Cynlluniau Cyflogaeth

Cynllun Cyflogaeth Meirionydd


Mewn ymateb i'r her sy'n wynebu economi Meirionnydd - yr ergyd ddisgwyliedig i economi'r ardal yn dilyn cwblhau gwedd gyntaf dadgomisiynu safle Atomfa Trawsfynydd a thoriadau'r sector gyhoeddus - mae Cynllun Cyflogaeth Meirionnydd wedi ei ddatblygu i gynnig ymateb cynhwysfawr a chydlynol i anghenion yr ardal heddiw ac ar gyfer y dyfodol.

Mae'r Cynllun yn edrych ar raddfa'r her economaidd sydd ym Meirionnydd ac ar y cynlluniau sy'n cael eu datblygu ar hyn o bryd i greu sylfeini ar gyfer cyflogaeth y dyfodol ac i sicrhau economi blaengar, bywiog a chynaliadwy gydag amrywiaeth o gyfleoedd gwaith o ansawdd uchel.


Cynllun Cyflogaeth Llŷn & Eifionydd


Mae’r Cynllun yn seiliedig ar dystiolaeth data 2013 ac, yn dilyn y patrwm arloesol fabwysiadwyd gyda Chynllun Cyflogaeth Meirionnydd, mae’n ceisio creu darlun o economi Llŷn ac Eifionydd ar bwynt mewn amser, a’r darlun hwnnw, lle gellir, wedi ei ddatblygu o’r ystadegau perthnasol i’r ardaloedd lleol - Ardal Pen Llŷn, Ardal De Llŷn, Ardal Pwllheli, Ardal Nefyn a Gogledd Llŷn, Ardal Criccieth ac Ardal Porthmadog.

Mae cymryd golwg mwy lleol yn hytrach na dibynnu ar ystadegau ar sail ddaearyddol sirol neu isranbarthol wedi amlygu darlun ychydig yn wahanol o Lŷn ac Eifionydd, a pha ffactorau sydd angen sylw os ydi’r ardal a’i thrigolion i ffynnu i’r dyfodol.


Mae'r Cynlluniau yn edrych ar raddfa'r her economaidd sydd yn bodoli ac ar y cynlluniau sy'n cael eu datblygu ar hyn o bryd i greu sylfeini ar gyfer cyflogaeth y dyfodol ac i sicrhau economi blaengar, bywiog a chynaliadwy gydag amrywiaeth o gyfleoedd gwaith o ansawdd uchel.


Manylion Cyswllt

I gael copi caled (niferoedd cyfyngedig ar gael), cysylltwch â'r Gwasanaeth Strategaeth a Datblygu, Adran Economi a Chymuned:

Ffôn: 01286 679 343
E-bost: strategaethadatblygu@gwynedd.llyw.cymru