Celf wedi ei gomisiynu gan Gyngor Gwynedd yn helpu i warchod enwau llefydd

Dyddiad: 07/08/2023
EnwauLleolLlyn
Bydd cyfle i Eisteddfodwyr weld darn o gelf arbennig a gomisiynwyd gan Gyngor Gwynedd fel rhan o brosiect cyffroes i sicrhau fod enwau llefydd yn parhau i fod ar gof a chadw.

Fel rhan o brosiect Enwau Cynhenid Cymraeg Cyngor Gwynedd, cynhaliwyd gweithdai gyda phlant lleol i gasglu enwau llafar ar leoliadau a nodweddion o fewn cymunedau Gwynedd.

Cofnodwyd yr enwau ar fap digidol a bellach mae’r Cyngor wedi comisiynu darn celf ‘Enwau Lleol Llŷn’ gan yr artist Sioned Glyn yn arbennig ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, fydd yn dangos rhai o’r enwau.

Eglurodd Meirion McIntyre Huws, Rheolwr Prosiect Hybu a Hyrwyddo’r Gymraeg Cyngor Gwynedd: “Bwriad y map digidol a’r llun ydy rhoi cyfle i ddangos amrywiaeth ein hiaith ac i gofnodi rhai o’r enwau anffurfiol yna, sydd yn rhan o hanes a thafodiaith leol, ac na wnaiff byth ymddangos ar fap swyddogol. 

“Bydd cyfle i’r cyhoedd gyfrannu enwau i’r map digidol ym mhabell Cyngor Gwynedd ar ddydd Iau yr Eisteddfod. Felly os oes gennych ddiddordeb yn y pwnc ac yn gwybod am rai o hen enwau llafar, dewch draw i’n gweld.”

Bydd y llun a’r map i’w gweld fel rhan o ddiwrnod Gwynedd Cymraeg ar Stondin y Cyngor ar Faes yr Eisteddfod, ddydd Iau 10 Awst. Am fanylion holl weithgareddau’r stondin drwy gydol yr wythnos, ewch i wefan y Cyngor www.gwynedd.llyw.cymru/Eisteddfod

Ar ôl yr Eisteddfod, bydd y llun yn mynd yn rhan o gasgliad celf parhaol Cyngor Gwynedd ac yn cael ei arddangos mewn lleoliadau addas.

Llun: Y darlun ‘Enwau Lleol Llŷn’ gan Sioned Glyn.