Gwneud gwahaniaeth i fywydau lleol: Mabwysiadu Cynllun Cyngor Gwynedd 2023-28

Dyddiad: 28/04/2023
Mae Cyngor Gwynedd wedi cytuno ar feysydd blaenoriaeth fydd yn sail ar gyfer gwella’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu i bobl leol dros y pum mlynedd nesaf.  

Mae Cynllun Cyngor Gwynedd 2023-28 yn adnabod saith blaenoriaeth i'r Cyngor, gyda phob un yn cynnwys nifer o brosiectau fydd yn gwneud gwir wahaniaeth i gymunedau lleol a bywydau pobl sy'n byw ac yn gweithio yng Ngwynedd. 

Y saith maes blaenoriaeth a fydd yn llywio’r prosiectau ar gyfer 2023-28 yw:  

  • GWYNEDD YFORY - Rhoi’r dechrau gorau posib mewn bywyd i blant a phobl ifanc y sir.     
  • GWYNEDD LEWYRCHUS - Cryfhau’r economi a chefnogi trigolion Gwynedd i ennill cyflogau teilwng.       
  • GWYNEDD GLYD - Cefnogi pobl Gwynedd i fyw mewn cartrefi addas a fforddiadwy yn eu cymunedau.       
  • GWYNEDD OFALGAR - Cefnogi trigolion Gwynedd i fyw bywydau llawn a diogel yn ein cymunedau.    
  • GWYNEDD GYMRAEG - Sicrhau fod trigolion Gwynedd yn cael pob cyfle posib i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gymuned.  
  • GWYNEDD WERDD - Gwarchod harddwch naturiol y sir ac ymateb yn gadarnhaol i’r argyfwng newid hinsawdd.    
  • GWYNEDD EFFEITHLON - Rhoi trigolion Gwynedd yn gyntaf gan eu trin yn deg a sicrhau fod y Cyngor yn perfformio’n effeithiol ac effeithlon. 

Dywedodd Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn: “Rwy’n falch iawn o rannu gweledigaeth a blaenoriaethau’r Cyngor am y pum mlynedd nesaf gyda phobl Gwynedd.  

“Rydym wedi gwrando ar eu barn – gan gynnwys adborth o’r ymgynghoriad cyhoeddus ac ymarferiad chasglu gwybodaeth fel rhan o gynllun ymgysylltu Ardal Ni - ac rydym wedi ymrwymo i gyflawni prosiectau a fydd yn caniatáu i ni barhau i ddatblygu a gwella’r gwasanaethau rydym yn eu darparu.  

“Er gwaetha’r pwysau ariannol rydym yn ei wynebu, lle mae ein cyllidebau o dan bwysau digynsail, mae’r Cyngor yn anelu’n uchel a byddwn yn gweithio’n galed i gyflawni’r nodau rydym wedi’u gosod yn y cynllun.”  

Dim ond cyfran o waith y Cyngor sydd rhwng cloriau’r cynllun gan nad yw'n cynnwys y gwasanaethau dydd-i-ddydd y mae pobl ar draws y sir yn dibynnu arnynt 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn.  

Bydd y cynllun yn cael ei adolygu'n barhaus gyda cherrig milltir yn cael eu gosod ar gyfer pob prosiect fel y gellir gwirio’r cynnydd yn flynyddol.  

Bydd y prosiectau o fewn Cynllun Cyngor Gwynedd yn cyfrannu’n uniongyrchol tuag at gwrdd â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 Llywodraeth Cymru gan ystyried yr hirdymor, atal, gweithio’n integredig, cydweithio a chynnwys pobl o bob oed. 

Ychwanegodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn: “Rydym yn hyderus y bydd y cynllun hwn yn ein galluogi i barhau i ddarparu gwasanaethau o safon a chefnogi pobl Gwynedd i ffynnu, er gwaethaf yr heriau y byddwn yn eu hwynebu yn y blynyddoedd i ddod. Edrychwn ymlaen at weithio gyda’n trigolion i ddod a’n gweledigaeth gyffrous hon yn fyw."  

Mae Cynllun Cyngor Gwynedd ar gael:  

  • Ar y wefan, ewch i www.gwynedd.llyw.cymru/CynllunYCyngor. Mae fideo fer yn cyflwyno’r cynllun hefyd i’w weld ar y dudalen hon o’r wefan.
  • Mae copïau papur ar gael yn y tair swyddfa Siop Gwynedd (Caernarfon, Pwllheli, Dolgellau) ac yn eich llyfrgell leol. Mae manylion lleoliadau ac amseroedd agor y Siopau Gwynedd a’r llyfrgelloedd I'w gweld ar wefan y Cyngor: www.gwynedd.llyw.cymru  
  • I wneud cais am gopi – naill ai wedi'i argraffu neu mewn fformat arall – cysylltwch â Thîm Cefnogi Busnes y Cyngor - ebostiwch  CynllunCyngor@gwynedd.llyw.cymru neu ffoniwch 01766 771000.