Cyngor Gwynedd eisiau eich sylwadau ar Gyfarwyddyd Erthygl 4

Dyddiad: 03/08/2023
Mae Cyngor Gwynedd yn awyddus i glywed barn trigolion ar newid i reolau cynllunio lleol a fyddai’n ei alluogi i reoli’r defnydd o dai fel ail gartrefi a llety gwyliau yn Ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd.

 

Y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyfres o fesurau i fynd i’r afael ag effaith ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr ar gymunedau. Yn eu plith, roedd diwygiad i ddeddfwriaeth cynllunio a oedd yn cynnwys cyflwyno dosbarthiadau defnydd penodol ar gyfer prif gartref, ail gartref a llety gwyliau.

 

Mae’n bosib newid rhwng y dosbarthiadau defnydd hyn heb yr angen i dderbyn caniatâd cynllunio, ond er mwyn atal y newid defnydd digyfyngiad hwn mae gan Awdurdodau Cynllunio Lleol y grym i gyflwyno’r hyn a elwir yn Gyfarwyddyd Erthygl 4.

 

Byddai cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn golygu fod rhaid derbyn caniatâd cyn newid defnydd prif gartref i fod yn ail gartref neu lety gwyliau tymor-byr. Ni fyddai’r newid yn berthnasol i eiddo sydd eisoes wedi sefydlu fel ail gartref neu lety gwyliau tymor-byr cyn i’r Cyfarwyddyd Erthygl 4 ddod yn weithredol.

 

Mae Cyngor Gwynedd yn ymgysylltu ar y bwriad yma ar gyfer Ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd (sef yr ardal o Wynedd a leolir tu allan i Barc Cenedlaethol Eryri) ar hyn o bryd ac yn awyddus i dderbyn sylwadau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd:

 

“Does dim dwywaith fod tai gwyliau – boed yn ail gartrefi neu’n lety gwyliau tymor-byr yn cael effaith ar allu pobl Gwynedd i gael mynediad at dai addas yn eu cymunedau.

 

“Dyna pam mae’r Cyngor wedi bod yn gwneud popeth posib i gael cyflwyno newidiadau fyddai’n ein galluogi i gael gwell rheolaeth ar y maes ac yn ei dro ceisio sicrhau fod ein stoc tai ni’n cynnig cartrefi fforddiadwy i bobl Gwynedd allu byw yn eu cymunedau.

 

“Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno newidiadau sy’n galluogi cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 a fyddai’n cynnig cam pwysig i reoli’r defnydd o dai fel ail gartrefi a llety gwyliau yn Ardal Awdurdod Cynllunio Gwynedd.

 

“Rydan ni’n awyddus iawn i dderbyn sylwadau ar y bwriad yma. Bydd yr holl ymatebion a dderbynnir yn cael eu hystyried yn ofalus cyn y bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i Gabinet y Cyngor am benderfyniad terfynol.”

 

Mae’r Cyngor yn annog trigolion a sefydliadau i ddweud eu dweud yn ystod y cyfnod ymgysylltu cyhoeddus sydd ar agor tan 13 Medi 2023. Mae holiadur ar-lein ar  www.gwynedd.llyw.cymru/erthygl4 gyda holiadur papur hefyd ar gael o Siop Gwynedd Caernarfon, Pwllheli, Dolgellau a llyfrgelloedd cyhoeddus y sir.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno pwerau digynsail i awdurdodau lleol, gan ganiatáu iddynt reoli nifer yr ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr yn y dyfodol.

 

Mae newidiadau i'r fframwaith cynllunio cenedlaethol wedi cyflwyno tri dosbarth defnydd newydd, sef, prif gartref, cartref eilaidd a llety tymor byr. Mae gan bob awdurdod cynllunio lleol y pŵer i benderfynu a oes angen caniatâd cynllunio i newid o un dosbarth defnydd i'r llall trwy ddatgymhwyso hawliau datblygu a ganiateir. Mae posib datgymhwyso'r hawliau hyn drwy gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4. Os bydd yn cael ei gadarnhau, Cyngor Gwynedd fydd yn gyfrifol am ei weithredu.

 

Mae Cyngor Gwynedd yn cynnal cyfnod ymgysylltu ar y bwriad yma (cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4) ar gyfer Ardal Awdurdod Cynllunio Gwynedd, ac mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth ariannol ar gyfer ardal Dwyfor fel y bydd modd rhannu’r hyn sy’n cael ei ddysgu o ardal y peilot ledled y wlad.

 

Nodyn:

Mae Cyngor Gwynedd wedi gosod ‘Rhybudd’ Cyfarwyddyd Erthygl 4 ar gyfer Ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd (sef yr ardal o Wynedd a leolir tu allan i Barc Cenedlaethol Eryri).

 

Ar hyn o bryd, mae’n bosib newid defnydd tŷ preswyl (sy’n prif gartref) i ddefnydd ail gartref neu lety gwyliau tymor byr heb orfod derbyn caniatâd cynllunio.

 

Pwrpas y Cyfarwyddyd Erthygl 4 fyddai diddymu’r hawl i newid defnydd heb ganiatâd cynllunio, ar gyfer y defnyddiau canlynol:

 

  1. Newid defnydd prif gartref (dosbarth defnydd C3) i ail gartref (dosbarth defnydd C5) neu lety gwyliau tymor byr (dosbarth defnydd C6) a defnyddiau cymysg penodol;
  2. Newid defnydd ail gartref (dosbarth defnydd C5) i lety gwyliau tymor byr (dosbarth defnydd C6) a defnyddiau cymysg penodol;
  3. Newid defnydd llety gwyliau tymor byr (dosbarth defnydd C6) i ail gartref (dosbarth defnydd C5) a defnyddiau cymysg penodol.  

 

Os byddai’r Cyngor yn bwrw ymlaen, yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth gan y Cabinet, byddai’r Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn dod yn weithredol ar gyfer Ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd o 1 Medi 2024. Ni fyddai’r newid yn berthnasol i eiddo sydd eisoes wedi sefydlu fel ail gartref neu lety gwyliau tymor-byr (cyn 1 Medi 2024).