Cyngor Gwynedd yn penodi penseiri ar gyfer ysgol newydd gwerth £12m

Dyddiad: 28/07/2023
Bontnewydd 1

Y penseri Aimee Jones a Matthew Roberts o gwmni TACP yn ymweld ag Ysgol Bontnewydd ac yn cael cyfle i siarad â’r Cynghorydd Menna Trenholme; Gareth Jones, pennaeth yr ysgol; a rhai o’r disgyblion.

 

Mae cam pwysig ymlaen wedi ei gymryd mewn prosiect cyffrous i ail-ddatblygu’r ysgol ac adnoddau cymunedol yn Bontnewydd, wrth i Gyngor Gwynedd benodi’r penseiri fydd yn dylunio’r adeiladau newydd.

Bu cyfle i gynrychiolwyr o gwmni TACP o Wrecsam i gwrdd â theulu’r ysgol yn ystod ymweliad diweddar er mwyn iddynt gael gweld efo’u llygaid eu hunain beth yw anghenion y disgyblion, y staff a’r gymuned wrth i waith ar y cynllun gwerth hyd at £12 miliwn symud yn ei flaen.

Yn ystod eu hymweliad ag Ysgol Bontnewydd, roedd cyfle i’r penseiri glywed gan y disgyblion beth hoffent weld yn eu hysgol newydd ac i drafod anghenion staff yr ysgol gyda’r pennaeth. Bydd mewnbwn yr ysgol gyfan a defnyddwyr y ganolfan gymunedol yn allweddol i ddyluniad yr adeilad a bydd cyfres o gyfarfodydd efo’r penseiri yn cael eu cynnal yn fuan yn y tymor newydd i drafod syniadau.

Nid dyma’r tro cyntaf i’r penseiri siarad efo’r plant, gan fod y disgyblion wedi cael y cyfle i fod yn rhan o’r broses benodi. Dros y misoedd nesaf, bydd y broses gynllunio, dylunio ac adeiladu’r ysgol newydd yn gyfle euraidd i’r plant ddysgu am y maes ac i agor eu llygaid o oed ifanc i’r posibiliadau o ran gyrfa mewn meysydd technegol.

Un o gonglfeini’r ysgol newydd fydd ei ethos eco-gyfeillgar. Bydd hyn yn amlwg yn ystod y gwaith adeiladu gyda’r bwriad o ail-ddefnyddio cymaint ag sy’n bosib o ddeunyddiau gwreiddiol yr ysgol a’r ganolfan gymunedol bresennol gan leihau cylch bywyd carbon yr adeilad ac adnoddau newydd. Yna, wedi i’r ysgol newydd agor, bydd yr adeilad yn sero net o ran ei allyriadau nwyon tŷ gwydr gan wneud defnydd o ynni adnewyddol, insiwleiddio effeithlon ac annog teithio cynaliadwy.

Dywedodd Aimee Jones o gwmni Penseiri TACP: “Rydym yn falch iawn o gael ein penodi i wireddu’r prosiect hwn fydd yn enghraifft wych o ysgol o’i math. Edrychwn ymlaen at weithio gyda'r ysgol, y gymuned, yr awdurdod lleol a'r holl ymgynghorwyr eraill a benodwyd i wireddu'r cynllun arloesol hwn. Rydym yn edrych ymlaen yn arbennig am gael gweithio gyda dysgwyr yr ysgol i sicrhau ein bod gyda'n gilydd yn darparu adeilad yn y gymuned y byddant yn falch ohono am flynyddoedd lawer i ddod.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Menna Trenholme, Aelod o Gyngor Gwynedd dros Bontnewydd:

“Roedd yn braf iawn cael croesawu’r penseiri i Bontnewydd heddiw ac roedd yn gyfle gwych i ni ddechrau trafod ein dymuniadau ar gyfer yr ysgol a’r adnoddau cymunedol efo nhw. Roedd yn fendigedig cael mewnbwn y plant a dwi’n edrych ymlaen at gael cyfleoedd pellach i gydweithio i’r dyfodol.

“Er bod yr hen ysgol yn agos at galonnau pawb ohonom ac mae’n le hapus, does dim dwywaith fod pawb yn edrych ymlaen yn fawr at weld y cynlluniau’n siapio a’r ysgol newydd yn cael ei chodi. Rydw i’n falch y bydd yr ysgol newydd yn fwy o ran ei maint gydag amgylchedd ac adnoddau dysgu sy’n gweddu gofynion modern.

“Dwi hefyd yn falch y bydd cyfle trwy hyn i’r plant ddysgu am gynaliadwyedd a phensaernïaeth drwy gydol y prosiect.”

Llywodraeth Cymru sy’n darparu’r holl gyllid ar gyfer adeiladu’r ysgol newydd wedi i Gyngor Gwynedd roi cais llwyddiannus ymlaen am arian drwy Her Ysgolion Cynaliadwy. Dyma un o ddim ond tair ysgol trwy Gymru gyfan a’r unig un yn y gogledd sydd wedi llwyddo i ennill y buddsoddiad hwn.

Dywedodd Jeremy Miles AS, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Addysg a’r Iaith Gymraeg:

"Rwy'n falch iawn bod adeilad newydd Ysgol Bontnewydd yn symud ymlaen mor dda diolch i £12m o gyllid o'n Her Ysgolion Cynaliadwy.

“Pa ffordd well o ymgorffori ein hymrwymiadau tuag at leihau allyriadau carbon a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, nag i blant, staff a chymunedau helpu gyda dylunio, adeiladu a rheoli'r amgylchedd dysgu di-garbon newydd hwn."

Bydd cynlluniau manwl ar gyfer yr ysgol newydd yn cael eu datblygu dros y misoedd nesaf a chynhelir trafodaethau pellach gyda’r holl gymuned, gyda’r gobaith y bydd y gwaith adeiladu yn dechrau yn 2024 a’r ysgol newydd yn agor yn ystod 2026.