Cyngor Gwynedd yn cefnogi symleiddio'r system fudd-daliadau

Dyddiad: 27/02/2024

Mae Cyngor Gwynedd wedi arwyddo Siarter Budd-daliadau Cymru, ac wedi ymrwymo i gyd-weithio gyda Llywodraeth Cymru er mwyn gwella System Fudd-daliadau Cymru.

Rhai o brif ddibenion y siarter hon yw sicrhau fod y system fudd-daliadau yng Nghymru yn:

  • deg ac yn gyfartal i bawb
  • addas ar gyfer anghenion pobl
  • ateb anghenion grwpiau sydd o dan anfantais
  • cael gwared ar y rhwystrau sy’n atal pobl rhag hawlio’r budd-daliadau maent yn gymwys amdanynt.

Meddai’r Cynghorydd Nia Jeffreys, Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd a’r Aelod Cabinet sy’n arwain yr agenda trechu tlodi:

“Fel Cyngor, rydym yn falch iawn o gefnogi’r Siarter hon i’w gwneud hi’n haws i drigolion Gwynedd hawlio’r hyn y maent yn gymwys amdano.

“Mae’n bwysig bod trigolion y sir yn medru cael mynediad i wybodaeth ac yn gallu hawlio budd-daliadau i gyd mewn un lle, a hynny mewn ffordd syml.

“Mae’n bwysig hefyd fod pobl yn deall pa gefnogaeth sydd ar gael i’w galluogi i ymgeisio am fudd-daliadau.”

 Ychwanegodd y Cynghorydd Ioan Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Gyllid:

“Dwi’n falch fod Cyngor Gwynedd eisoes wedi bod yn gweithio i symleiddio’r broses o hawlio budd-daliadau a dwi’n falch bydd y Siarter newydd yma yn ein cefnogi i barhau i wella’r gwasanaeth.

“Rydym yn gweithio’n galed i ddangos tegwch a chydraddoldeb wrth ddarparu budd-daliadau a grantiau ac mae ein staff yn wybodus, profiadol ac yn derbyn hyfforddiant parhaus.

“Mae hyn yn galluogi staff y Cyngor i helpu pobl i gael mynediad at gymorth yn uniongyrchol neu eu cyfeirio at gymorth a chyngor annibynnol.”

Mae mwy o wybodaeth am y Siarter Budd-daliadau Cymru ar gael ar wefan y Llywodraeth yma:
Siarter Budd-daliadau Cymru | LLYW.CYMRU

Am ragor o wybodaeth am gyngor costau byw sydd ar gael yng Ngwynedd ewch i wefan y Cyngor yma: Cymorth Costau Byw (llyw.cymru)