Cludiant dysgwyr sy'n derbyn addysg uwchradd

Gweld amserlenni bysus ysgol

Gallwch wneud cais am gludiant os yw’r holl bwyntiau canlynol yn berthnasol i’ch plentyn:

  • mae eich plentyn yn byw yng Ngwynedd
  • mae eich plentyn yn mynychu’r ysgol neu safle ysgol agosaf, neu’r ysgol neu safle ysgol yn eich dalgylch
  • mae’r daith i’r ysgol neu safle ysgol yn fwy na 3 milltir - mae'r siwrnai o’r cartref i’r ysgol neu safle ysgol yn cael ei fesur fel y daith fyrraf ar hyd llwybr saff.
  • mae eich plentyn o dan 16 oed ar 31 Awst

Mae disgwyl i ddysgwyr sy'n derbyn addysg uwchradd (ac eithrio’r disgyblion gydag anghenion addysgol arbennig neu anableddau) gerdded hyd at 2 filltir i gyfarfod ag unrhyw gludiant sy'n cael ei ddarparu gan Gyngor Gwynedd.

Polisi Cludiant sefyllfa methu agor ysgol (neu ran o ysgol) Cyflwynir trefniadau cludiant dros dro mewn sefyllfa ble nad yw’n bosib agor ysgol ddalgylch (neu ran o ysgol ddalgylch) am gyfnod o amser. Gall sefyllfaoedd fel hyn godi, er enghraifft, o fethu â staffio ysgol, neu lle bo difrod wedi bod mewn ysgol (e.e. tân).

Gall y trefniadau fod ar gyfer ystod oedran cyfan ysgol, neu ystod o oedrannau penodol o fewn ysgol (yn dibynnu ar yr amgylchiadau).

Pan na fydd hi’n bosib agor ysgol (neu ran o ysgol) ddalgylch fe ystyrir bod dalgylch yr ysgol nad yw’n bosib ei hagor yn dod yn rhan o ddalgylch gwahanol (e.e. dalgylch ysgol gyfagos (neu ddalgylch mwy estynedig na hynny os oes angen) er mwyn sicrhau adeilad addas sydd ar gael i gartrefu’r ysgol).

Cymhwysir Polisi Cludiant Ysgolion arferol y Cyngor i’r dalgylch gwahanol, newydd, dros dro hwn.

Felly - darperir cludiant i ddisgyblion sy’n byw yn y Sir ac sydd wedi cofrestru mewn ysgol sy’n cael ei rhedeg gan y Cyngor

  • Ysgolion cynradd - ar gyfer disgyblion sy’n byw 2 filltir neu ymhellach o’r ysgol agosaf (neu adeilad addas) yn y dalgylch gwahanol, newydd dros dro ble mae llefydd ar gael, neu i ysgol sydd ddim yn y dalgylch gwahanol, newydd dros dro ond sydd yn agosach at gartref y disgybl (dim yn cynnwys disgyblion dosbarth meithrin).
  • Ysgolion uwchradd - ar gyfer disgyblion o dan 16 oed sy’n byw 3 milltir neu ymhellach o’r ysgol agosaf (neu adeilad addas) yn y dalgylch gwahanol, newydd dros dro ble mae llefydd ar gael, neu i ysgol sydd ddim yn y dalgylch gwahanol, newydd dros dro ond sydd yn agosach at gartref y disgybl.

 

I gael cludiant rhaid i ddisgyblion gydymffurfio â'r cod ymddygiad ar gyfer cludiant ysgol. Cyfrifoldeb rhieni / gwarcheidwaid yw sicrhau bod eu plant yn cydymffurfio â'r cod ymddygiad. Mae peidio â chydymffurfio yn gallu arwain at golli'r hawl i gael cludiant o'r cartref i'r ysgol. Os yw disgybl yn colli'r hawl i gludiant , rhaid i'r rhieni / gwarcheidwaid dalu am gludiant o'r cartref i'r ysgol. Am fwy o wybodaeth edrychwch ar Cod ymddygiad wrth deithio

 

Sut ydw i’n gwneud cais am gludiant ?

Dylai disgyblion sydd yn gymwys i dderbyn tocyn cludiant dderbyn y tocyn hyn o fewn wythnos gyntaf y flwyddyn addysgol. Os nad ydynt, am unrhyw reswm, wedi derbyn tocyn o fewn yr amser hyn gellir gwneud cais ar-lein: 

Am unrhyw wybodaeth ychwanegol am gludiant ysgol, cysylltwch â ni ar 01766 771 000.