Bwlio

Mae gan bob ysgol bolisi atal bwlio. Mae'r polisi'n cynnwys gwybodaeth fel:

  • beth yw'r mathau gwahanol o fwlio (corfforol, geiriol, emosiynol ac ati)
  • pwy i gysylltu â nhw os yw eich plentyn yn cael ei fwlio
  • gwasanaethau sy'n cynnig cefnogaeth i ddisgyblion sydd yn cael eu bwlio

Am wybodaeth ychwanegol, neu i dderbyn copi o ganllawiau'r ysgol, cysylltwch â’r ysgol yn uniongyrchol. Am fanylion cyswllt ewch i'r Manylion Cyswllt Ysgolion.

 

Beth yw bwlio?

  • ymddygiad niweidiol bwriadol sy’n parhau dros gyfnod o amser
  • gall fod yn llafar, corfforol neu emosiynol
  • gall ddigwydd yn yr ysgol neu y tu allan i’r ysgol

Mae bwlio yn golygu bod rhywun yn defnyddio eu pŵer dros rywun arall.

 

Gall olygu:

  • bygythiadau a thrais corfforol
  • galw pobl yn enwau
  • gwneud niwed i eiddo
  • peidio â chynnwys disgyblion mewn gweithgareddau cymdeithasol yn fwriadol
  • lledaenu straeon
  • negeseuon tecst neu e-bost cas

 

Nid bwlio yw. . .

  • ffraeo gyda ffrindiau
  • dadleuon dros dro
  • profocio achlysurol
  • cweryla  

  • mae 1 ym mhob 2 o ddisgyblion yn dweud eu bod wedi cael eu bwlio yn ystod tymor ysgol
  • mae bron i hanner disgyblion ysgol uwchradd yn teimlo nad yw eu hathrawon yn ymwybodol bod bwlio yn mynd ymlaen
  • dros y bum mlynedd ddiwethaf, bwlio yw’r rheswm mwyaf cyffredin dros ffonio Childline.

Siarad gyda’ch plentyn
Efallai na wnaiff eich plentyn ddweud wrthych ei fod yn cael ei fwlio ond efallai y bydd yn ddistaw, i’w weld yn anhapus a ddim eisiau mynd i’r ysgol.

Ceisiwch ddarganfod a oes problem drwy siarad gyda nhw am:

  • eu gwaith ysgol
  • eu ffrindiau
  • beth maent yn ei wneud yn ystod amser chwarae ac amser cinio
  • unrhyw broblemau neu bryderon sydd ganddynt

Gall darganfod bod eich plentyn yn cael ei fwlio fod yn anodd, ond ceisiwch beidio â chynhyrfu a siaradwch efo nhw am yr hyn sy’n digwydd:

  • gwnewch nodyn o’r hyn y maent yn ddweud sydd wedi digwydd; pwy oedd yno, lle, pryd a pha mor aml
  • cysurwch nhw eu bod wedi gwneud y peth iawn yn dweud wrthych chi
  • dywedwch wrthynt am ddweud wrth athro am y bwlio ar unwaith
  • cysylltwch gydag ysgol eich plentyn ynglŷn â’r bwlio a gofynnwch am weld eu polisi bwlio er mwyn i chi fod yn ymwybodol o’r hyn fydd yn digwydd 
  • cadwch mewn cysylltiad gyda’r ysgol; rhowch wybod iddynt os yw’r bwlio yn dod i ben neu’n dal i ddigwydd
  • os yw’r bwlio yn ddifrifol, cysylltwch gyda’r heddlu; maent yn cymryd unrhyw adroddiadau o fwlio o ddifrif. 

  • gofynnwch iddynt ddangos unrhyw negeseuon y maent wedi eu derbyn i chi
  • dywedwch wrthyt am beidio ymateb i fwli ar y rhyngrwyd, nac ymateb i negeseuon tecst ymosodol
  • gwnewch yn siŵr mai dim ond sgyrsiau ar-lein sydd yn cael ei harchwilio y maent yn eu defnyddio
  • os yw bwlio yn dechrau yn ystod sgyrsiau ar-lein, dywedwch wrthynt am roi’r gorau i’r sgwrs yn syth a dweud wrthych chi
  • dywedwch wrthynt am beidio â rhannu eu manylion cyswllt personol ar-lein

Gall rhywun fod yn fwli heb hyd yn oed sylweddoli hynny. Gall eich plentyn fod yn fwli damweiniol drwy:

  • anfon neges tecst cas am rywun i rywun arall
  • chwerthin am sylwadau annifyr
  • mae’n haws bod yn fwli damweiniol wrth ddefnyddio e-bost, negeseuon tecst ac ati gan nad yw’n gwneud dim yn uniongyrchol

Os yw eich plentyn yn bwlio

  • efallai eu bod yn dynwared ymddygiad eraill yn y teulu, y gymuned neu ffrindiau
  • gall eu ffrindiau fod yn eu hannog i fwlio
  • gall eich plentyn fod yn mynd trwy gyfnod anodd ac felly’n ymddwyn mewn ffordd ymosodol tuag at eraill

Er mwyn atal eich plentyn rhag bwlio

  • ceisiwch annog eich plentyn i gyfaddef beth y maent yn ei wneud – bydd yn anodd iddynt gyfaddef eu bod yn gwneud rhywbeth o’i le
  • eglurwch i’ch plentyn nad yw’r ffordd y maent yn ymddwyn yn dderbyniol a’i fod yn gwneud i eraill deimlo’n anhapus
  • ceisiwch annog eich plentyn i ymddiheuro i’r plentyn y maent wedi ei frifo
  • dangoswch i’ch plentyn sut i chwarae gydag eraill heb fwlio
  • cysylltwch gydag ysgol eich plentyn er mwyn trafod sut y gallwch weithio gyda’ch gilydd er mwyn diwedd ar y bwlio
  • gofynnwch i’ch plentyn sut y mae pethau yn yr ysgol
  • rhowch ganmoliaeth i’ch plentyn pan maent yn cydweithredu ac yn garedig gydag eraill
  • ceisiwch annog eich plentyn i helpu eraill sy’n cael ei bwlio a’u hannog i ddweud wrth athro neu oedolyn y maent yn ymddiried ynddynt