Y drefn o ddewis prosiectau

Sefydlwyd proses gystadleuol ranbarthol o ymgeisio ar gyfer dyrannu arian Cronfa Ffyniant Gyffredin y DG (SPF)  i brosiectau dros £250,000. Daeth yr alwad gyntaf am geisiadau prosiect amlinellol yng Ngogledd Cymru i ben ar 24 Chwefror 2023, ac fe dderbyniwyd 114 o geisiadau gan ymgeiswyr yn dymuno gweithredu yng Ngwynedd, oedd yn gofyn am dros £51 miliwn o arian y Gronfa.

Fe ddewisodd Cyngor Gwynedd pa ymgeiswyr oedd yn cael mynd ymlaen i gyflwyno cais prosiect manwl gyda chyngor gan bartneriaeth o randdeiliaid lleol (Grŵp Ymgynghorol Cronfa Ffyniant Gyffredin: Gwynedd) oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o'r sectorau cyhoeddus, preifat, addysg a'r drydedd sector gan adlewyrchu'r ystod o weithgaredd sydd yn bosib drwy law'r SPF. 

Cafodd y ceisiadau prosiect manwl eu gwerthuso yn drylwyr gan dîm Cronfa Ffyniant Gyffredin Gwynedd gan ystyried y canlynol:

  • aliniad cynigion gyda blaenoriaeth buddsoddiadau ac ymyriadau yr UKSPF
  • allbynnau a chanlyniadau disgwyliedig cynigion
  • sut mae’r cynigion yn ychwanegu at weithgaredd a darpariaeth bresennol, ac yn dangos tystiolaeth o ymgysylltu gyda sefydliadau perthnasol eraill
  • y gallu i gyflawni a chapasiti’r ymgeisydd (gan gynnwys ymwybyddiaeth o ofynion cyfreithiol a rheoliadol)
  • y ddealltwriaeth o anghenion yr ardaloedd lleol y maent yn bwriadu gweithredu ynddynt
  • barn rhanddeiliaid perthnasol o fewn y meysydd gweithgaredd

Rhoddwyd ystyriaeth hefyd i’r amrywiaeth cyffredinol o weithgaredd, a gwasgariad daearyddol y cynigion drwy’r sir. 

Cyflwynwyd argymhellion o brosiectau i’w cymeradwyo yng nghyfarfod Cabinet Cyngor Gwynedd Rhaglen ar gyfer Y Cabinet, Dydd Iau, 20 Gorffennaf, 2023, 10.00 y.b. (llyw.cymru) 

 

Yn ôl i brif dudalen Cronfa Ffyniant Gyffredin