Gwasanaeth Cyngor Gwynedd yn cael ei gydnabod am dorri cwys newydd mewn maes blaengar

Dyddiad: 18/08/2023

Mae un o wasanaethau Cyngor Gwynedd – y cyntaf o'i fath i weithredu drwy gyfrwng y Gymraeg – wedi ei gydnabod am ei waith blaengar a thrawsnewidiol ym maes amddiffyn plant.

Mae Tîm Emrallt yn wasanaeth hyfforddi a chynghori i weithwyr proffesiynol sy'n  gweithio gyda phlant a phobl ifanc agored i niwed. Fe’i sefydlwyd yn 2019 yn benodol i helpu’r swyddogion hyn i wybod sut i ymateb a delio a phlant a phobl ifanc sy'n dangos ymddygiad rhywiol niweidiol ac amhriodol.

Hyd yma, mae mwy na 1,100 o ymarferwyr wedi cael eu hyfforddi gan y tîm yng Ngwynedd, gan roi'r sgiliau hanfodol iddynt helpu plant a phobl ifanc i atal eu hymddygiad rhag waethygu. Heb yr ymyrraeth hyn, gall yr ymddygiadau nid yn unig fod yn hynod niweidiol i'r unigolion eu hunain ac eraill, ond gallai hefyd arwain at berson ifanc orfod mynd i gyswllt â’r drefn cyfiawnder troseddol fyddai’n cael effaith hirdymor ar eu dyfodol.

Yn ddiweddar, bu aelodau o Dîm Emrallt yn siarad mewn cynhadledd ryngwladol a gynhaliwyd gan NOTA – rhwydwaith cymorth i weithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda throseddwyr rhywiol a’r maes ehangach. Roedd yn gyfle i siarad am  y ffordd aml-asiantaethol ac ataliol mae Cyngor Gwynedd yn ei ddefnyddio yn y cyd-destun hyn.

Dywedodd Gina Carty, un o swyddogion Tîm Emrallt: “Mae'n deg dweud ein bod ni fel cymdeithas yn fwy ymwybodol o ymddygiad rhywiol niweidiol neu amhriodol ymhlith plant a phobl ifanc sy'n golygu bod mwy o achosion yn cael eu hadrodd. Nod ein gwaith yw addysgu ac hyfforddi pobl i adnabod yr arwyddion yn gynt a gwybod beth i'w wneud os ydynt yn dod ar draws y mathau hyn o ymddygiad.

“Mae'n bwysig cofio bod y mwyafrif llethol o blant a phobl ifanc sy'n arddangos y math yma o ymddygiad wedi eu niweidio yn gorfforol, yn rhywiol neu’n emosiynol eu hunain ac mae angen cwrdd a’u anghenion.

“Golygai’r newidiadau a’r mynediad i gyfryngau cymdeithasol a thechnoleg fod ein pobl ifanc yn agored i bob math o negeseuon anghywir, gan droi’r hyn maen nhw'n ei feddwl sy’n berthnasau iach a ‘normal’ a’i ben i waered. Gall hyn gael effaith ddifrifol ar fywyd y person ifanc a’u perthnasau.

“Rydyn ni'n gweithio gyda phob math o bobl – gweithwyr cymdeithasol, athrawon, gweithwyr ieuenctid a gofalwyr maeth – i roi'r hyfforddiant a'r arweiniad sydd ei hangen arnyn nhw i helpu pobl ifanc bregus.”

Mae Tîm Emrallt yn gweithio o fewn Adran Plant a Chefnogi Teulu Cyngor Gwynedd ac yn cael ei oruchwylio gan y Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid. Dyma’r gwasanaeth cyntaf o'i fath yng Nghymru a'r unig un i weithio'n gwbl ddwyieithog. Mae'r tîm bellach yn gweithio gydag awdurdodau lleol eraill i'w helpu i ddatblygu gwasanaethau tebyg ac yn darparu gweithdai, deunyddiau dysgu a gwaith papur drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ardaloedd eraill o Gymru.

Dywedodd y Cynghorydd Elin Walker Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Adran Plant a Chefnogi Teulu: “Roedd yn destun balchder i mi gael ymuno â'r tîm yn y gynhadledd ryngwladol yng Nghaerdydd, lle clywodd cynrychiolwyr o Ewrop a Gogledd America am sut mae Cyngor Gwynedd yn arwain y ffordd yn ein dull aml-asiantaethol o ymdrin â'r pwnc anodd a sensitif hwn.

“Roedd yn wych gweld y tîm o Gyngor Gwynedd yn rhannu'r llwyfan gyda chynrychiolwyr o sefydliadau eraill uchel eu parch o'r meysydd academaidd a chlinigol o bob cwr o'r byd.

“Roedd yr holl gynrychiolwyr yn cydnabod pwysigrwydd delio â'r materion hyn yn sensitif a chadw pob plentyn a pherson ifanc yn ddiogel. Mae'n hanfodol bod pawb sy'n gweithio gyda phlant yn cael yr hyfforddiant a’r canllawiau cywir fel eu bod yn gallu adnabod yr arwyddion yn gynnar ac i ymateb yn briodol i anghenion y person ifanc.

“Mae'n bwysig bod Tîm Emrallt yn gallu gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg, gan ategu ein gwasanaethau addysgol a chymdeithasol a chyd-fynd â’n polisi iaith blaengar yma yng Nghyngor Gwynedd.”