Cagliadau gwastraff masnachol un-tro

Os ydych yn cynnal digwyddiad cyhoeddus mae dyletswydd cyfreithiol arnoch (Dyletswydd Gofal) i ymdrin ag unrhyw wastraff cyffredinol ychwanegol ac ailgylchu, neu sbwriel a allai gael ei greu yn yr ardal. 

 

Gwneud cais

I drafod anghenion casglu gwastraff ac ailgylchu eich digwyddiada chael dyfynbris, cysylltwch â ni.

Rhaid gwneud cais am y gwasanaeth mewn da bryd, ac o leiaf 28 diwrnod cyn eich digwyddiad. Bydd rhagdaliad yn ofynnol. 

Cysylltwch â ni

Pan yn cysylltu â ni, ceisiwch ddarparu cymaint o wybodaeth â phosib, gan cynnwys:

  • Dyddiad y digwyddiad / Dyddiad y casgliadau
  • Lleoliad y digwyddiad / Lleoliad y pwyntiau casglu
  • Nifer a math o finiau
  • Amlder
  • Eich manylion cyswllt, yn cynnwys eich enw llawn, rhif cyswllt, cyfeiriad ar gyfer anfonebu.

 

Casgliadau gwastraff masnachol un-tro ar gyfer:

Tecstilau sydd heb eu gwerthu

neu

Cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach sydd heb eu gwerthu (sWEEE).

Er mwyn cael dyfynbris, cysylltwch â ni: