Sut mae talu?

Mae Treth Cyngor i’w thalu bob mis am ddeg mis (oni bai eich bod chi wedi gwneud trefniadau eraill, e.e. talu mewn un taliad, talu dros 12 mis, neu dalu am y misoedd sy'n weddill o'r flwyddyn ariannol).

Mae angen i'r taliad gyrraedd y Cyngor erbyn y 1af o'r mis (heblaw am daliadau debyd uniongyrchol).

Mae sawl dull gwahanol o dalu:

  • Debyd uniongyrchol - dyma'r ffordd hawsaf o dalu. Gallwch ddewis talu ar y 5ed, 15ed, 21ain , 28ain o'r mis neu yn wythnosol bob Dydd Llun. Gallwch drefnu taliad debyd uniongyrchol drwy: 

    • Lawrlwytho ffurflen debyd uniongyrchol 
      (a'i dychwelyd drwy'r post i'r cyfeiriad sydd ar y ffurflen.)
    • ffonio (01286) 682700 (byddwch angen eich manylion banc wrth law). 
    • Os ydych yn talu gyda Debyd Uniongyrchol yn barod ac angen addasu manylion banc, ffoniwch (01286) 682 700.
  • Talu ar-lein
  • Ffôn: 01766 771000 (rhwng 08:30 a 17:00 Llun i Gwener) - gallwch dalu gyda cherdyn Debyd neu Gredyd

 

Derbyn eich bil Treth Cyngor drwy e-bost

Helpwch yr amgylchedd drwy roi'r gorau i ddefnyddio papur! Erbyn hyn mae’n bosib dewis derbyn eich bil Treth Cyngor drwy e-bost yn hytrach na drwy’r post. Am ragor o wybodaeth ewch i’r dudalen bilio electronig.