Mynediad am ddim i rai teuluoedd o Wynedd i Eisteddfod Llŷn ac Eifionnydd

Dyddiad: 01/08/2023

 

Diweddariad: 02/08/2023 (14:30): Yn anffodus, mae'r holl docynnau mynediad am ddim i deuluoedd incwm isel Gwynedd wedi eu hawlio, felly mae'r cyfnod gwneud cais wedi cau.

 

Bydd teuluoedd incwm isel Gwyned yn gallu hawlio tocynnau am ddim i faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, diolch i gefnogaeth ariannol o £150,000 gan Lywodraeth Cymru.

  

Mae Cyngor Gwynedd yn atgoffa pobl gymwys i wneud eu cais cyn gynted a phosib, gan bydd y ffenestr i wneud ceisiadau yn cau am 12pm (hanner dydd) ddydd Iau, 3 Awst. Bydd pawb sydd wedi gwneud cais llwyddiannus yn derbyn neges gadarnhau yn uniongyrchol gan Gyngor Gwynedd. 

 

Mae hyn yn rhan o becyn ehangach o fesurau gan Gyngor Gwynedd i sicrhau nad oes rhwystrau yn atal pobl leol rhag mynychu’r Eisteddfod Genedlaethol ac i sicrhau fod yr Eisteddfod yn ymgysylltu â’r gymuned ehangach ac yn hygyrch i bawb. 

Bydd teuluoedd incwm isel cymwys yn gallu archebu tocyn “un tro” y gellir ei ddefnyddio ar gyfer diwrnod o’u dewis a thaleb bwyd gwerth £10 y pen i’w wario ar Faes yr Eisteddfod.

 

Bydd tocynnau ar gael i’r rheini sy’n byw yng Ngwynedd ac yn derbyn unrhyw un o’r canlynol:   

  • Lwfans Cymorth a Chyflogaeth (sail incwm) 
  • Cymhorthdal Incwm 
  • Lwfans Ceisio Gwaith (ar sail incwm) 
  • Credyd Treth Plentyn (gydag incwm trethadwy blynyddol o ddim mwy na £16,190)  
  • Credyd Pensiwn (Gwarant) 
  • Cymorth o dan Ddeddf Lloches a Mewnfudo 1999 
  • Credyd Cynhwysol ar yr amod bod gan yr aelwyd incwm a enillir net blynyddol o ddim mwy na £7,400 
  • Unigolion sy’n derbyn gostyngiad Treth Cyngor (ar sail incwm) 

 

Yn ogystal, mae trefniadau yn cael eu gwneud gan y Cyngor i gynnig tocynnau am ddim i garfannau penodol eraill o bobl o fewn y sir gan gynnwys teuluoedd sy’n maethu, pobl ifanc sydd wedi gadael gofal, ceiswyr lloches a ffoaduriaid. Mae Gwasanaeth Ieuenctid y Cyngor hefyd yn cynnal tripiau i’r Eisteddfod i’w haelodau.  

 

Meddai’r Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Arweinydd y Cyngor,  

 

“Mae Eisteddfod Genedlaethol yn un o uchafbwyntiau y calendr diwylliannol a chymdeithasol yma yng Nghymru ac mae’n fraint cael croesawu pobl o bob rhan o’r wlad a thu hwnt yma i Wynedd. Ond mae cyn bwysiced ein bod yn rhoi cyfleon i bobl leol na fyddai’n gallu mynychu fel arall i ddod i fwynhau popeth sydd gan yr ŵyl i’w gynnig.  

 

“Rydw i’n falch iawn ein bod wedi gallu cyd-weithio â’r Eisteddfod a Llywodraeth Cymru er mwyn estyn y croeso i amrediad o wahanol bobl i brofi diwylliant Cymraeg draddodiadol a chyfoes mewn awyrgylch gyffroes a chynnes. 

“Byddwn yn annog pawb sy’n gymwys i gymryd mantais o’r cynnig gwerth chweil yma.” 

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd a’r Aelod Cabinet sy’n arwain ar raglen waith taclo tlodi ar draws Adrannau’r Cyngor:  

 

“Nid yw’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn hawdd i’r rhai sy’n wynebu caledi yn sgil y cynnydd sylweddol mewn costau byw. Dwi’n gwybod bydd llawer o rieni a fyddai wrth eu bodd yn cael mynd a’u plant i’r wŷl ond yn ei chael yn anodd ei fforddio ar hyn o bryd.  

 

“Dydi cael Eisteddfod Genedlaethol – a’r holl gyfleon ieithyddol, diwylliannol a chymdeithasol – ar garreg ein drws ddim yn digwydd yn aml. Felly mae’n wych fod y cyfle yma ar gael i blant a phobl ifanc ar gael i brofi’r digwyddiad unigryw, hwyliog a Chymreig yma yn rhad ac am ddim. Bydd y tocynnau bwyd hefyd yn helpu’r teuluoedd sydd ei angen fwyaf. 

 

“Dwi’n ffyddiog bydd cyfle fel hyn yn rhoi blas i rheini na fyddai’n ystyried dod i’r Eisteddfod yn arferol ac yn creu cenhedlaeth o Eisteddfodwyr y dyfodol.”  

 

Er mwyn gweld os ydych yn gymwys ac archebu tocyn / tocynnau am ddim, ewch i: Mynediad am ddim i deuluoedd incwm isel i Faes yr Eisteddfod Genedlaethol (llyw.cymru)