Cymorth hanfodol yn Hybiau Cymunedol Gwynedd

Dyddiad: 20/02/2024

Mae Cyngor Gwynedd yn cefnogi rhwydwaith o Hybiau Cymunedol ar draws y sir sy’n helpu pobl i gael mynediad at gymorth hanfodol, yn enwedig yng wyneb yr heriau economaidd a chymdeithasol cyfredol.

 

Cymunedau eu hunain sy’n cynnal yr hybiau gan ddarparu pob math o gymorth drwy ddod â gwasanaethau, grwpiau lleol ac asiantaethau ynghyd i lywio eu hymateb lleol i anghenion eu hardal.

Er enghraifft, mae’r hybiau yn helpu pobl i gael mynediad i fudd-daliadau a chyngor ariannol; cymorth gyda materion trafnidiaeth; cynnig cymorth i bobl sy’n ynysig oherwydd eu hamgylchiadau personol eu hunain.

 

Un o’r hybiau hyn ydi’r Dref Werdd, sydd wrth galon cymuned Ffestiniog a sy’n helpu oddeutu 300 o bobl y mis.

 

Mae Gwydion ap Wynn wedi bod yn reolwr prosiect yn y Dref Werdd ers 2015, ac eglurodd fod yr hwb yn gallu llenwi’r bwlch mewn gwasanaethau cymorth a chynnig arweiniad a chefnogaeth i bobl sy’n wynebu heriau neu broblemau.

 

Dywedodd Gwydion: “Mae ardal yma yn le unigryw gyda phobl unigryw ac mae’r Dref Werdd yn cynnig cefnogaeth a chymorth yn y gymuned.

 

“Rydan ni’n helpu efo pa bynnag broblem sy’n dod i fewn trwy’r drws. Os nad ydan ni’n gallu datrys y broblem ein hunain rydan ni’n gallu cyfeirio bobl i wasanaethau eraill.”

 

Mae swyddfa’r Dref Werdd ar agor dri diwrnod yr wythnos gan gynnig helpu gyda pob math o broblemau, er enghraifft:

  • os ydi person angen help i lenwi ffurflen i gael Bathodyn Glas ar eu cerbyd neu i gael pas bws;
  • mae teulu yn pryderu am biliau ynni ac eisiau gwybod am ba gymorth sydd ar gael i gynhesu eu cartref;
  • mae rhywun ymysg y nifer gynyddol o bobl sy’n ei chael yn anodd cael prydau bwyd maethlon oherwydd rhesymau cymhleth megis costau bwyd, rhwystrau trafnidiaeth a diffyg darpariaeth siopau.   

Yn ogystal a chymorth gyda materion ymarferol ac ariannol, mae hybiau fel y Dref Werdd yn cynnig achubiaeth emosiynol gan roi cyfleodd i bobl dreulio amser yn yr awyr agored, i ddysgu sgiliau newydd ac i gyfrannu i’r gymuned.

 

Ychwanegodd Gwydion ap Wynn: “Mae gan y Dref Werdd ardd fasnachol rydan ni wedi ei ddatblygu ar dir a sydd ar les gan Gyngor Gwynedd.

 

“Safle tir brown oedd o’n flaenorol a mae na lawer o waith clirio wedi bod yma. Mae o’n ofod i’r gymuned ble rydan ni’n tyfu bwyd rownd y flwyddyn ac mae o hefyd yn le i bobl ddod i gymdeithasu, i wirfoddoli a rydan ni’n gallu rhoi help llaw iddyn nhw.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd a’r Aelod Cabinet sy’n arwain ar faterion trechu tlodi: “Mae cefnogi pobl leol i fedru dygymod a heriau bywyd yn flaenoriaeth i ni yng Nghyngor Gwynedd ac mae’n destun balchder ein bod yn gweithio efo’r Hybiau Cymunedol ym mhob rhan o’r sir.

 

“Mae’r hybiau yn cael eu rhedeg gan y cymunedau eu hunain ac mae’r gwaith amhrisiadwy mae’n nhw’n eu gwneud yn adlewyrchu anghenion penodol yr ardal honno. Mae’n wych hefyd clywed am y cydweithio sy’n digwydd rhwng yr hybiau a gwasanaethau eraill er mwyn diwallu anghenion pobl Gwynedd.

 

“Byddwn yn annog unrhyw un i droi mewn i’w Hwb lleol os ydynt yn poeni am eu sefyllfa bersonol neu rhywun mae’n nhw’n eu hadnabod. Efallai fod yr argyfwng costau byw yn effeithio arnoch a rydych yn ei chael yn anodd cael dau ben llinyn ynghyd, neu efallai eich bod yn cael trafferth cael yr help sydd ar gael am eich bod yn ei chael yn anodd llenwi ffurflenni neu heb gysylltiad dibynadwy i’r we.

 

“Beth bynnag sy’n eich rhwystro rhag datrys eich problemau, mae help ar gael yn eich hwb cymunedol lleol.”

 

Mae cyfleoedd gwirfoddoli hefyd ar gael drwy’r rhwydwaith o hybiau hefyd.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Nia Jeffreys: “Mae gwirfoddoli yn rhywbeth buddiol iawn, nid yn unig ydych yn helpu rhywun arall ond rydych hefyd yn adeiladu ar eich sgiliau eich hun ac mae’n gyfle i wneud ffrindiau a chysylltiadau newydd.

 

“Os ydych yn hoffi helpu eraill ac yn meddwl gallwch gyfrannu, neu os ydych yn chwilio am brofiad gwaith, byddwn yn eich annog i gysylltu â’ch Hwb Cymunedol lleol i weld pa gyfleoedd sydd ar gael.

 

“Mae gwybodaeth am y Hybiau Cymunedol ar wefan Cyngor Gwynedd, yn ogystal a fideo byr sy’n rhoi blas o waith y Dref Werdd. Mi fyddwn yn annog pawb i’w wylio’r, mae straeon Rhian y Gweithiwr Llesiant a Charlotte y gwirfoddolwr – a sut mae’r Dref Werdd yn cyfrannu at fywyd Blaenau Ffestiniog – wir yn ysbrydoliaeth.”

 

I ddysgu mwy am Hybiau Cymunedol Gwynedd, ac i wylio’r fideo, ewch i www.gwynedd.llyw.cymru/CostauByw a dewis y blwch “Cefnogaeth bellach a Hybiau Cymunedol”.

 

Nodiadau – Gwyliwch y fideo yma: Cefnogaeth bellach a hybiau cymunedol (llyw.cymru)