â nhw. Gall hyn roi rhywfaint o sefydlogrwydd iddynt a'u helpu i gadw eu synnwyr o hunaniaeth. ⁠


Ychwanegodd Aelod Cabinet Plant a Chefnogi Teuluoedd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Elin Walker Jones:
"Un o'r prif heriau wrth recriwtio gofalwyr maeth yw dod o hyd i rai sydd â'r sgiliau i arbenigo mewn maethu pobl ifanc ag anghenion mwy cymhleth. Mae'r rhai sydd â chefndir yn y maes hwn yn allweddol i sicrhau bod gan ein plant mwyaf bregus gartref lle gallant ddatblygu a ffynnu. ⁠


Byddai cronfa ehangach o ofalwyr maeth gyda sgiliau a nodweddion gwahanol yn golygu ei bod yn fwy tebygol y gellid dod o hyd i'r cartrefi cywir i'r plant y tro cyntaf, gan roi'r cyfle gorau iddynt gael dyfodol llwyddiannus heb iddynt orfod symud i ffwrdd o'u cymuned leol."


"Mae ein gofalwyr maeth yn derbyn cefnogaeth anhygoel gan dîm maethu ymroddedig, ynghyd â chyngor a chefnogaeth gan dimau arbenigol i'w helpu i ddiwallu anghenion ein plant a'n pobl ifanc yng Ngwynedd." ⁠


I gael rhagor o wybodaeth am faethu gyda eich awdurdod lleol yng Ngwynedd, neu i wneud ymholiad, ewch i:

https://fosterwales.gwynedd.llyw.cymru

Nodiadau

⁠Mae Maethu Cymru Gwynedd yn rhan o'r rhwydwaith genedlaethol o 22 o dimau maethu nid-er-elw sydd gan awdurdodau lleol Cymru ac mae’n eistedd o fewn Cyngor Gwynedd.
⁠Ym mis Mawrth 2023, roedd bron i 40% o dros 7,000 o blant sydd yng ngofal awdurdodau lleol yng Nghymru rhwng 10 a 15 oed, gyda nifer ychydig yn uwch o fechgyn na merched. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru: ⁠ Plant sy'n derbyn gofal ar 31 Mawrth yn ôl awdurdod lleol, rhyw ac oedran (llyw.cymru)