Cyngor Gwynedd yn dod â hyd yn oed mwy o dai segur yn ôl i ddefnydd ac i ddwylo trigolion lleol

Dyddiad: 08/08/2023
Mae Cyngor Gwynedd wedi lansio addasiad cyffrous ac arloesol i un o’i gynlluniau tai, er mwyn rhoi’r cyfle i ddod â hyd yn oed mwy o aneddiadau segur yn ôl i ddefnydd ac i ddwylo trigolion lleol.

 

Mewn digwyddiad ar ei stondin yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, cyhoeddodd y bydd tai a fu’n arfer bod yn ail gartrefi bellach yn gymwys am grant  prynwyr tro cyntaf i adnewyddu tai gwag, gan ehangu’r opsiynau sydd ar gael i bobl leol gymryd y cam cyntaf ar ysgol eiddo.

 

Mae’r cynllun ehangach i gynnig grantiau i adnewyddu tai gweigion wedi bod yn weithredol ar ei ffurf presennol ers 2021 a daw’r addasiad hwn mewn ymateb i gynnydd yn y nifer o ymgeiswyr sy’n methu bodloni’r meini prawf i dderbyn y grant. Yn flaenorol, nid yw perchnogion cyn ail gartrefi wedi bod yn gymwys ar gyfer y grant, er gwaetha’r ffaith eu bod yn adeiladau segur. Felly, er mwyn ymateb i’r diffyg hwn, mae’r Cyngor wedi penderfynu ymestyn meini prawf y cynllun i gynnwys tai segur a fu’n arfer bod yn ail gartrefi, hynny yw eiddo a fu’n gymwys i dalu Premiwm Treth Cyngor.

 

Mae’n hysbys bod diffyg tai addas i bobl leol yng Ngwynedd, tra mae bron i 10% o holl dai’r sir yn ail gartrefi. Mewn rhai ardaloedd yng Ngwynedd, mae’r ffigwr yn sylweddol uwch, megis Aberdyfi (43%), Trawsfynydd (42%) a Llanengan (39.8%). Mae hyn yn ei dro yn golygu bod yr opsiynau sydd ar gael i bobl leol gymryd y cam cyntaf ar ysgol dai yn gyfyngedig iawn.

 

Hyd yma, mae tua 70 o brynwyr tro cyntaf o Wynedd wedi cael help i fyw yn lleol diolch i'r  Cynllun Grantiau Prynwyr Tro Cyntaf i Adnewyddu Tai Gwag, sy’n rhan allweddol o Gynllun Gweithredu Tai Cyngor Gwynedd. Clustnodwyd £4m ar gyfer y cynllun hyd at 2026/27 ac mae 38 o grantiau, sydd werth oddeutu £500,000, eisoes wedi’u dyfarnu a 25 arall yn y broses.

 

Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Dai ac Eiddo: 

  

“Tra mae nifer bobl Gwynedd yn methu canfod eu tŷ cyntaf, mae cannoedd o dai yng Ngwynedd yn eiddo i berchnogion sydd eisoes â thŷ arall. Ac yn aml iawn mae ail dai yn wag am gyfnodau hir o’r flwyddyn a nifer mewn cyflwr gwael. Ochr-yn-ochr â hyn, mae 65.5% o boblogaeth Gwynedd wedi’u prisio allan o’r farchnad dai, ac mae hynny gymaint â 96% mewn ardaloedd sydd â nifer o dai gwyliau.

 

“Mae gwneud cyn ail gartrefi yn gymwys i dderbyn y grant yma felly yn gwneud perffaith synnwyr, ac yn un ffordd arall y gallwn helpu trigolion Gwynedd gymryd y cam cyntaf i sicrhau cartref yn lleol.

 

“Mae’n bwysig nodi nad am y stereoteip tai haf sydd werth miliynau dan ni’n siarad amdanyn nhw yma, ond yn hytrach y tai teras, bythynnod ac ati sydd wedi’u gadael a’u hanghofio ac wedi mynd i gyflwr gwael dros amser.

 

“Mi faswn i’n annog unrhyw un sy’n berchen ar dŷ a oedd yn arfer bod yn ail gartref gwag nes iddynt ei brynu, i edrych ar wefan y Cyngor am fwy o fanylion, neu gysylltu â thîm Grantiau Tai Gwag y Cyngor am sgwrs.”

 

Dywedodd Sion Taylor, derbynnydd cyntaf y grant ar ei newydd wedd:

“Roedd y tŷ dwi wedi ei brynu arfer bod yn gartref i fy ffrind a dw i’n cofio chwarae yma’n hogyn bach. Gwerthwyd y tŷ rhyw 15 mlynedd yn ôl ac aeth o’n ail gartref. Roedd o ar lefydd fel Airbnb, sy’n bechod gan fod gymaint o bobl ifanc, leol eisiau aros ac eisiau tŷ.

 

“Mae’r grant yn golygu gymaint i fi. Wnes i drio amdano fo pan brynais i'r tŷ a ges i fy ngwrthod. Ro’n i mor falch pan ddaeth y Cyngor yn ôl mewn cysylltiad i ddeud bod y telerau wedi newid.

 

“Mae o am fod yn help mawr cael ail wneud y tŷ a symud i mewn yn gynt. Fel arall, fysa wedi cymryd blynyddoedd i neud o’n hun.

 

“Swn i’n argymell i rywun drio am y grant sydd yn yr un sefyllfa â fi, mae o werth ei gael. Cysylltwch efo’r Cyngor a gweld be fedran nhw ei neud i chi.’’