Cludiant am ddim

Gallwch wneud cais am gludiant am ddim os yw’r holl bwyntiau canlynol yn berthnasol i’ch plentyn:

  • mae eich plentyn yn byw yng Ngwynedd
  • mae eich plentyn yn mynychu’r ysgol agosaf neu’r ysgol yn eich dalgylch
  • mae’r daith i’r ysgol yn fwy na 2 filltir i ddysgwyr mewn ysgol gynradd a 3 milltir i ddysgwyr ysgol uwchradd – mae'r siwrnai o’r cartref i’r ysgol yn cael ei fesur fel y daith fyrraf ar hyd llwybr saff.

Mae disgwyl i ddisgyblion mewn ysgol gynradd gerdded hyd at 2 filltir a dysgwyr mewn ysgol uwchradd i gerdded 3 milltir (ac eithrio’r disgyblion gydag anghenion addysgol arbennig neu anableddau) i gyfarfod ag unrhyw gludiant sy'n cael ei ddarparu gan Gyngor Gwynedd.

I gael cludiant am ddim rhaid i ddisgyblion gydymffurfio â'r cod ymddygiad ar gyfer cludiant ysgol. Cyfrifoldeb rhieni / gwarcheidwaid yw sicrhau bod eu plant yn cydymffurfio â'r cod ymddygiad. Mae peidio â chydymffurfio yn gallu arwain at golli'r hawl i gael cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol. Os yw disgybl yn colli'r hawl i gludiant am ddim, rhaid i'r rhieni / gwarcheidwaid dalu am gludiant o'r cartref i'r ysgol. Am fwy o wybodaeth edrychwch ar y Cod ymddygiad wrth deithio

 

Cais am gludiant am ddim