Digwyddiadau Busnes Cyngor Gwynedd

Dyddiad: 20/02/2024
ffyniant bro
Bydd cyfle i fusnesau lleol dderbyn gwybodaeth am y cymorth a’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt yn ystod cyfres o ddigwyddiadau wedi eu trefnu gan Gyngor Gwynedd.

 

Mae pob math o gefnogaeth ar gael drwy brosiectau amrywiol yn ystod 2024 – gan gynnwys sut i wneud y gorau o dechnoleg newydd, cyfleoedd i ddatblygu sgiliau’r gweithlu, a mwy – diolch i arian Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (SPF) a ddyrannwyd gan Gyngor Gwynedd.

 

Bydd y sesiynau  yn cynnwys chyflwyniad i’r prosiectau a’r cymorth mae nhw’n gynnig a chyfleoedd i’r busnesau sgwrsio gyda’r cynrychiolwyr sy’n bresennol. Fe’i cynhelir mewn pump lleoliad ar draws y sir, rhwng 8.30-10am:

  • Tŷ Gorsaf Hotel, Blaenau Ffestiniog  23/02/24  Cofrestru
  • Theatr y Ddraig, Abermaw, 12/03/24 Cofrestru
  • Hwb Arloesi, Porthmadog 14/03/24  Cofrestru
  • Tafarn yr Heliwr, Nefyn 15/03/24  Cofrestru
  • Caffi De Winton, Gorsaf Rheilffordd Eryri, Caernarfon 21/03/24 Cofrestru

 

Bydd lluniaeth ysgafn wedi ei ddarparu yn ystod pob sesiwn.

 

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sydd â chyfrifoldeb dros ddatblygiad economaidd:

 

“Mae hwn yn gyfle da i fusnesau a sefydliadau Gwynedd i ddysgu mwy am y cymorth sydd ar gael i fusnesau yng Ngwynedd ac i glywed a rhannu eu profiadau gyda busnesau lleol eraill.

 

I gofrestru ar gyfer y digwyddiad, dilynwch y ddolen i’r dudalen gofrestru neu anfonwch eich manylion gan gynnwys enw, enw’r busnes neu sefydliad a nodi pa ddigwyddiad y byddwch yn ei fynychu i busnes@gwynedd.llyw.cymru

 

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r digwyddiadau cysylltwch â Busnes@gwynedd.llyw.cymru neu ewch i safle we’r Cyngor
www.gwynedd.llyw.cymru/ProsiectauCymorthBusnes