Diogelwch a lles

Am fwy o wybodaeth am y polisïau, neu i dderbyn copi o ganllawiau'r ysgol, cysylltwch â’r ysgol: Manylion Cyswllt Ysgolion.  


Cymorth cyntaf mewn ysgolion

Mae'n rhaid cael o leiaf un person sydd wedi eu hyfforddi mewn Cymorth Cyntaf ym mhob ysgol.

Mae gan bob ysgol wybodaeth ar gymorth cyntaf sydd yn cynnwys gwybodaeth am:

  • offer a chyfleusterau cymorth cyntaf addas
  • amlinelliad o'r nifer o bersonél cymorth cyntaf sy'n rhaid i ysgolion eu cael
  • y math o asesiad risg sy'n cael ei ddefnyddio er mwyn penderfynu ar anghenion cymorth cyntaf yr ysgol


Bwlio 

Am unrhyw wybodaeth ynglŷn a bwlio, ewch i'r dudalen bwlio


Grym rhesymol

Mae gan bob ysgol ganllawiau unigol ynglŷn â defnyddio grym rhesymol. Mae'r canllawiau'n cynnwys gwybodaeth fel:

  • beth yw'r gyfraith ynglŷn ag athro yn defnyddio grym rhesymol mewn ysgol
  • pa staff a awdurdodir i ddefnyddio grym rhesymol a sut maent yn cael ei hyfforddi 
  • beth yw'r broses o gofnodi digwyddiadau lle defnyddiwyd grym corfforol gan aelod o staff
  • beth fydd yn digwydd os gwneir cwyn yn dilyn digwyddiad


Rhoi meddyginiaeth i blentyn

Mae gan bob ysgol ganllawiau ynglŷn â darparu meddyginiaeth i ddisgyblion. Mae'r canllawiau'n cynnwys gwybodaeth fel: 

  • beth yw'r oblygiadau cyfreithiol ar athrawon i roi meddyginiaeth i ddisgyblion  
  • pa aelodau o staff sy'n gymwys i roi meddyginiaeth i ddisgyblion
  • pa fath o feddyginiaeth sy'n addas i'w storio yn yr ysgol


Polisi tynnu lluniau

Mae gan bob ysgol ganllawiau unigol ynglŷn â thynnu lluniau. Mae'r canllawiau'n nodi:

  • ym mha amgylchiadau mae angen caniatâd gan riant neu warchodwr  
  • pa fath o ganiatâd fydd ei angen gan riant neu warchodwr ar gyfer lluniau sy'n cael eu tynnu at bwrpas cyhoeddusrwydd
  • ym mha sefyllfaoedd y dylid gwahardd camerâu a ffonau symudol 


Nyrs ysgol

Os oes arnoch chi eisiau gwybodaeth am nyrs eich ysgol, cysylltwch â'ch canolfan leol:

Arfon

Bodfan Bach – 01286 685558
Tŷ Cegin – 03000 850034

Dwyfor
Cilan – 01758 701152

Meirionydd
Y Lawnt – 03000 850010