Digwyddiadau Busnes

Mae digwyddiadau ar gyfer busnesau yn cael ey cynnal ar hyd y flwyddyn yng Ngwynedd. Cadwch lygaid ar y dudalen i weld y diweddaraf am ddigwyddiadau Busnes@Gwynedd.


Digwyddiadau ar y gweill

Sesiynau galw heibio 

Mae Busnes@Gwynedd a menter cyflogaeth Gwaith Gwynedd yn cynnal sesiynau galw heibio.  Mae croeso i unrhyw fusnes neu unigolyn alw heibio am sgwrs. Bydd yn gyfle gwych i ddysgu mwy am sut gall Cyngor Gwynedd eich helpu o ran anghenion recriwtio eich busnes.

  • 25/01/24 9:30am - 3pm M-Sparc ar y Lon, Bangor
  • 23/02/24 9:30am - 3pm Dref Werdd, Blaenau Ffestiniog
  • 12/03/24 9:30am - 3pm Tanio Bermo, Abermaw
  • 22/04/24 9:30am - 3pm Antur Aelhearn, Llanaelhaearn
  • 23/05/24 10:00am – 4pm Hwb Ogwen, Bethesda
  • 19/06/24 9:30am – 3pm Tŷ Siamas, Dolgellau 

 

Digwyddiadau sydd wedi eu cynnal

Awst 4 - 12 2023

I ddathlu bod yr Eisteddfod yn dod i Llŷn ac Eifionydd cynigiodd Busnes@Gwynedd 6 caban yn rhad ac am ddim i fusnesau lleol nad oeddent wedi masnachu yn yr Eisteddfod o'r blaen. Ar ôl proses gystadleuol bu 13 busnes yn llwyddiannus:

  • Casgliad Lowri Roberts
  • Paentio Wynebau Enfys
  • Gwenynfa Pen y Bryn
  • Coffi Dre
  • Te Parti
  • Blagur Coed
  • Meian
  • Dylunio Wyn
  • Taldraeth a Maeth Natur
  • Pensolar Cyf
  • Dillad yr Wyddfa
  • Mary Gwen

Ar 9/08/2023 roedd hi’n Ddiwrnod Llewyrchus Gwynedd o fewn pabell Cyngor Gwynedd ac arweiniodd hyn at banel cyffrous Busnes@Gwynedd lle bu Daloni Metcalfe a Lesley Griffiths AS, Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, yn siarad â busnesau lleol Meian, Mary Gwen a Dylunio Wyn am eu cynnyrch, eu gwasanaethau a’u perthynas â’r Gymraeg.

Roedd Diwrnod Busnes Cyngor Gwynedd yn gyfle unigryw i fusnesau a sefydliadau sy’n gweithredu yng Ngwynedd ddod at ei gilydd i gwrdd, dysgu a rhannu a datblygu syniadau a strategaethau newydd.

Roedd y digwyddiad yn cynnig trosolwg o hinsawdd busnes yn Ngwynedd, yn ogystal â throsolwg o’r math o gymorth sydd ar gael i fusnesau wrth iddynt lywio’r heriau sy’n eu wynebu. 

  • Roedd bore’r digwyddiad yn canolbwyntio ar 3 busnes lleol, gan rannu straeon am yr heriau maent wedi wynebu a’r cyfleon sydd wedi codi drwy fod yn arloesol.
  • Roedd sesiwn y prynhawn yn canolbwyntio ar y cymorth ymarferol sydd ar gael gan sefydliadau cymorth busnes yng Ngwynedd.

Yn y bore roedd cyfle i glywed straeon 3 busnes lleol o sut maent wedi delio hefo heriau a wynebwyd yn yr blynyddoedd diwethaf ac sut maent wedi ffeindio ffyrdd arloesol i barhau hefo ei busnesau.

  •  Harlech Foodservice
  • Tanya Whitebits
  • Pant Du

Yn yr prynhawn roedd gyfle i glywed am yr hinsawdd fusnes gan Dr Edward Jones, darlithydd mewn Economeg o Brifysgol Bangor ac yr sefydliadau cymorth isod ynglŷn a sut all nhw rhoid cymorth ymarferol i fusnesau yn Ngwynedd, gan gynnwys gwybodaeth ynglŷn a grantiau cymorth busnes gan Cyngor Gwynedd.

  • Busnes Cymru
  • Busnes@ Llandrillo Menai
  • Banc Datblygol Cymru
  • Purple Shoots
  • Tim Cymorth Busnes Cyngor Gwynedd

Roedd y sefydliadau isod gyda stondinau yn yr digwyddiad ac ar gael i gynnig cymorth ac gwybodaeth ynglŷn a’i gwasanaethau.

  • Gwaith Gwynedd
  • Byw’n Iach
  • Hwb Menter
  • Busnes@ Llandrillo Menai
  • ARFOR

Mewn ymateb i’r argyfwng costau byw a’r costau rhedeg busnes cynyddol, trefnwyd gweminar ar gyfer busnesau bach a chanolig eu maint wedi eu lleoli yng Ngwynedd oedd yn edrych ar ffyrdd o wella effeithlonrwydd busnes er mwyn gostwng costau a chynyddu refeniw.

Yn cymryd rhan yn y gweminar roedd Siwan Lisa Evans, Prosiect Platfform Digidol ar gyfer y Sectorau Bwyd a Lletygarwch, Cyngor Gwynedd, Geraint Huws a Zoe Pritchard, Grŵp Ymgynghori Lafan a Sarah Morris, Busnes Cymru.

Gweld copi o’r cyflwyniadau


Mwy o wybodaeth

Cysylltwch â’r Tîm Cefnogi Busnesau Lleol: busnes@gwynedd.llyw.cymru 

Mewn ymateb i’r argyfwng costau byw a’r costau ynni cynyddol, cynhaliodd Uned Cefnogi Busnes y Cyngor weminar ar gyfer busnesau lleol oedd yn edrych ar ffyrdd o effeithlonni eu hadnoddau er mwyn gostwng eu costau a’u hallyriadau carbon.

Yn cymryd rhan yn y digwyddiad roedd Richard Fraser-Williams o Fusnes Cymru a Stu Meads, ymgynghorydd amgylcheddol o brosiect yr Academi Ddigidol Werdd, Coleg Llandrillo-Menai.

Mae copi o gyflwyniadau’r gweminar, y Canllaw Arbedion Gwyrdd a phecyn gwybodaeth pellach ar gael isod:

  1. Cyflwyniadau Busnes Cymru a’r Greener Edge
  2. Canllaw Arbedion Gwyrdd
  3. Pecyn Gwybodaeth Bellach