Annog pobl ifanc i ddefnyddio mwy o Gymraeg ar wefannau cymdeithasol

Dyddiad: 04/08/2023
Er mwyn ceisio cynyddu’r nifer sy’n defnyddio’r Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol bydd Prosiect15, Cyngor Gwynedd yn cynnal gweithgareddau a chystadlaethau ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Ar stondin Mentrau Iaith Cymru, bob dydd, bydd Prosiect15 yn cynnal cystadleuaeth dweud jôc, a’i recordio, gyda gwobr o £20 i’w ennill.

Yn ystod yr wythnos hefyd bydd cystadleuaeth gwneud fideo ar wahanol themâu gyda thair gwobr o £45 i’w hennill.  Bydd jôcs a fideo'r enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar gyfryngau cymdeithasol Prosiect 15.

I annog pobl i gystadlu bydd y cyflwynydd Ameer Davies-Rana ar stondin Mentrau Iaith Cymru, stondin Cyngor Gwynedd ac yn crwydro’r Maes a Maes B.

Dywedodd Ameer Davies- Rana, Cyflwynydd a perchennog 1Miliwn:

“Rwyf yn awyddus iawn i weld mwy o bobl ifanc yn defnyddio’r Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol ac felly yn falch iawn o gael fy ngwahodd i gydweithio gyda Prosiect 15 yn yr Eisteddfod eleni”

Yn ogystal â chystadleuthau ar ddydd Iau, y 10fed o Awst am 3:00 o’r gloch y prynhawn cynhelir sesiwn banel ‘Merched sy’n ysbrydoli’ .Bydd Y Cynghorydd Beca Brown yn holi tair o ferched hynod lwyddiannus yn eu meysydd sef Alwen Williams, cyfarwyddwr portffolio Uchelgais Gogledd Cymru, Llinos Medi, arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn ac Angharad Gwyn, perchennog cwmni Adra/Home. Bydd y cyfan yn cael ei recordio a’i olygu ar gyfer cyfryngau cymdeithasol Prosiect 15.

Dywedodd sylfaenydd prosiect 15, Cynghorydd Craig ab Iago:

“Dim ond 11% o bobl ifanc sy’n defnyddio’r Gymraeg yn bennaf ar gyfryngau cymdeithasol. Rydym ni’n gobeithio y bydd ein gweithgareddau a chystadlaethau yn annog mwy  i greu cynnwys Cymraeg ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol. Does yna ddim digon ar hyn o bryd er bod y byd digidol yn chwarae rhan fawr ym mywydau pawb.”

Mae Prosiect15 yn defnyddio’r rhif 15 fel sylfaen i gynnal gweithgareddau sy’n trafod y byd a’i bethau. Y nod yw cael trafodaeth fywiog, gyhoeddus ar-lein drwy gyfrwng fideos ac unrhyw gynnwys digidol arall.

Am fwy o fanylion cysylltwch â uned iaith Cyngor Gwynedd ar (01286) 679452  iaith@gwynedd.llyw.cymru neu dilynwch Prosiect 15 ar Facebook, Trydar ac Instagram.