Contractau difa pla
Mae contract difa pla yn gytundeb i ddarparu gwasanaeth atal a difa pla i fusnesau a sefydliadau. Bydd swyddog yn monitro'r safle ac yn trin unrhyw bla fel bo'r angen.
Mae’n bosib teilwra contract i gwrdd ag anghenion unigol, a gellir llunio contract 6 mis neu flwyddyn gyfan.
Mae contract safonol yn cynnwys 4 ymweliad i ddelio â llygod (bach neu fawr), yn ogystal â 4 ailymweliad fel bo’r angen. Gellir ychwanegu at nifer yr ymweliadau ac at y math o blâu yr ydych am eu cynnwys o fewn y contract.
Ffioedd 2024/25
Bydd y pris yn amrywio yn ddibynnol ar faint y safle a’r math o bla yr ydych am eu cynnwys yn y contract.
Contractau difa pla
| Ffi / Pris Eithrio TAW | TAW / VAT @ 20% | Ffi / Pris yn cynnwys TAW lle'n berthnasol |
Contract Rheoli Cnofilod Safonol (blynyddol) 4 ymweliad a 4 ail-ymweliad |
£250 |
£50 |
£300 |
Safleoedd sy'n Perfformio'n Wael (blynyddol) 4 ymweliad a 4 ail-ymweliad |
£500 |
£100 |
£600 |
Contract Rheoli Cnofilod Safonol (6 mis) 2 ymweliad a 2 ail-ymweliad |
£125 |
£25 |
£150 |
Safleoedd sy'n Perfformio'n Wael (6 mis) 2 ymweliad a 2 ail-ymweliad |
£250 |
£50 |
£300 |
Holi am gontract difa pla
Gallwch holi am gontract:
- ar-lein: Holi am gontract difa pla
(y tro cyntaf y byddwch yn cysylltu â ni ar-lein bydd angen i chi greu cyfrif)
- ffôn: 01766 771000 (08:30 - 17:00, Llun - Gwener)