Mwy o wasanaethau fflecsi i rwydwaith trafnidiaeth Gwynedd

Dyddiad: 16/02/2024
Bydd gwasanaethau fflecsi yn dechrau gweithredu ddydd Llun 19 Chwefror yn Nolgellau a Dyffryn Dulas, fel rhan o'r gwelliannau diweddaraf i gysylltiadau trafnidiaeth yng Ngwynedd.

Bydd fflecsi Dolgellau yn rhedeg yn lle gwasanaethau bws arferol rhifau 33, 33A a 533 ac yn darparu cysylltiadau â Llanfachreth, Brithdir a Dinas Mawddwy.

Yn Nyffryn Dulas, bydd fflecsi yn disodli gwasanaeth bws rhif 34 a rhan o wasanaeth bws arferol rhif 30.  Bydd y gwasanaeth newydd yn cysylltu pentrefi ar hyd coridor yr A487 â Machynlleth – gan gynnwys Aberllefenni, Corris Uchaf, Corris, Minffordd a Pantperthog.

Yn cael ei weithredu ar ran Cyngor Gwynedd a Thrafnidiaeth Cymru gan Lloyds Coaches, bydd y gwasanaethau newydd hyn yn ychwanegiad i’r gwasanaeth fflecsi poblogaidd ym Mhenrhyn Llŷn, sy'n ail-ddechrau fis Mawrth, gan wella cysylltiadau teithio ymlaen a darparu mwy o gyfleoedd i bobl deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus yn yr ardal.

Meddai’r Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd:

“Fel Cyngor, rydym yn awyddus i ddatblygu rhwydwaith cludiant cyhoeddus cyfleus, dibynadwy a rhesymol ei gost i bobl Gwynedd.

“Rydym wedi cyflwyno rhwydwaith newydd o wasanaethau bysiau ar gyfer ardal Meirionnydd yn ddiweddar sy’n ymgais i sicrhau gwasanaethau o safon i gymunedau gwledig. Y bwriad yw gwneud y ddarpariaeth mor atyniadol a phosib er mwyn tyfu nifer y defnyddwyr, gan wneud y gwasanaethau yn hyfyw yn yr hir-dymor.

“Mae’r gwasanaethau fflecsi newydd yma ar gyfer Dyffryn Dulas a Dolgellau yn rhan allweddol o’r gwelliannau yna, gan gynnig cyswllt cludiant pwysig i drigolion mewn ardaloedd gwledig a chan annog mwy o bobl i wneud y mwyaf o’r opsiynau cludiant cyhoeddus sydd ar gael.”

Dywedodd Lee Robinson, Cyfarwyddwr Gweithredol Trafnidiaeth Ranbarthol Trafnidiaeth Cymru: “Mae'n wych gweld dau wasanaeth fflecsi newydd yn cael eu lansio.  Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Chyngor Gwynedd i wella mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus a chefnogi ein gweledigaeth ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth gwirioneddol integredig.

“Bydd y gwasanaethau hyn yn rhoi dewis arall i gymunedau yn hytrach na'r teithiau pob dydd a wneir mewn car, yn ogystal â helpu i gynyddu twristiaeth gynaliadwy mewn ardal o Gymru sy'n gweld miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn.”

Mae fflecsi yn wasanaeth bws sy'n ymateb i'r galw nad oes ganddo lwybr ac amserlen sefydlog ond yn hytrach, parth gweithredu, sy'n caniatáu i deithwyr gael eu codi a'u gollwng unrhyw le o fewn y parth fflecsi hwnnw.

Yn hytrach na bod teithwyr yn aros am y bws wrth safle bws, gallant archebu taith ymlaen llaw gan ddefnyddio ap fflecsi, neu ffonio 0300 234 0300.

Unwaith y bydd y gwasanaethau newydd wedi bod yn gweithredu ers ychydig wythnosau, bydd Cyngor Gwynedd, Trafnidiaeth Cymru a Lloyds Coaches yn cynnal digwyddiadau ymgysylltu yn y ddau faes. Cyhoeddir manylion y digwyddiadau hyn yn fuan.

 

fflecsi Dolgellau

  • Bydd fflecsi Dolgellau yn gweithredu o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau cyhoeddus) rhwng 9am a 6pm. Dydd Sadwrn rhwng 8am – 6pm.
  • Bydd dwy daith amser penodol yn gweithredu ynghyd â thaith amser penodol ychwanegol ar ddiwrnodau ysgol yn unig.
  • Prisiau o £1.25

fflecsi Dyffryn Dulas  

  • Bydd fflecsi Dyffryn Dulas yn gweithredu o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau cyhoeddus) rhwng 8.45am a 6pm. Dydd Sadwrn rhwng 8am – 6pm.
  • Bydd gwasanaeth amser penodol yn gadael Aberllefenni am 8.15am ac yn cyrraedd Machynlleth am 8.40am, ac yna bydd y daith ddychwelyd yn gadael Machynlleth am 3.40pm ac yn cyrraedd Aberllefenni am 4.05pm.
  • Ffi sefydlog o £2