Prosiectau Cymorth Busnes

Diolch i arian Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (SPF) a ddyrannwyd gan Gyngor Gwynedd, bydd amrywiaeth o brosiectau sy'n darparu cyngor a chymorth i fusnesau lleol ar gael yn ystod 2024.  Mae’r gefnogaeth yn cwmpasu popeth o sut i wneud y gorau o dechnoleg newydd a chyfleoedd i hyfforddi'r gweithlu, i gyngor ar sut i sefydlu busnes newydd.

Mae manylion y cymorth sydd ar gael gan wahanol brosiectau wedi eu rhestru isod er mwyn i fusnesau Gwynedd ddod o hyd i’r gefnogaeth sy’n addas iddyn nhw.

 

Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn anodd iawn i'r gymuned fusnes ond erbyn hyn gall busnesau yng Ngwynedd dderbyn cymorth a fydd yn eich helpu i gymryd y camau cyntaf tuag at adennill eich gweithgareddau busnes, naill ai drwy adfer Busnes blaenorol, ehangu a gwella eich gweithgareddau presennol neu amrywiaeth i sectorau eraill.

Bydd adolygiad o'ch Busnes yn cael ei gynnal fel y gellir awgrymu defnyddiau newydd neu well ar gyfer sgiliau, offer ac eiddo yn ogystal â chael mynediad at unrhyw gyfleoedd ariannu perthnasol ar gyfer bylchau sgiliau, hyfforddiant ac achredu a phrynu offer newydd. 

Gwefan: Ailwefru - M-SParc 

Mae cynllun Dyfodol Digidol ar gael i fusnesau yng Ngwynedd, o unrhyw sector, wella eich gwybodaeth am sgiliau digidol a thechnoleg, yn ogystal â rhoi cyfle i rwydweithio a chryfhau'r gadwyn gyflenwi leol a gyrru arloesedd digidol yng Ngwynedd.

Trwy'r cynllun Dyfodol Digidol hoffem i fusnesau deimlo bod ganddynt ddigon o reolaeth dros ddylanwad cynyddol technoleg ddigidol i fanteisio ar gyfleoedd yn y dyfodol. 

Cofrestru

Mae Sgiliau Cyflogwyr Gogledd Cymru o fudd i fusnesau yng Ngwynedd drwy nodi bylchau sgiliau a chyfeirio cyflogwyr at hyfforddiant wedi'i ariannu'n llawn gyda'r nod o hwyluso twf busnes, diogelu swyddi a chefnogi creu swyddi newydd. Gall busnesau sy'n cymryd rhan fanteisio ar ystod eang o hyfforddiant a ddarperir gan Grŵp Llandrillo Menai ynghyd â darpariaeth busnes arbenigol drwy Busnes@LlandrilloMenai.

Gwefan: Sgiliau Cyflogwyr Gogledd Cymru

Gall busnesau yng Ngwynedd fanteisio ar hyfforddiant arloesol mewn datgarboneiddio, ynni adnewyddadwy, a sgiliau ôl-ffitio o Tŷ Gwyrddfai, Penygroes. Mae'r hyfforddiant a ddarperir yn galluogi unigolion a busnesau i ddatblygu sgiliau ym maes lleihau carbon sy'n datblygu'n gyflym.

Gwefan: https://www.gllm.ac.uk/cy/busnes/projects/hyfforddiant-net-sero-training-gwynedd

Mae'r Academi Ddigidol Werdd ar gael i helpu busnesau weld gwerth o ddefnyddio technoleg ddigidol newydd, cyflymu effeithlonrwydd, lleihau allyriadau carbon a lleihau costau. Gan weithio gyda mentor, gallwn eich helpu i werthuso eich sefyllfa bresennol, dadansoddi eich busnes, a datblygu cynllun i gael hyfforddiant a chyllid i'ch cefnogi i leihau eich ôl troed carbon.

Gwefan: Academi Ddigidol Werdd | Busnes@LlandrilloMenai (gllm.ac.uk)

Mae Cwmpas yn darparu cymorth busnes i fentrau cymdeithasol, felly os ydych chi'n ystyried dechrau menter gymdeithasol neu eisoes yn rhedeg un ac yn edrych i ddatblygu, mae cefnogaeth gan Cwmpas ar gael. Gallent gynnig amrywiaeth o wasanaethau fel hyfforddiant cyfarwyddwyr, creu polisïau, agor cyfrifon banc a mwy.  

Gwefan: https://employeeownershipwales.co.uk/

 

Mae Cwmpas hefyd yn arbenigwyr mewn cynlluniau perchnogaeth gweithwyr ar gyfer busnesau, a gall ddarparu cymorth arbenigol i wneud cynlluniau'n realiti i fusnesau presennol neu unrhyw un sy'n sefydlu busnes perchnogaeth gweithwyr.

Gwefan:Perchnogaeth Gweithwyr Cymru - Cwmpas

Mae’r cynllun hwn yn cynnig cyfle gwych i fusnesau gydweithio â Phrifysgol Bangor. Mae’r Brifysgol yn cynnig talebau y gellir eu defnyddio i dderbyn cymorth gan nifer o brosiectau ymchwil a datblygu, gwasanaethau ymgynghorol, defnydd o offer arbenigol a llawer mwy.

Gwefan: https://www.bangor.ac.uk/cy/business-services/cynllun-talebau-sgiliau-ac-arloesedd

Mae'r Hwb Menter yma i'ch helpu chi i gychwyn busnes drwy gynnal digwyddiadau, cymorth un i un, sesiynau Miwtini a llawer mwy.

Mae Trefi SMART yn anelu i osod WiFi cymunedol ar brif strydoedd ar draws Gwynedd a Môn. Gall y  dechnoleg gasglu data sy’n cael ei arddangos ar lwyfan data y prosiect, a chefnogi busnesau lleol i ddefnyddio’r data yma i lywio penderfyniadau busnes, ac i fesur effaith unrhyw ymyriadau neu ddigwyddiadau yn y dref.

Gwefan: Hwb Menter

Mae’r rhwydwaith yn cynnal digwyddiadau i godi ymwybyddiaeth o’r cymorth i ddatgarboneiddio sydd ar gael i fusnesau yn yr ardal.  Bydd hyn yn hybu gweithgareddau sy’n galluogi, cefnogi ac arwain busnesau a sefydliadau ar dwf busnes, anelu at Sero Net a hybu’r economi gylchol. 

Mae Grant Gwella Sgiliau’r Gweithlu ar gael i roi cymorth i fusnesau gynnig hyfforddiant i weithwyr ddatblygu eu sgiliau. Bydd gwybodaeth am sut i ymgeisio ar gael yn fuan. 

 

 

 funded-by-uk-gov-stacked-welsh  

levelup_lockup_rgb_blue_on_white_welsh