Gosod biniau ar gyfer ailgylchu hen lein bysgota er lles yr amgylchedd a bywyd gwyllt

Dyddiad: 30/08/2023

Mae glannau Gwynedd yn enwog am eu harddwch a’u cyfoeth o fyd natur, ond fel gweddill y byd mae llygredd plastigion yn cael effaith negyddol ar ddyfroedd ac arfordir yr ardal gan beri niwed i’r amgylchedd a bywyd gwyllt.

Er mwyn ceisio mynd i’r afael â hyn mae Cyngor Gwynedd ac Ardal Cadwraeth Arbennig Pen Llŷn a’r Sarnau wedi bod yn cydweithio gyda sefydliadau eraill gan gynnwys yr Anglers National Line Recycling Scheme i osod biniau i gasglu ac ailgylchu hen lein bysgota.

Erbyn hyn mae biniau wedi eu gosod mewn sawl man ar hyd arfordir Gwynedd gan gynnwys Trefor, Pwllheli, Criccieth ac Abermaw lle bydd modd i bysgotwyr a’r cyhoedd cael gwared ar eu hen lein bysgota.

Meddai’r Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd:

“Mae peryglon plastigion yn y môr yn rhywbeth sydd wedi dod yn fwy amlwg dros y blynyddoedd diwethaf, ac yn cael effaith andwyol ar yr amgylchedd naturiol a bywyd gwyllt.

“Rydw i’n falch iawn ein bod yn cymryd camau i geisio sicrhau fod modd ailgylchu ac ailddefnyddio hen leiniau pysgota.

“Bydd y gwastraff fydd yn cael ei hel yn cael ei drin a’i droi i mewn i ddeunyddiau defnyddiol megis cadeiriau, byrddau, yn ogystal â biniau newydd er mwyn casglu rhagor o wastraff.”

Dywedodd Amlyn Parry o Ardal Cadwraeth Arbennig Pen Llŷn a’r Sarnau:

“Mae gwastraff plastigion yn ein moroedd yn amharu ar yr amgylchedd naturiol mewn sawl ffordd. Gall fywyd gwyllt fynd yn gaeth ac yn sownd mewn plastigion, gan achosi niwed difrifol a marwolaeth.

“Wrth i blastigion diraddio a thorri lawr yr yn amgylchedd, maent hefyd yn cyfrannu tuag at rhagor o feicroblastigion. Mae plastigion a meicroblastigion yn niweidiol i fywyd gwyllt oherwydd gallent eu gamgymryd am fwyd sydd yn gallu arwain at pob math o broblemau difrifol, ac felly mae ailgylchu yn holl bwysig.”

Yn arferol ni fu’n bosib i Gynghorau Sir dderbyn lein bysgota i’w ailgylchu oherwydd fod prosesu’r math yma o blastig yn fwy cymhleth na thrin plastigion arferol. Fodd bynnag, mae Tîm Tacluso Ardal Ni a Gwasanaethau Stryd Cyngor Gwynedd wedi rhoi cefnogaeth mawr i’r prosiect yn ogystal â helpu i osod y biniau ac ymgymryd â’r gwaith o’u gwagio.

Mae biniau ailgylchu lein bysgota wedi eu lleoli yn:

  • Cei Trefor, Trefor
  • Traeth Marian y De, Pwllheli
  • Carreg yr Imbill, Pwllheli
  • Traeth y Marine, Cricieth
  • Harbwr Abermaw