Pwy ddylai dalu?

Fel arfer pwy bynnag sy’n byw yn yr eiddo sy’n talu, os mai hwn ydy eu prif neu unig gartref a’u bod dros 18 mlwydd oed. Os oes yna fwy nag un yn byw yn yr eiddo, yna’r un sydd uchaf ar y rhestr yma sy’n talu:

  • perchennog sy’n byw yn yr eiddo
  • tenant sy’n byw yn yr eiddo
  • unrhyw un arall sy’n byw yn yr eiddo
  • perchennog sydd ddim yn byw yn yr eiddo

Os oes yna fwy nag un yn y categorïau yma e.e. cydberchnogion neu gyplau priod yna mae'r ddau yn gyfrifol, a gall y naill neu’r llall dalu. 

Mewn rhai amgylchiadau arbennig e.e. eiddo sydd wedi ei rannu yn nifer o fflatiau un ystafell, eiddo sydd wedi ei feddiannu gan unigolion gyda chytundebau neu denantiaeth ar wahân, neu gartrefi ar gyfer yr henoed, yna y perchennog sy’n gyfrifol am dalu Treth Cyngor.

Os ydych yn meddwl mai nid chi sydd i fod yn gyfrifol am y dreth am ba bynnag reswm, er enghraifft, mai rhywun arall ddylai fod yn gyfrifol neu eich bod yn credu y dylai yr eiddo gael ei eithrio yna cysylltwch â ni:

Os ydych yn anfodlon a`r penderfyniad cofiwch fod hawl gennych i apelio yn gyntaf i'r Cyngor, a dim ond os y gwrthodir eich apêl yna wedyn i'r Tribiwnlys Prisio, ond rhaid ei wneud o fewn dau fis i'r hysbysiad gwrthod. Darperir manylion y Tribiwnlys i chi wrth ohebu â chi os y gwrthodir eich apêl.

Gallwch hefyd adael i ni wybod o unrhyw newid i'ch amgylchiadau ar-lein: Dweud wrthym am newid i'ch amgylchiadau