Gwobr aur unwaith eto i Gyngor Gwynedd

Dyddiad: 17/08/2023
Mae Cyngor Gwynedd wedi derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol am y ffordd mae’n edrych ar ôl llesiant staff.

Mae hyn yn cadarnhau enw da’r Cyngor fel cyflogwr a hefyd helpu i sicrhau fod gwasanaethau allweddol ar gael i bobl sy’n dibynnu arnynt ym mhob rhan o’r sir.

Unwaith eto eleni, mae Cyngor Gwynedd wedi dal gafael ar Safon Aur yn Fframwaith Ansawdd Iechyd Genedlaethol, sef strwythur genedlaethol gynhelir gan Lywodraeth Cymru er mwyn hyrwyddo a gwella iechyd a lles yn y gweithle.

Bwriad y fframwaith yw cydnabod arferion da o ran iechyd a lles staff a chanolbwyntio ar anhwylderau a chyflyrau y gellir eu hosgoi. Gwelir hyn fel ffordd bositif o leihau absenoldebau staff a sicrhau nad oes tarfu na oedi i wasanaethau’r Cyngor.

Yn ei gyflwyniad i arolygwyr y Llywodraeth, dangosodd Cyngor Gwynedd sut mae iechyd a llesiant staff wedi bod yn ar flaen meddyliau’r arweinyddiaeth wrth adfer gwasanaethau yn dilyn cyfnod y pandemig ac hefyd yn ystod cyfnod o ail-strwythuro gweithredol.

Dywedodd y Cynghorydd Menna Tenholme, Aelod Cabinet dros Adran Cefnogaeth Gorfforaethol y Cyngor: “Mae hyn yn newyddion da iawn a hoffwn longyfarch pawb sydd tu ôl y llwyddiant yma. Rydw i’n hynod falch fod y Cyngor wedi dal y Safon Aur yn gyson ers 2011 sy’n dyst fod y Cyngor yn le da i weithio.

“Fel un o brif gyflogwyr y sir ac yn gyfrifol am gynnal gwasanaethau hanfodol gan gynnwys gofal ac addysg, mae’n hollbwysig fod y Cyngor yn edrych ar ôl ei adnodd pwysicaf, sef ei staff. Mae cydnabyddiaeth yr aseswyr fod y Cyngor ar y trywydd iawn ac yn cyflwyno ffyrdd newydd o hyd ac o hyd o ofalu am iechyd a llesiant staff yn destun balchder.

“Roeddwn yn falch o glywed am y trefniadau a gweithdrefnau sydd mewn lle i sicrhau fod llesiant corfforol a meddyliol staff yn cael sylw teilwng a’r ffyrdd rhagweithiol mae’r Cyngor yn gweithredu yn y maes.

“Er enghraifft, mae’r Cyngor yn cefnogi ymgyrchoedd cenedlaethol a rhyngwladol, yn annog i staff gadw’n heini ac i fod yn fwy actif yn eu amser hamdden. Yn ogystal, mae’r Cyngor yn  annog staff i fod yn agored am eu iechyd meddwl ac wedi darparu arweiniad i reolwyr ar sut i ddelio a materion yn y maes.”

Caiff Fframwaith Ansawdd Iechyd Genedlaethol ei ariannu fel rhan o raglen ‘Cymru Iach ar Waith’ Llywodraeth Cymru a’i weithredu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.