Gostyngiadau ac eithriadau

Dyma amlinelliad o'r gwahanol ostyngiadau/ eithriadau sydd ar gael.

Os nad ydych yn derbyn gostyngiad ond yn meddwl eich bod yn gymwys, cysylltwch â ni:

Holi am ostyngiadau / eithriadau

 

 Gostyngiadau:

Mae bil Treth Cyngor llawn wedi ei selio ar y dybiaeth fod 2 oedolyn yn byw yn yr eiddo.  Os mai dim ond 1 oedolyn sy'n byw yn eich cartref, byddwch yn derbyn gostyngiad o 25% yn y bil.

Hawlio / stopio hawlio disgownt person sengl

Adolygiad gostyngiad person sengl

Bydd rhai yn derbyn gostyngiad am nad ydyn nhw, neu eraill sy'n byw gyda nhw, yn cael eu hystyried wrth gyfrifo faint o oedolion sy’n byw mewn eiddo - er enghraifft myfyrwyr, cleifion mewn ysbyty, pobl ag anabledd dysgu. Os yw pawb sy'n byw yn yr eiddo yn cael eu diystyru at bwrpas cyfrifo Treth Cyngor, gall y gostyngiad fod hyd at 50%.

Adnabyddir yn genedlaethol fel 'Nam Meddyliol Difrifol'

Hybwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru a rhaglen / gwefan Money Saving Expert, Martin Lewis.

Mae'n bosib derbyn gostyngiad os oes ystafell (neu le ychwanegol) yn eich cartref wedi ei addasu'n arbennig ar gyfer person anabl, a sy'n cael ei ddefnyddio gan yr unigolyn hwnnw’n bennaf. Er enghraifft, ystafell ymolchi ychwanegol, ail gegin, neu ystafell hanfodol arall sy'n gysylltiedig â'r anabledd. Ni fydd gostyngiad os mai'r unig ran o'ch cartref sydd wedi ei addasu yw eich cegin, ystafell ymolchi neu’r toiled arferol.

 

 

Eithriadau:

Rhestr o'r gwahanol ddosbarthiadau o eithriadau:

  • eiddo gyda dim ond myfyrwyr yn byw ynddo dosbarth N)
  • neuaddau preswyl i fyfyrwyr (dosbarth M)
  • eiddo sy'n perthyn i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn ac sy'n cael ei gadw i letya'r Lluoedd Arfog (dosbarth O)
  • eiddo mae aelodau lluoedd arfog tramor yn byw ynddo (dosbarth P)
  • eiddo a rhai o dan 18 oed yn unig yn yw ynddo (dosbarth S)
  • eiddo gyda dim ond rhywun/rywrai sydd ag anableddau dysgu/anhwylder iechyd meddwl yn byw ynddo (dosbarth U)
  • eiddo sy'n brif breswylfa person sydd ddim yn ddinesydd Prydeinig a sydd â breintiau diplomydd, a fyddai yn gyfrifol am y dreth cyngor heblaw am yr eithriad hwn (dosbarth V)
  • eiddo sy'n rhan o eiddo unigol (e.e. estyniad henoed) ag sydd yn cael ei feddiannu gan berthynas sy'n byw yn y rhan arall. Ystyrir perthynas i fod yn ddibynnol os yw:  yn 65 mlwydd oed, ag anableddau dysgu/anhwylder iechyd meddwl, NEU yn anabl (dosbarth W)
  • eiddo gydag un neu fwy o unigolion sydd wedi gadael gofal (24 oed neu lai,ac yn berson ifanc categori 3 fel a ddiffinir gan Adran 104 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru 2014) lle mae pob preswylydd yn unai unigolion sydd wedi gadael gofal, yn fyfyrwyr neu sydd ag anableddau dysgu / anhwylder iechyd meddwl - eithriad yn effeithiol o 1af Ebrill 2019 yn unig (dosbarth X)

Rhestr o'r gwahanol ddosbarthiadau o eithriadau:

  • eiddo heb ei ddodrefnu nad oes neb yn byw ynddo – angen gwelliannau mawr neu newidiadau i'w adeiladwaith (mae'n bosib yn bydd y gwaith hwnnw yn mynd ymlaen ar y pryd). Cyfyngir y gwaith i 12 mis hyd yn oed os nad oes gwaith wedi ei wneud i'r eiddo. (Bydd eiddo'n eithriedig am 6 mis ar ôl i'r gwaith orffen, fodd bynnag ddim ond hyd at 12 mis o eithrio yn gyfangwbl.) (dosbarth A)
  • eiddo heb ei feddiannu sy'n perthyn i elusen, a'r elusen oedd yr olaf i ddefnyddio'r eiddo (eithriedig am 6 mis) (dosbarth B)
  • eiddo heb ei ddodrefnu'n llawn a heb neb yn byw ynddo (eithriedig am 6 mis) (dosbarth C)
  • eiddo heb ei feddiannu sy'n gartref i rhywun sydd yn y carchar (dosbarth D)
  • eiddo hen ei feddiannu a fu'n gartref i rywun a symudodd i gartref preswyl neu ysbyty er mwyn derbyn gofal preswyl (dosbarth E)
  • eiddo heb ei feddiannu – disgwylir llythyrau gweinyddu neu brofiant ewyllys ar ei gyfer (eithriedig hyd nes bydd profiant yn cael ei roi ac am 6 mis ar ôl hynny gyn belled â bod yr eiddo yn parhau yn nwylo y cynrychiolydd personol) (dosbarth F)
  • eiddo sy'n wag oherwydd fod y gyfraith yn atal unrhyw un rhag byw ynddo (dosbarth G)
  • eiddo gwag y bydd gweinidog yr efengyl yn symud i fyw iddo (dosbarth H)
  • eiddo gwag a fu'n gartref i rywun a symudodd i annedd arall (ond nid cartref preswyl nag ysbyty) er mwyn cael gofal personol (dosbarth I)
  • eiddo sydd wedi ei adael yn wag gan rhywun a symudodd oddi yno i roi gofal personol i rywun arall (dosbarth J)
  • eiddo heb ei feddiannu a fu'n gartref i un neu fwy o fyfyrwyr (mae'r eiddo'n eithriedig tra bod y sawl fyddai'n talu'r treth Cyngor fel arfer dal yn fyfyriwr/fyfyrwraig) (dosbarth K)
  • eiddo heb ei feddiannu sydd yn nwylo benthyciwr morgais (banc neu gymdeithas adeiladu er enghraifft) (dosbarth L)
  • eiddo heb ei feddiannu y mae'r sawl fyddai'n talu'r dreth cyngor arno fel arfer yn ymddiriedolwr i fethdalwr (dosbarth Q)
  • safle carafan neu angorfa cwch sy'n wag (dosbarth R)
  • estyniadau heb eu meddiannu nad yw'n bosib eu gosod ar wahân (dosbarth T)

Hyd at 12 mis ychwanegol, ar dai gwag sydd â gwaith atgyweirio sylweddol yn cael ei ymgymryd arno – ac ar gael i brynwyr tro cyntaf.

Mae’n ymestyn y cyfnod eithrio o 12 mis presennol o dalu Treth Cyngor (dosbarth A), i brynwyr tro cyntaf, ac sydd i fod yn brif neu unig gartref iddynt ar ôl cwblhau’r gwaith.

Rhoddir hyd at y 12 mis ychwanegol yma i gyflawni gwaith atgyweirio hanfodol, gyda y gwaith fel y gwaith atgyweirio sy’n berthnasol i gais eithriad dosbarth A.

Mae yn berthnasol mewn achosion ble fod yr eithriad wedi cael ei ddefnyddio gan berchnogion blaenorol, neu fod reswm dilys fod 12 mis yn annigonol i gwblhau y gwaith.

Anfonwch ebost gyda manylion perthnasol i:  trethcyngor@gwynedd.llyw.cymru

 

Os yw eich cais wedi ei wrthod cofiwch fod hawl gennych i apelio yn gyntaf i'r Cyngor a dim ond os y gwrthodir eich apêl yna wedyn i'r Tribiwnlys Prisio. Darperir manylion y Tribiwnlys i chi wrth ohebu â chi os y gwrthodir eich apêl.