Llywodraethwyr

Os ydych chi’n berson sy’n gallu cydweithio efo bobl eraill, eisiau dysgu rywbeth newydd a chyfrannu at eich cymuned, dylech ystyried dod yn lywodraethwr.

Rôl llywodraethwr

Fel llywodraethwr rydych yn weithiwr gwirfoddol sydd â diddordeb mewn addysgu neu ddysgu, sy’n cynrychioli aelodau yn y gymuned a staff yr ysgol. Rydych yn aelod o dîm sy'n derbyn cyfrifoldeb am bopeth mae ysgol yn ei gyflawni, yn darparu cefnogaeth i'r ysgol, ac yn rhoi eich barn ar safonau a materion rheoli.

Mae gan bob ysgol gorff llywodraethu, sydd fel arfer yn cynnwys:

  • Rhiant-lywodraethwr
  • Llywodraethwyr yr Awdurdod Addysg Lleol
  • Llywodraethwyr Cymunedol 
  • Llywodraethwyr Cymunedol ychwanegol
  • Llywodraethwyr Sylfaenol
  • Athro-lywodraethwr
  • Staff-lywodraethwr

 

Sut i ddod yn lywodraethwr

Cysylltwch â'r Uned Cefnogi Llywodraethwyr:

E-bost: unedcefnogillywodraethwyr@gwynedd.llyw.cymru

Ffôn: (01286) 679 303

Cyfeiriad: Uned Gefnogi Llywodraethwyr, Swyddfa Addysg, Cyngor Gwynedd, Stryd y Castell, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH


Llawlyfr llywodraethwyr

Dyma lyfryn gwybodaeth sy'n rhoi arweiniad i lywodraethwyr ysgolion Gwynedd. Y gobaith yw y gallwch ei ddefnyddiol i’ch cynorthwyo i gyflawni eich rôl yn llwyddiannus ac i sicrhau’r amodau gorau posib ar gyfer plant a staff.


Hyfforddiant

I gofrestru eich hun ar gwrs mae angen cysylltu gyda Meleri Mair -

E-bost: unedcefnogillywodraethwyr@gwynedd.llyw.cymru

Ffôn: 01286 679 303

I wneud yr hyfforddiant mandadol ar-lein ewch i safle we Cynnal - www.cynnal.co.uk. I dderbyn eich cyfrinair cysylltwch â Chymhorthydd Cefnogi Llywodraethwyr Cyngor Gwynedd ar 01286 679 303.

 

Mwy o ddogfennau: