Tocyn Teithio 16+

Dros 16 oed ac yn byw ac yn astudio yng Ngwynedd? Edrycha ar yr amserlenni i weld os bydd y Tocyn Teithio 16+ o fudd i chdi: Amserlenni Bws Tocyn Teithio 16+ 

Archebu Tocyn Teithio 16+ ar-lein

(Rhaid creu cyfrif os nad oes gen ti un yn barod)

Gweld telerau ac amodau

Os nad ydi hi'n bosib i chdi archebu ar-lein, ffonia: 01766 771000.

 

Pris

Mae'r Tocyn Teithio 16+ ar gael am ddim.

 

Cwestiynau cyffredin

Mae’r Amserlenni Bws Tocyn Teithio 16+ yn nodi pa wasanaethau sydd ar gael fel rhan o’r tocyn. Cofia nad ydi’r tocyn yn rhoi hawl i chdi deithio ar bob cludiant cyhoeddus yng Ngwynedd. Dy gyfrifoldeb di yw gwneud yn siŵr bod gwasanaeth ar gael i/o’r lleoliad, ac ar yr amser rwyt ti eisiau teithio.

Unwaith ti wedi archebu e-docyn bydd ar gael yn syth ar apGwynedd. Mae apGwynedd ar gael i’w lawrlwytho am ddim o Google Play neu Apple Store. Bydd angen dangos yr e-docyn ar dy ffôn bob tro ti'n teithio.

Unwaith rwyt ti wedi archebu yr e-docyn ar-lein bydd ar gael i'w ddefnyddio yn syth ar apGwynedd.

Os ydi apGwynedd gen ti ar dy ffôn yn barod, mae'n bosib y bydd angen i chdi allgofnodi, ac yna mewngofnodi eto i'r ap er mwyn i'r tocyn ymddangos.

Byddwn yn gyrru e-bost efo linc i lawrlwytho apGwynedd atat ar ôl i chdi archebu e-docyn. Os nad wyt ti'n cael yr e-bost, edrycha yn y ffolder spam rhag ofn. Os wyt ti'n dal i gael trafferth, gyrra e-bost i fynghyfrif@gwynedd.llyw.cymru   

Os yn teithio ar fws ysgol/coleg yn unig, rhaid cael Tocyn Teithio 16+ er mwyn teithio arno. Tydi hi ddim yn bosib talu am deithiau unigol. 

Os yn teithio ar wasanaeth bws arferol/cyhoeddus, bydd yn bosib talu am deithiau unigol. 

Nid oes angen tocyn ar gyfer teithio o un safle coleg i’r llall fel rhan o’r cwrs. Cyfrifoldeb y coleg/ysgol yw darparu cludiant rhwng safleoedd yn ystod y diwrnod addysgu.

Os wyt ti'n 15 oed ac yn mynd i flwyddyn 12 neu ar gwrs addysg bellach does dim angen archebu tocyn.

Os wyt ti'n teithio i Goleg Meirion Dwyfor Pwllheli a bod dy gyfeiriad cartref mewn mannau penodol i’r de o Borthmadog, mae’n bosib y byddi di'n cael cynnig i deithio ar drên yn hytrach na bws. Bydd pob myfyriwr sydd yn gymwys i dderbyn tocyn trên yn cael y cynnig wrth lenwi’r ffurflen gais.

Nid yw’n bosib cael e-docyn ar gyfer teithio ar y trên ar hyn o bryd, dim ond tocyn drwy’r post. Gall y tocyn gymryd hyd at 10 diwrnod i’ch cyrraedd felly cofiwch ei archebu mewn da bryd. 

Y cyfan sydd angen ei wneud ydi lawrlwytho apGwynedd i ffôn/dyfais arall a bydd dy docyn ar gael yn syth.

Rho wybod i ni am unrhyw newid i dy fanylion. Dos i dy gyfrif ar-lein a mynd i Fy Ngheisiadau. Agora'r cais ac anfon unrhyw ddiweddariad ymlaen i ni..

Rhaid cadw at y côd ymddygiadtelerau ac amodau tocyn teithio a Polisi Cludiant Ôl-16 Oed.; os nad wyt ti'n gwneud hyn, mae posib i ti gael dy wahardd rhag cael tocyn.

Cofia mai dim ond y myfyriwr sydd wedi ei enwi ar y tocyn sy'n cael ei ddefnyddio.  

 

Am ragor o wybodaeth, cysyllta â ni:

Cysylltu ar-lein: Ymholiad Tocyn Teithio 16+