Canlyniadau Lefel A Ysgolion Gwynedd – 2023

Dyddiad: 17/08/2023

Dymuna Cyngor Gwynedd longyfarch yn wresog fyfyrwyr y sir wrth i ganlyniadau Lefel A gael eu cyhoeddi heddiw.

Dywedodd y Cynghorydd Beca Brown, Aelod Cabinet dros Addysg Cyngor Gwynedd:

“Dylem ymfalchïo’n fawr yn llwyddiant ein pobl ifanc. Mae’r myfyrwyr i’w llongyfarch am eu hymroddiad a’u dyfalbarhad ac mae fy niolch hefyd yn ddidwyll iawn i’r athrawon a’r staff ysgolion am eu gwaith caled wrth baratoi a chefnogi’r myfyrwyr mor drylwyr ar gyfer y cymwysterau hyn.

“Hoffwn ddymuno’r gorau i’n pobl ifanc wrth iddynt gymryd y camau nesaf cyffrous yn eu gyrfaoedd.”

Nododd Garem Jackson, Pennaeth Addysg Cyngor Gwynedd ei fodlonrwydd gyda’r canlyniadau Lefel A, Uwch Gyfrannol a chanlyniadau galwedigaethol cyfatebol yn ysgolion uwchradd Gwynedd.

Meddai: “Mae’n bleser cael datgan pa mor falch ydw i gyda chanlyniadau ysgolion Gwynedd. Mae’r myfyrwyr a’r athrawon fel ei gilydd i’w llongyfarch yn fawr ar eu llwyddiant.

“Hoffwn ddiolch yn ddiffuant iawn i’r ysgolion a’r athrawon am eu gwaith caled a’u hymroddiad, i’r myfyrwyr am eu hymdrechion arbennig ac i’w teuluoedd am eu cefnogaeth gyson.”

Cyfeiriodd Garem Jackson at lwyddiant arbennig mewn pynciau unigol. Ychwanegodd: “Er bod y niferoedd yn sefyll pynciau unigol yn amrywio’n sylweddol, mae’n bleser nodi bod canlyniadau yn dda iawn mewn Cymraeg, Hanes, Cemeg,  Mathemateg, Mathemateg Bellach a Llenyddiaeth Saesneg.”

Cyfeiriodd y Pennaeth Addysg hefyd at ei falchder yn llwyddiant myfyrwyr Gwynedd yn yr arholiadau Uwch Gyfrannol, gan ddymuno’n dda iawn iddynt oll yn eu Lefel A y flwyddyn nesaf.